Ymunwch â ni yn ein digwyddiadau ar-lein, croeso i bawb!
I gael defnydd llawn o nodweddion Zoom, gan gynnwys cyfieithu ac
is-deitlau,
llawr lwythwch yr ap Zoom
cyn ymuno â'r cyfarfod.
| 1 |
☕ Bore Coffi Ar-lein: Cyflwyniad i Muscular Dystrophy UK (Dystroffi’r Cyhyrau) Dewch i ymuno gyda ni yn ein bore coffi ar-lein i ddysgu mwy am Muscular Dystrophy UK, sef elusen blaenllaw yn y DU sy’n canolbwyntio ar ariannu ymchwil i atal, trin a rheoli Dystroffi’r Cyhyrau. Bydd Jacqueline a Suzanne o Muscular Dystrophy UK yn cyflwyno sesiwn addysgiadol a diddorol sy’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o gyflyrau gwanhau a gwastraffu cyhyrau. Bydd y sgwrs yn cyflwyno gwaith yr elusen ac yn egluro’r gefnogaeth ymarferol, emosiynol ac eiriolaeth sydd ar gael trwy Muscular Dystrophy UK yn dilyn diagnosis. Bydd y sesiwn hefyd yn darparu gwybodaeth am sut gall pobl gael mynediad at gefnogaeth, gofyn cwestiynau, a chysylltu gyda gwasanaethau lleol. Croeso i bawb. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol 💻 Pryd: Dydd Gwener 22ain Mai 2026 o 10.00 a.m. hyd 11.00 p.m. 📍 Ble: Ar-lein – Croeso i bawb ymuno gyda ni! Dewch a phaned o goffi, a’ch cwestiynau, ac ymunwch gyda ni am sesiwn ysbrydoledig ac addysgiadol! ![]() |
Rydym wedi cael gwesteion gwych yn ein boreau coffi ar-lein dros y misoedd diwethaf! Ewch i’n sianel YouTube i'w gwylio!
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni