Cynllun Aelodaeth AOC - Cwestiynau Cyffredin
Mae cynllun aelodaeth AOC yn gymuned o ddysgwyr presennol a blaenorol, a’r rhai sy’n ymroddedig i Ddysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) a dysgu gydol oes, sy’n medru drwy gyd-weithio fod yn gymorth i lunio AOC a’r amgylchedd ar gyfer dysgu ledled Cymru. Mae’n rhoi cyfle i chi rannu eich llais a dweud eich dweud am sut mae dysgu cymunedol yn datblygu ledled Cymru.
Yn ogystal â dod yn rhan o'n cymuned weithgar, bydd aelodau'n derbyn buddion fel yr amlinellir ar ein tudalen Cynllun Aelodaeth.
Mae 2 fath o aelodaeth - aelodaeth “Unigol”, ac aelodaeth “Mudiad Cyswllt”.
Bydd angen i chi ymuno'n weithredol trwy'r Ffurflen Gofrestru Aelodaeth Newydd.
Fel sefydliad cynhwysol, rydym yn falch o weithredu’r dull ‘talu'r hyn y medrwch’ fel ffi flynyddol ar gyfer Aelodaeth Unigol. Argymhellir £5.00 i'r digyflog a £10.00 i unigolion cyflogedig, ond canllaw yn unig yw hwn.
Gallwch hefyd wneud cyfraniad i AOC, gan ein bod yn gweithredu fel elusen gofrestredig, a gallwch roi rhodd cymorth eich ffi aelodaeth heb unrhyw gost ychwanegol.
Ar hyn o bryd mae gennym ffi sefydlog o £50 ar gyfer ein haelodaeth Gyswllt flynyddol.
Medrwch, drwy ymuno fel Aelod Cyswllt sy'n cynnwys Partneriaid, Canghennau a Sefydliadau eraill. Dewiswch yr Aelodaeth Gyswllt ar adeg archebu/adnewyddu eich aelodaeth.
Gall aelodau unigol dderbyn gostyngiad o 10% ar ffioedd cyrsiau AOC.
O bryd i'w gilydd, rydym hefyd yn gallu darparu cynigion arbed arian unigryw neu wahoddiadau i ddigwyddiadau gyda'n partneriaid diwylliannol yng Nghymru.
Pan fyddwch yn archebu eich cwrs ar-lein, rhaid mewnbynnu eich rhif aelodaeth i dderbyn gostyngiad o 10% ar ffioedd y cwrs.
Na, ni fydd aelodaeth yn trosglwyddo'n awtomatig. Bydd gofyn i aelodau presennol “ail-adnewyddu” eich aelodaeth drwy'r system newydd drwy ddefnyddio’r Ffurflen Cofrestru Aelodaeth Newydd.
Ni fyddwch bellach yn gallu talu ffioedd aelodaeth trwy archeb sefydlog. Dylech ganslo unrhyw archebion sefydlog presennol, a chwblhau'r Ffurflen Cofrestru Aelodaeth Newydd gyda manylion talu.
Ni fyddwch bellach yn gallu talu ffioedd aelodaeth drwy'r gyflogres. Mae tîm y gyflogres wedi cael gwybod i ganslo pob taliad o fis Hydref 2024. Dylai aelodau staff lenwi'r Ffurflen Cofrestru Aelodaeth Newydd gyda manylion talu.
Os ydych angen siarad gyda rhywun yn AOC, neu os oes angen cymorth arnoch gyda'ch aelodaeth, cysylltwch gyda Julie Roberts ein gweinyddwr aelodaeth drwy anfon e-bost i julie.roberts@adultlearning.wales, neu e-bostio addysg-membership@adultlearning.wales