Cymorth Hygyrchedd
Mae’r dudalen hon yn darparu dolenni allanol cymorth hygyrchedd, sy’n galluogi defnyddwyr cyfrifiaduron i gael y gorau o’r rhyngrwyd beth bynnag fo eu gallu neu anabledd. Os bydd ei angen, defnyddiwch yr adnodd hwn i alluogi gwell defnydd o’r wefan hon. Gall defnyddwyr o’r wefan hefyd roi adborth ar hygyrchedd i addysg-marchnata@addysgoedolion.cymru er mwyn ein helpu i wella’r wefan ar gyfer defnyddwyr yn y dyfodol.
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall www.rnib.org.uk/living-with-sight-loss/assistive-aids-and-technology/tech-support-and-information/ - Mae gallu defnyddio cyfrifiaduron, ffonau llinell dir a symudol a dyfeisiau eraill ar gyfer gwaith, hamdden a chadw mewn cysylltiad yn allweddol i bobl ddall neu bobl rhannol ddall. Mae gwefan y RNIB yn darparu cyngor ac arweiniad yn ogystal â hygyrchedd i’w “Technology Support Squad” i’r rhai hynny sy’n rhannol ddall.
BBC www.bbc.co.uk/accessibility – yn darparu cyngor a chymorth ar sut i gael y gorau o nodweddion hygyrcvhedd a thechnolegau cynorthwyol sydd ar gael i’ch cyfrifiadur, fel y gallwch wella eich hygyrchedd i’r we.
I’r perwyl hyn, rydym wedi gwneud pob ymdrech i wneud y wefan gydweddu â thechnoleg gynorthwyol. Dylai fod yn bosibl defnyddio’r safle gyda fersiynau diweddar o dechnolegau cynorthwyol gan gynnwys JAWS (Job Access With Speech), NVDA (Non Visual Desktop Access), ZoomText, a Dragon Naturally Speaking. Dylai fod yn gallu defnyddio chwyddwyr sgrin a meddalwedd adnabod llafar sydd ar gael yn eich system weithredu.
Maint testun
Weithiau mae’n anodd i rai pobl ddarllen testun ar sgrin. Gosodwyd maint y ffont ar o leiaf 12pt a defnyddiwyd ffont Arial drwy’r wefan i gyd er mwyn sicrhau ei bod mor glir ag sy’n bosibl – heb yr angen i newid y maint. Mae’n bosibl, fodd bynnag, y gallwch ddefnyddio’ch porwr i newid maint y testun.
Rhagor o wybodaeth am newid maint testun yn eich porwr (mae’n agor mewn tab neu ffenestr newydd).
Yn ogystal â hyn, mae’n bosibl y bydd eich system weithredu’n darparu offer hygyrchedd sy’n cynnwys y gallu i chwyddo’r sgrin ar-lein.
Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r Ganolfan Mynediad Hawdd yn Windows 10 (mae’n agor mewn tab neu ffenestr newydd).
Gwrthgyferbyniad lliwiau
Rydym wedi defnyddio lliwiau cefndir trwy’r wefan i gyd a dylent wrthgyferbynnu’n ddigonol gyda’r testun (cymhareb 7:1) gan ei gwneud yn haws ei darllen.
I’r rhai ohonoch chi sy’n gweld bod y cynllun lliwiau’n llai hygyrch, mae’n bosibl y bydd opsiwn i ddefnyddio’ch porwr eich hunan i ddefnyddio’ch lliwiau eich hunan.
Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’ch lliwiau eich hunan gyda’ch porwr (mae’n agor mewn tab neu ffenestr newydd)
Llwytho dogfennau i lawr
Ceir nifer o ddogfennau
Adobe PDF (Fformat Dogfen Gludadwy) a dogfennau Microsoft Word ar y wefan. Os ydych yn cael
trafferth wrth agor y ffeiliiau hyn, mae’n bosibl y bydd angen
rhagor o feddalwedd arnoch chi: Ar gyfer PDFau Adobe,
llwythwch i lawr meddalwedd Adobe Reader. Ar gyfer
dogfennau
Miscrosoft Word, llwythwch i lawr meddalwedd ddiweddaraf Word
Viewer
(mae’n agor mewn tab neu ffenestr newydd).
Os bydd
angen cymorth ychwanegol arnoch
Os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch wrth ddefnyddio cyfrifiaduron, y we a thechnolegau cynorthwyol, rydym yn argymell eich bod yn mynd i BBC My Web, My Way (mae’n agor mewn tab neu ffenestr newydd). Mae gan y safle hwn fideos a gwybodaeth i’ch helpu i ddefnyddio nodweddion hygyrchedd eich cyfrifiadur ac mae’n dangos sut i ddefnyddio’r we yn haws.
Datganiad Hygyrchedd
Mae Addysg Oedolion Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Addysg Oedolion Cymru.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (CHCW) fersiwn 2.2, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys wedi’i restru isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
- Nid yw pob elfen yn defnyddio priodoleddau ARIA (Critigol)
- Nid oes gan bob delwedd destun amgen (Beirniadol)
- Nid oes gan bob elfen ddewis enwau hygyrchol (Critigol)
- Nid yw pob elfen yn bodloni trothwyon cymhareb cyferbyniad lliw (Difrifol)
- Nid oes gan bob dolen destun amlwg (Difrifol)
Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn
Lluniwyd y datganiad hwn ar 25/02/2026.
Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar 25/02/2026.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych chi'n cael unrhyw anhawster i ddefnyddio ein gwefan neu os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw broblemau, anfonwch eich adborth atom drwy e-bostio gwybodaeth@addysgoedolion.cymru. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych ble y byddai eich adborth yn helpu i wneud ein gwefan yn well.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni