Cyfrif Dysgu Personol a Chymwysterau Galwedigaethol
Mae Cyfrif Dysgu Personol* (PLA) a Chymwysterau Galwedigaethol yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi’r sawl sy’n bodloni’r meini prawf isod i gyrchu cyrsiau a chymwysterau proffesiynol AM DDIM i ddatblygu sgiliau a’u helpu i gamu ymlaen neu newid eu gyrfa.
Meini prawf cymhwystra ar gyfer cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol (PLA) a Chymwysterau Galwedigaethol:
Os ydych chi’n 19 oed neu’n hŷn (ar ddechrau’r cwrs hyfforddiant), yn byw yng Nghymru ac mae unrhyw un o’r categorïau isod yn berthnasol i chi, gallech fod yn gymwys:
- pobl gyflogedig (gan gynnwys contractau Gwaith Asiantaeth a Dim Oriau) neu
- bobl hunangyflogedig neu
- ofalwyr amser llawn (gan gynnwys gofalwyr di-dâl)
ac yn ennill llai na’r incwm canolrifol (£34,303).
Mae’r cymwysterau hyn yn cynnwys:
- Ôl-troed Carbon ac Adrodd ISEP
- Tystysgrif ISEP mewn Rheolaeth Amgylcheddol
- Tystysgrif Sylfaen ISEP mewn Rheolaeth Amgylcheddol
- Archwilydd Systemau Rheolaeth Amgylcheddol Mewnol (EMS) ISEP
- Archwilydd Amgylcheddol Arweiniol ISEP
- Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol NEBOSH
- SQA 24-25
- Diploma NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – Ex 360 (Peiriannau â Thraciau)
- Diploma NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – Ex 360 (Peiriannau ag Olwynion)
- Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peiriannau – SS
- Diploma NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – Gweithrediadau Codi
- Diploma NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – TH
- Diploma NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – Marsial Cerbydau
- Tystysgrif NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – FTD
- Tystysgrif NVQ SQA L2 mewn Gweithrediadau Peiriannau – RR
- Tystysgrif NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – RTD
- Tystysgrif NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – TH
- Tystysgrif NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – Bŵm MEWP
- Tystysgrif NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – Siswrn MEWP
- Tystysgrif NVQ SQA L2 mewn Gweithrediadau Peiriannau – ICLT
- Tystysgrif NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – SSL (Detholiad)
- Tystysgrif NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – SSL (Cloddio)
- Tystysgrif NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – Tractorau
- Tystysgrif NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – Marsial Cerbydau
- Tystysgrif NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – Rhaw Lwytho
- Tystysgrif NVQ Lefel 2 SQA mewn Gweithrediadau Peiriannau – Gweithrediadau Codi
- NVQ Lefel 3 City & Guilds mewn Goruchwylio Gwaith Galwedigaethol (Adeiladu)
Dim ond un cymhwyster y gallwch ei wneud ar y tro, a rhaid cwblhau’r arholiad/asesiad cyn ymgeisio am ragor o gymwysterau.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Gyfrif Dysgu Personol a Chymwysterau Galwedigaethol, e-bostiwch pla@addysgoedolion.cymru
*Ni allwch ddefnyddio cyllid PLA os ydych chi o dan 19 oed (ar ddechrau’r cwrs hyfforddiant), yn byw y tu allan i Gymru, neu mewn addysg amser llawn, neu’n cyfranogi mewn prentisiaeth neu’n derbyn Grant Dysgu neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Llywodraeth Cymru, neu’n ddi-waith neu’n ddinesydd o wlad dramor sy’n anghymwys.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni