Ymchwil Gweithredol | Addysg Oedolion Cymru

Croeso i Ymchwil Gweithredol yn Addysg Oedolion Cymru!

 

Grymuso Addysgwyr drwy Ymchwil Gweithredol

Yn AOC credwn gall ymchwil gweithredol drawsnewid arferion a chanlyniadau addysgol. Mae ein tîm Ymchwil Gweithredol yn ymroddedig i gefnogi ymarferwyr ar eu taith o welliant parhaus trwy ymholi systematig ac ymarfer adfyfyriol.

 

Ein Gweledigaeth

“Ein nod yw meithrin diwylliant o ymholi, ymchwil gweithredol, a myfyrio er mwyn llywio arfer gorau, cefnogi twf ein tiwtoriaid a’n dysgwyr… a gwella’r profiad dysgu i bawb.”

 

Beth yw Ymchwil Gweithredol?

Offeryn yw ymchwil gweithredol sy’n eich galluogi i archwilio a gwella eich ymarfer addysgu, dod o hyd i fewnwelediadau gwerthfawr, a gwneud gwelliannau ystyrlon sydd o fudd i chi a’ch dysgwyr. Trwy ymchwil gweithredol, gallwch fynd i’r afael gyda heriau dyddiol byddwch yn dod ar eu traws yn eich rôl, gan ddarganfod atebion ymarferol sy’n cefnogi eich twf proffesiynol ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd dysgu ac ein sefydliad yn ei gyfanrwydd.

 

Pedwar o bobl yn gwisgo cortynnau gwddf yn eistedd wrth fwrdd gyda phapurau yn gwenu ar y camera.

 

Beth mae Ymchwil Gweithredol yn ei Gynnwys?

Yn greiddiol iddo, mae ymchwil gweithredol yn broses gylchol, syml: adnabod her, ymchwilio am atebion, rhoi newidiadau ar waith, a gwerthuso’r canlyniadau.

  • Adnabod her – Dechrau drwy adnabod problem neu her yn eich amgylchedd dysgu
  • Ymchwilio am Atebion – Ymchwilio i syniadau i gynhyrchu dulliau posibl i fynd i’r afael gyda’r broblem neu’r her
  • Ymgysylltiad Dysgwyr – Cynnwys dysgwyr drwy gasglu eu hadborth a’u mewnwelediad. Mae hyn yn sicrhau rhannu’r ymdeimlad o bwrpas ac ymgysylltiad Profi’r Atebion – Gweithredu’r dewis o strategaethau yn eich lleoliad
  • Gwerthuso a Myfyrio – Asesu’r canlyniadau, trwy eich myfyrdodau eich hun a gydag adborth gan ddysgwyr. Beth oedd yn effeithiol? Beth ellid ei wella?

Gan fod ymchwil gweithredol yn gylchol, efallai y bydd y cam gwerthuso yn eich arwain at ddarganfod cwestiynau a llwybrau newydd i’w harchwilio – felly mae’r broses yn dechrau eto!

 

Rhai meysydd ffocws allweddol ar gyfer Ymchwil Gweithredol yn Addysg Oedolion Cymru

  • Ymgorffori Dwyieithrwydd
  • Dysgu Digidol
  • Strategaethau Addysgu a Dysgu
  • Rheoli Ymddygiad Dysgwyr
  • Llythrennedd a Rhifedd
  • Cefnogi Dysgwyr gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
  • Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma mewn Addysgu a Dysgu
Dyn yn siarad yn fywiog gyda'i ddwylo yn sefyll wrth ymyl bwrdd gwybodaeth y gellir darllen "Action Research" arno.

 

A fedraf fod yn Ymchwilydd Gweithredol?

Yn bendant – gall pob ymarferydd fod yn ymchwilydd gweithredol! Mae ymchwil gweithredol yn eich galluogi i ymchwilio a mynd i’r afael gyda heriau dyddiol yn eich ystafell dosbarth/lleoliad AOC, gan eich helpu i ddod o hyd i atebion ymarferol sydd o fudd i chi a’ch dysgwyr.
Yn wir, efallai eich bod eisoes yn defnyddio agweddau ar ymchwil gweithredol yn eich rôl addysgu heb hyd yn oed sylweddoli hynny!

 

Straeon Llwyddiant

Darllenwch am deithiau ymchwil addysgwyr yn AOC sydd wedi rhoi ymchwil gweithredol ar waith yn llwyddiannus yn eu hymarfer. Darganfyddwch sut gwnaethant fynd i’r afael gyda’r heriau, atebion arloesol, a chyflawni canlyniadau rhyfeddol.

 

Cysylltwch gyda ni

Oes gennych gwestiynau neu angen cefnogaeth? Cysylltwch gyda’n tîm, Alex Clarke a Clair Charalambous. Rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.

Alex: alexandra.clarke@addysgoedolion.cymru

Clair: clair.charalambous@addysgoedolion.cymru