Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr
Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr
Graddfa Gyflog £15.93 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)
Yn ogystal â phecyn buddion a gwyliau hael
Mae gennym gyfle gwych ar gyfer Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr i gefnogi ein dysgwyr sy’n oedolion yn ardaloedd Y Drenewydd a Wrecsam. Byddwch yn cefnogi ac yn cynorthwyo dysgwyr yn unol â’u hanghenion, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol, a meini prawf asesu pwnc. Byddwch yn sefydlu perthynas gwaith adeiladol ac effeithiol gyda’r dysgwyr, gan weithio mewn partneriaeth â ac o dan gyfarwyddyd tiwtoriaid y dosbarth. Byddwch yn gweithredu gweithgareddau dysgu wedi’u cynllunio a/neu raglenni addysgu fel y cytunwyd gyda’r tiwtoriaid.
Mae rôl Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.
Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):
- Cefnogi a chynorthwyo dysgwyr yn unol ag anghenion y dysgwyr ac polisïau a gweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru
- Sefydlu perthnasoedd gwaith adeiladol ac effeithiol gyda dysgwyr a rhyngweithio â nhw yn unol â’u hanghenion unigol, a helpu i feithrin eu hyder a gwella hunan-barch
- Cefnogi dysgwyr mewn gweithgareddau ymarferol amrywiol yn unol â meini prawf asesu pwnc y cwrs
Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol neu i gael mwy o wybodaeth am y rôl, cysylltwch gyda Beth John, Rheolwr Rhanbarthol De ‘Orllewin a Chanolbarth, beth.john@adultlearning.wales (Y Drenewydd), neu Sarah O’Connell-Jones, Rheolwr Rhanbarthol Gogledd, sarah.o’connelljones@adultlearning.wales (Wrecsam).
Ymgeisiwch erbyn 12yp Dydd Llun 28ain Medi gan ddefnyddio’r ffurflen gais nodwch nad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.
Cyfweliadau i’w trefnu yn ystod yr wythnos yn dechrau 5ed Hydref.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.
Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.
Os oes angen i chi gyflwyno’ch cais mewn dull arall, mae croeso i chi gysylltu gyda ni.