Addysg Oedolion Cymru: Ein Hymrwymiad i Noddfa
Mae Dysgu Oedolion Cymru yn ymrwymo i greu amgylcheddau dysgu croesawgar a chynhwysol ble gall pobl sy’n ceisio lloches ail-feithrin hyder, datblygu sgiliau a chyfranogi’n llawn ym mywyd cymunedau Cymru. Drwy gyfleoedd dysgu cymunedol hygyrch, rydym yn cynorthwyo ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr i ddatblygu sgiliau iaith, meithrin cysylltiadau cymdeithasol a symud ymlaen tuag at gyflogaeth, gwirfoddoli a chyfleoedd dysgu pellach.
MaeColegau Noddfa yn golegau:
- sy’n dysgu am hanfod ceisio noddfa,
- sy’n gwreiddio cysyniadau croesawu, diogelwch a chynhwysiant yn eu strwythurau eu hunain,
- ac sy’n rhannu ac yn dathlu eu cyflawniadau.
Ein Haddewid Noddfa:
- Cynnig cyfleoedd dysgu hygyrch sy’n cynorthwyo ceiswyr lloches i ail-feithrin hyder a datblygu sgiliau
- Hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o faterion noddfa ar draws ein cymunedau dysgu
- Dathlu cyfraniad ffoaduriaid a mudwyr i’r gymdeithas yng Nghymru
- Cydweithio trwy bartneriaeth â sefydliadau sy’n cynorthwyo pobl sy’n ceisio noddfa
- Sicrhau y caiff staff eu paratoi’n briodol i gynorthwyo dysgwyr drwy ddulliau cynhwysol sy’n ystyriol o drawma
Mae Addysg Oedolion Cymru yn falch o gefnogi uchelgais Cymru i ddod yn Genedl Noddfa ac rydym y gallu addysg gyflawni rôl allweddol o ran meithrin cymunedau cynhwysol a gwydn.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni