
Sgiliau Hanfodol ac ESOL
Gall sgiliau Saesneg a rhifedd achosi rhwystrau enfawr i gyflogaeth a gallant achosi anawsterau gartref ac yn y gwaith. Os ydych yn siaradwr Saesneg cynhenid neu'n newydd i'r iaith, gall ein cyrsiau ESOL a sgiliau Sylfaenol helpu i ddatblygu'ch rhifedd a'ch llythrennedd gan eich arfogi gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnoch yn eich bywyd.

Sgiliau Digidol/ TG
Wrth i gwmnïau ddod yn fwy dibynnol ar gyfrifiaduron, ystyrir fod TG a llythrennedd cyfrifiadurol yn sgiliau pwysig i’w meddu. Cynllunnir ein cyfres o gyrsiau TG i helpu i ddatblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau mewn TG a chyfrifiadura, gyda ffocws ar ddatblygu sgiliau sy'n gysylltiedig gyda’r byd gwaith.
Eich cefnogi bob cam o’r ffordd
Mae cael cymorth a chefnogaeth ar hyd y ffordd yn bwysig. Cymorth i Ddysgwyr yw ein ffocws, ac mae'n sicrhau bod eich holl anghenion yn cael eu diwallu a'ch cwestiynau'n cael eu hateb. Nid oes rhaid i chi fyth deimlo ar eich pen eich hun neu'n bryderus - byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd.



