Cwricwlwm Dinasyddion: Yr Hunan Heddychlon
20-Chwefror-2025Mae’r angen am addysg heddwch mewn addysg oedolion wedi dod yn fwyfwy amlwg wrth i gymdeithasau fynd i’r afael â heriau byd-eang cymhleth. Mae UNESCO newydd gydnabod hyn, wrth gyhoeddi fersiwn diwygiedig o’i ‘Argymhelliad ar Addysg dros Heddwch, Hawliau Dynol a Datblygu Cynaliadwy’. Mae Addysg Oedolion Cymru (AOC) yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) i gyflwyno a darparu rhaglen Addysg Heddwch ar gyfer Addysg Ôl-16 yng Nghymru.
Pa wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y cwrs?
Mae’r cwrs yn cynnwys gwybodaeth am heddwch mewnol, beth mae heddwch yn ei olygu i chi, sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, sbardunau a rhagfarnau, a dysgu byd-eang, gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd a gwrthdaro byd-eang. Mae ffocws cryf ar ddeall heddwch a gwrthdaro yn ogystal â llythrennedd emosiynol. Ceir enghreifftiau ac astudiaethau achos i’w harchwilio, yn ogystal â ffocws ar Hanes Heddwch yng Nghymru, ac wrth edrych i’r dyfodol, ffocws ar gyfiawnder hinsawdd, dysgu byd-eang, a phrosiectau heddwch yng Nghymru, y Deyrnas Unedig (DU), a thu hwnt.
Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn y cwrs yn cael eu cefnogi i ehangu eu dealltwriaeth a’u geirfa o ran heddwch a gwrthdaro, a byddant yn cael eu tywys ar daith gan ddechrau â heddwch mewnol (ac edrych ar eu bywydau eu hunain o ran gwrthdaro a datblygiad emosiynol). Wedyn, bydd y daith yn mynd â nhw allan tuag at gyd-destunau heddwch ar lefelau lleol, cymunedol, cenedlaethol, a byd-eang.
Datblygwyd y cwrs â mewnbwn gan ddysgwyr a fynychodd ‘Fforymau Dysgwyr’ AOC, ac roeddent yn glir yn eu syniadau y dylai’r cwrs ddechrau gyda heddwch mewnol y dysgwr a gweithio tuag allan at y ffordd y maent yn ymdrin â gwrthdaro, yn eu perthnasoedd eu hunain ac o fewn eu cymunedau, cyn ymhelaethu i ystyried Cymru a’r byd ehangach. Dyma’r daith gathartig y dylai’r dysgwyr, ym marn y Fforymau, ei dilyn ar y cwrs hwn.
Pwy fu’n ysgrifennu a datblygu’r cwrs?
Cafodd cynnwys y cwrs ei arwain yn rhannol gan ddysgwyr a’i ddatblygu mewn ymgynghoriad llawn â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Roedd arbenigedd WCIA ym maes cynllunio a chyflwyno addysg heddwch mewn ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn eu gwneud yn bartner perffaith ar gyfer datblygu’r cwrs hwn. Roedd aelodau WCIA yn bresennol yn ein fforymau dysgwyr i hwyluso sgyrsiau ynghylch cynnwys, dyluniad a strwythur y cwrs, ac wedyn, gan ddilyn ymlaen, roeddent hefyd wedi gallu cyflwyno agweddau ar weithdai’r Prosiect ‘Alternatives to Violence’ y maent yn eu cynnal, gan edrych ar reoli gwrthdaro, sgiliau gwrando gweithredol, a sgiliau datrys gwrthdaro yn ddi-drais.
Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd gan un o diwtoriaid Addysg Oedolion Cymru, Frances Brett.
Cwrdd â Frances:

“Fy enw i yw Frances Brett, ac ymunais ag AOC ym mis Medi 2023 i addysgu Ysgrifennu Creadigol.
Mae fy nghefndir mewn addysg, llythrennedd oedolion ac ysgrifennu; rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio â phobl o bob oedran, ac mewn llawer o gyd-destunau, gan gynnwys dosbarthiadau cymunedol, darpariaeth blynyddoedd cynnar, prifysgolion a grwpiau celfyddydol lleol. Rwyf wedi bod yn Fwdhydd gweithredol ers dros 30 mlynedd. Rwy’n byw ar y ffin rhwng Powys a De Swydd Amwythig.
Roeddwn bob amser wedi meddwl pe bawn i’n cael y cyfle i astudio eto, byddwn i’n ymgymryd ag Astudiaethau Heddwch. Roeddwn wrthi’n weithredol yn chwilio am ffyrdd o gefnogi addysg heddwch mewn ysgolion, ac er mawr syndod i mi, ychydig wythnosau wedi i mi ddechrau gweithio gydag AOC, roedd y sefydliad yn hysbysebu’n fewnol am diwtoriaid i gefnogi’r rhaglen Dysgu Byd-eang: Addysg Heddwch fel cynllun peilot ar-lein cychwynnol am gyfnod o 6 wythnos.
Gyda fy nghydweithiwr Ben Webb, a chefnogaeth gan Tamara Garnault a Jane Harries (rheolwr Addysg Heddwch yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru), bûm yn ddigon ffodus i gyflwyno un o’r cyrsiau peilot, gyda grŵp o gyfranogwyr ymroddedig dros ben.
Roedd y cynllun peilot wedi cadarnhau’r hyn roeddem eisoes wedi’i deimlo – sef bod pobl wir eisiau cael amser a lle i siarad am heddwch: beth yw heddwch, yn ein barn ni, a sut y gallwn gymryd cyfrifoldeb, ar lefel bersonol a chymunedol, dros gyflawni heddwch – i ni ein hunain, ac i eraill.”
I gael rhagor o wybodaeth am y Cwrs Addysg Heddwch, cliciwch yma: Dysgu Byd-eang: Archwilio heddwch o’r personol i’r byd-eang | Addysg Oedolion Cymru
Ar sail adborth gan staff, dysgwyr a phartneriaid, mae Addysg Oedolion Cymru bellach yn cynnig sesiwn flasu hefyd dros gyfnod o bythefnos, o dan y pennawd ymbarél “Canfod Lles”, lle mae dysgwyr yn ymdrin â’r canlynol:
Wythnos 1
Lles personol a heddwch mewnol
Gwrthdaro a sut rydym yn ymdrin â gwrthdaro
Wythnos 2
Sgiliau Rhyngbersonol
Llythrennedd Emosiynol
Goresgyn rhwystrau rhag cyfathrebu
Bydd y grŵp dysgwyr wedyn yn penderfynu (os ydynt yn dewis parhau â’r cwrs) pa lwybr i’w ddilyn:
Hunan Iachau – y 4 wythnos sy’n weddill o’r cwrs Iechyd a Lles
Yr Hunan Heddychlon – y 4 wythnos sy’n weddill o’r cwrs Addysg Heddwch
I gael rhagor o wybodaeth am y Cwrs Canfod Lles, cliciwch yma: Canfod Lles | Addysg Oedolion Cymru
Cafodd Sam, sy’n Gydlynydd Datblygu’r Cwricwlwm (CDC) yn Abertawe, gyfle i ymuno â sesiwn flasu a gynhaliwyd yn arbennig ar gyfer cydlynwyr datblygu’r cwricwlwm ar 15 a 22 Ionawr, er mwyn cael dealltwriaeth well o gynnwys y cwrs. Cyflwynwyd y sesiwn ar y cyd gan Frances, a gyfarfuom yn gynharach, Gail Davies, a Fee Roger.
Dewch i ni ddarganfod mwy amdanyn nhw…
Cwrdd â Fee:
“Helô! Fee ydw i, ac rwy’n addysgu ar-lein ar y cwrs Canfod Lles. Mae gen i brofiad fel athrawes ADY ac mae gen i ddiddordeb arbennig mewn Iechyd Meddwl, gan gynnwys Trawma Plentyndod a’i effeithiau hirdymor. Rwyf wrth fy modd yn addysgu ein Cwrs Lles ac wedi mwynhau taith fy nysgwyr wrth iddynt ddarganfod beth sy’n eu helpu i deimlo’n dda wrth iddynt symud ymlaen â’u bywydau.”
Cwrdd â Gail:

“Yn dilyn cefndir mewn Gwaith Cymdeithasol, dychwelais i addysg yn 2005, ac yn 2008 enillais radd BA (Anrh) mewn Astudiaethau Cwnsela a’r Gymdeithas, ac yna Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yn 2009. Ymunais ag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales (sef Cymdeithas Addysg y Gweithwyr gynt) yn 2009 fel Tiwtor Addysg Gymunedol yn addysgu amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys yr iaith Gymraeg/hanes Cymru, sgiliau Cwnsela, Datblygiad Personol, Seicoleg, Cymdeithaseg, Cam-drin Domestig, a Chrefftau. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweithio fel Tiwtor ac fel Swyddog Datblygu Cymunedol ar amrywiaeth o brosiectau dan nawdd Addysg Oedolion Cymru/ Cymdeithas Addysg y Gweithwyr. Rwy’n parhau i weithio fel tiwtor yn y gymuned, ac ym mis Tachwedd 2021, ymunais â thîm y cynllun hunangyfeirio cwnsela dysgwyr, gan gynorthwyo â sgrinio atgyfeiriadau a gwneud cyswllt cychwynnol â dysgwyr sy’n ceisio cymorth a chefnogaeth. Cefais fy ngeni yn Ystradgynlais a’m magu yng Nghwm Tawe, ac rwyf wedi byw yn Nhredegar ers 25 mlynedd. Cymraeg yw fy iaith gyntaf. Mae fy hobïau yn cynnwys materion cyfoes, hanes Cymru, darllen, ymarfer myfyrdodau Ymwybyddiaeth Ofalgar, a chrefftau.
Mae apêl cyflwyno dosbarthiadau Lles yn deillio o’m cefndir mewn Gwaith Cymdeithasol, a Chwnsela, wrth gwrs. Mae rhyngweithio ag eraill yn rhywbeth rwyf bob amser wedi’i gofleidio ac mae’r wybodaeth fy mod efallai wedi chwarae rhan fach mewn helpu pobl eraill i deimlo’n well amdanyn nhw eu hunain yn fraint fawr.”
Ar ôl mynychu’r sesiwn flasu, dywedodd CDC Abertawe, Sam, “Pan fydd unrhyw gwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno, mae bob amser yn anodd amgyffred beth yw’r cwrs ar sail disgrifiad neu gefndir ysgrifenedig. Mae mynychu’r sesiwn flasu hon wedi fy ngalluogi i gael dealltwriaeth wirioneddol o’r hyn y mae’r cwrs yn ei olygu, fel y gallaf sôn amdano â brwdfrydedd pan rwy’n cyfarfod â phartneriaid a darpar ddysgwyr.
Mae’r sesiwn flasu yn gyfle perffaith i ddysgwyr benderfynu beth maen nhw eisiau ei gael o’r cwrs ac i sicrhau bod y profiad dysgu yn cael ei arwain yn wirioneddol gan y dysgwr.
Mae’r sesiwn flasu yn bwynt gwerthu ac yn ffordd wych o hyrwyddo’r Hunan Heddychlon a’r Hunan Iachau.
Roedd y cwrs yn ddiddorol iawn. Edrychom ar y 5 cam i Les a sut beth yw heddwch mewnol i ni.

Credaf y byddai’r cwrs hwn o fudd enfawr i lawer, gan gynnwys staff AOC.”
Roedd Sam hefyd yn ddigon ffodus i ymuno â Frances yn ystod ei sesiwn gyntaf, i ddarganfod rhagor am y dysgwyr a’r hyn a’u denodd i’r cwrs.
Cwrdd â Marita:
“Rwy’n 62 oed, yn fam-gu, ac yn gofalu am fy mab awtistig sy’n oedolyn. Ym myd rhyfeddol anabledd a gwahaniaeth, bûm yn ddigon ffodus i gwrdd â phobl ysbrydoledig, ddoeth a chariadus sydd wedi dylanwadu ar fy nhaith a’m dewisiadau mewn bywyd.
Tua 20 mlynedd yn ôl, hyfforddais yn Cymbria fel Cwnselydd sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, a gweithiais mewn gwahanol leoliadau, a’r mwyaf heriol ohonynt oedd Argyfwng Trais. Rwyf bob amser wedi fy nenu at heddwch ers pan oeddwn i’n blentyn, a gyda fy ngŵr, dechreuais fyfyrio a byddem yn cymryd tro am yn ail i fynd i encilfeydd Bwdhaidd pan oedd y plant yn tyfu i fyny.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, buom yn ymwneud ag Extinction Rebellion (XR) gan ein bod yn poeni am yr hinsawdd ac wedi’n plesio gan ddulliau protestio di-drais XR a’u hathroniaeth o newid. Roeddem yn gobeithio lledaenu’r weledigaeth o newid gwleidyddol sydd gan XR drwy Gynulliadau Dinasyddion, a dreialwyd gyntaf, rwy’n credu, yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd cymryd rhan yn y mudiad Cyfiawnder Hinsawdd wedi effeithio ar y ddau ohonom wrth i ni ddechrau gweld ofn, casineb a phegynnu safbwyntiau, gan arwain at wrthdaro a thrais, hyd yn oed o fewn XR. Felly, gadawom XR er mwyn ailfeddwl beth y gallem ei wneud a fyddai’n ddefnyddiol i genedlaethau’r dyfodol, gan ddarganfod Ysgolion Heddychol a rhai prosiectau amgylcheddol cymunedol yn ein hardal.
Cofrestrais ar gyfer y cwrs oherwydd hoffwn ddyfnhau fy ngwerthfawrogiad o’r hyn sy’n meithrin heddwch, a dysgu/ymarfer sgiliau i helpu mewn gwrthdaro, yn ogystal â datblygu fy hyder wrth gymryd rhan yn y prosiect Ysgolion Heddwch. Ni allaf feddwl am unrhyw beth mwy defnyddiol i’w wneud ar yr adeg hon yn fy mywyd ac yn y cyfnod hwn.”
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth