Dysgu Byd-eang: Rhaglen Addysg Heddwch | Addysg Oedolion Cymru

Dysgu Byd-eang: Rhaglen Addysg Heddwch

14-Mai-2025
Rhannu

Mae Frances Brett, tiwtor sy’n gweithio yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru, wedi bod yn cyflwyno’r cwrs ar-lein Dysgu Byd-eang: Rhaglen Addysg Heddwch i ddysgwyr AOC. Mae’r cwrs yn cynnwys gwybodaeth am heddwch mewnol, beth mae heddwch yn ei olygu i chi, sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, sbardunau a rhagfarnau, a dysgu byd-eang, gan gynnwys newid hinsawdd a gwrthdaro byd-eang. Mae ffocws cryf ar ddeall heddwch a gwrthdaro yn ogystal â llythrennedd emosiynol. Mae’r cwrs wedi’i ddatblygu gyda mewnbwn gan ddysgwyr a fynychodd ‘Fforymau Dysgwyr’ AOC, oedd yn glir yn eu syniadau y dylai’r cwrs ddechrau gyda heddwch mewnol y dysgwr ac yna gweithio tuag allan at y ffordd maent yn ymdrin â gwrthdaro, yn eu perthnasoedd eu hunain ac o fewn eu cymunedau, cyn iddo agor allan i Gymru a’r byd ehangach. Cafodd cynnwys y cwrs ei arwain yn rhannol gan y dysgwyr a’i ddatblygu mewn ymgynghoriad llawn gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA). Roedd arbenigedd WCIA mewn cynllunio a chyflwyno addysg heddwch mewn ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn golygu eu bod yn bartner perffaith i weithio gyda hwy i ddatblygu’r cwrs hwn.

Yma, mae Frances yn rhannu ychydig o’r adborth gan ei dysgwyr a fynychodd y cwrs ym mis Mawrth 2025.

Beth a’ch cymhellodd i ymuno gyda’r cwrs?

Rwy’n meddwl fy mod yn weddol newydd i astudiaethau heddwch. Clywais am y cwrs gan Helen Porter, cydlynydd y rhaglen Ysgolion Heddychlon yn y canolbarth, yr ymunais fel gwirfoddolwr tua 2 flynedd yn ôl. Ymddeolais o fy ngwaith gyda’r Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid yn ystod COVID a cholli’r cyswllt gyda phobl ifanc yn eu harddegau a’u rhieni, rhywbeth roeddwn i wedi mwynhau cymaint. Cyn hynny, roeddwn wedi gweithio gyda Barnardos ers 10 mlynedd fel arweinydd tîm prosiect gyda rhieni plant cynradd a phlant cyn oed ysgol. Yn y ddau brosiect, roedd ffocws ar sut i reoli gwrthdaro yn ogystal â gwrando ar bobl ifanc. Roedd rhaglen y Crynwyr yn fy nenu oherwydd y gwaith tîm gyda’r dosbarth ac roedd yr athro a’r gwirfoddolwyr yn gweithio mewn parau.

Pan ddarllenais am y cwrs Heddwch Byd-eang, roedd gen i ddiddordeb mewn cael golwg ehangach ar heddwch o’r tu allan i’n prosiect lleol. Roedd gan Marita, y gwirfoddolwr roeddwn i wedi paru gyda hi ar y pryd, ddiddordeb hefyd, a chroesawais y cyfle i drafod pethau gyda hi. Teimlais y gallwn ymroi i’r ymrwymiad amser o 6 sesiwn wythnosol. Fel mae’n digwydd methais y 2 sesiwn gyntaf – yn bennaf rwy’n meddwl oherwydd fy niffyg profiad o ddefnyddio MS Teams, er gwaethaf y cymorth gefais gan yr adran TG, ond roedd y 4 sesiwn a fynychais yn bleserus ac yn ysgogol, a dysgais lawer wrth wrando ar y cyfranogwyr eraill.

Beth yn benodol oedd yn werthfawr i mi?

  • Yr astudiaethau achos a anogwyd i’w darllen a’u crynhoi ar gyfer y grŵp. Canolbwyntiais ar ddeiseb Heddwch y Merched, ond roeddwn wrth fy modd yn clywed am y gweithredoedd eraill yn nhreftadaeth heddwch Cymru megis Byncer Pen-y-bont, Maes Awyr Llanbedr, y Mudiad Gwrth-Apartheid Cymreig.
  • Y cyfle i edrych ar amcanion y Cenhedloedd Unedig ac i drafod eu perthnasedd.
  • Rhannu ein synnwyr heddwch ein hunain a sut i’w gyflwyno’n gadarnhaol ac yn gryf
  • Rheolaeth feddylgar Frances o’n trafodaethau – yn parchu a bwydo ein syniadau yn ôl
  • Y dewis o ddeunyddiau a ddarparwyd ganddi bob wythnos i ysgogi trafodaeth
  • Rhannu syniadau am yr hyn gallem ei wneud nesaf

Pa effaith mae’r cwrs wedi’i chael ar eich ffordd o feddwl?

  • Gwerthfawrogi gweithredoedd lleol, personol i gefnogi heddwch yn ogystal â gwthio am weithredoedd gan lywodraethau a chyrff cyhoeddus.
  • Mae’r dyfyniad gan Maria Montessori yn y daflen Ysgolion Heddwch:

“Gwaith addysg yw sefydlu heddwch parhaol; y cyfan y gall gwleidyddion ei wneud yw ein cadw allan o ryfel”

  • Y gwerth o wrando’n barchus ac yna siarad yn glir i gefnogi ymatebion cydraddoldeb a di-drais

Sut byddwch yn cario hyn ymlaen?

  • Rwyf am ddod o hyd i ffyrdd i’n galluogi i glywed gan wahanol leisiau ffermwyr ein hardal leol heb sbarduno gwrthdaro yn syth – cyfarfodydd lle gallwn annog gwrando cyn ymholi neu anghytuno. Rwy’n rhan o Climate Action Newtown ac eisiau gofyn i wahanol bobl am eu barn ar sut i wneud hyn, gan gynnwys myfyrwyr ifanc yn y coleg yma.

A fyddech yn annog eraill i wneud y cwrs?

  • Ie! Byddaf yn rhannu fy mhrofiad gyda gwirfoddolwyr eraill yn y rhaglen ysgolion heddychlon

I gael rhagor o wybodaeth am raglen Dysgu Byd-eang: Addysg Heddwch gan Addysg Oedolion Cymru, cliciwch ar y ddolen yma www.addysgoedolion.cymru/newyddion/cwricwlwm-dinasyddion-yr-hunan-heddychlon/

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth