Aelodaeth | Addysg Oedolion Cymru

Mae Addysg Oedolion Cymru wedi lansio Cynllun Aelodaeth newydd a gwell!

Mae cynllun aelodaeth AOC yn gymuned o ddysgwyr presennol a blaenorol, a’r rhai sy’n ymroddedig i Ddysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) a dysgu gydol oes, sy’n medru drwy gyd-weithio fod yn gymorth i lunio AOC a’r amgylchedd ar gyfer dysgu ledled Cymru.

Ymaelodwch neu adnewyddwch eich aelodaeth bresennol a dewch yn rhan o’n cymuned weithgar heddiw!

Fel aelod, gallwch:

Gymryd rhan. . .

  • Ymuno gyda ni ar gyfer digwyddiadau aelodaeth ar-lein ac mewn person, gan gynnwys cynadleddau, darlithoedd unigryw a “boreau coffi” yn canolbwyntio ar themâu perthnasol a meysydd o ddiddordeb.
  • Mynychu teithiau dydd i atyniadau yng Nghymru gydag AOC am bris gostyngol i aelodau.
  • Cyflwyno cynigion ar gyfer newidiadau/mentrau newydd yn fewnol ac mewn perthynas â’r sector dysgu oedolion ehangach. Cyfrannu syniadau ar bynciau sy’n berthnasol i ddysgu oedolion yn y gymuned trwy grwpiau ffocws a chyfarfodydd.
  • Ymgeisio am swydd ar y Cyngor, corff llywodraethu AOC, neu pleidleisiwch dros eich cynrychiolydd ar y Cyngor.
  • Mynychu ein digwyddiad Gwobrau Dysgwyr blynyddol a’r gynhadledd.
  • Mynychu Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol (CCB) a phleidleisio ar gynigion.

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf. . .

  • Derbyn gwybodaeth aelodaeth wrth ymuno, ynghyd â cherdyn aelodaeth digidol, wedi’i ddilyn gan gylchlythyrau tymhorol a chyfathrebiadau e-bost rheolaidd am gyrsiau, mentrau newydd, a digwyddiadau.
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgynghoriadau’r Llywodraeth sy’n effeithio ar ddysgu oedolion yn y gymuned a chael y cyfle i gyfrannu atynt.
  • Derbyn gwybodaeth am gyflawniadau AOC a chyflawniadau ein dysgwyr.

Rhannu safbwyntiau. . .

  • Bydd AOC yn ymgynghori gydag aelodau ar syniadau a materion drwy e-bost, grwpiau ffocws a chyfarfodydd.
  • Derbyn cyswllt e-bost uniongyrchol i rannu barn gyda ni.
  • Ein helpu i benderfynu sut rydym yn gwario arian a godir o ffioedd aelodaeth, a chael y newyddion diweddaraf am sut mae’r arian wedi’i wario.

Arbed arian. . .

  • Derbyn gostyngiad o 10% ar ffioedd cyrsiau AOC pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer eich cwrs ar-lein.
  • Derbyn cynigion neu wahoddiadau arbed arian unigryw i ddigwyddiadau gyda’n partneriaid diwylliannol yng Nghymru.
  • Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Gŵyl y Gelli, y Royal Mint Experience, ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar gynigion unigryw i aelodau, diwrnodau allan i aelodau, a mynediad i weminarau ar-lein!

Fel sefydliad cynhwysol, rydym yn falch o weithredu’r dull ‘talu’r hyn y medrwch’ fel ffi flynyddol ar gyfer Aelodaeth Unigol. Argymhellir £5.00 i’r digyflog a £10.00 i unigolion cyflogedig, ond canllaw yn unig yw hwn.

I ymaelodi, neu ail-adnewyddu eich aelodaeth bresennol, cwblhewch ein Ffurflen Cofrestru Aelodaeth Newydd

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, gweler ein Cynllun Aelodaeth – Cwestiynau Cyffredin a Chynllun Aelodaeth – Telerau ac Amodau.