Kim Wagstaff | Addysg Oedolion Cymru

Kim Wagstaff

Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm
 
kim.wagstaff@addysgoediolion.cymru
07487 736106

Mae gennyf dros ddeunaw mlynedd o brofiad o weithio yn y sector gwaith ieuenctid. Mae’r profiad hwn wedi bod yn y sector statudol a gwirfoddol, gyda phrofiad amrywiol o ymgysylltu gyda phobl ifanc, partneriaid a rhanddeiliaid.

Mae fy mhrofiad wedi cynnwys cefnogi pobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid a chefnogi / rheoli staff gwaith ieuenctid i ddiwallu anghenion pobl ifanc.

Rwyf hefyd wedi datblygu arferion gweithio diogel ac wedi cefnogi datblygiad strategol gwaith ieuenctid yn fy rolau.

Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc, cefnogi pobl ifanc i ddeall a chael mynediad at eu hawliau a datblygu sgiliau a gwybodaeth y sector gwaith ieuenctid.

Rwy’n angerddol am ddatblygiad proffesiynol gweithwyr ieuenctid yng Nghymru a chefnogi hyfforddiant sy’n helpu i arfogi’r gweithlu i ddiwallu anghenion newidiol pobl ifanc a’u cymunedau. Mae gen i wybodaeth a phrofiad manwl o ddatblygu rhaglenni hyfforddi achrededig a chymwysterau i’w cyflwyno i’r sector.

Rwyf wedi cefnogi datblygu a chyflwyno cymwysterau gwaith ieuenctid yng Nghymru ers dros 15 mlynedd. Rwy’n mwynhau cyfarfod pobl newydd a thrafod pa mor amrywiol gall gwaith ieuenctid fod, yn dibynnu ar leoliadau, profiadau ac ati.

Cefnogaf fy nghymunedau lleol, ac rwy’n mwynhau gwirfoddoli yn fy ngrŵp ieuenctid lleol gan hyfforddi tîm pêl-rwyd fy merch, ac rwy’n gadeirydd y llywodraethwyr yn yr ysgol gynradd leol.