Ymweliad Brenhinol | Addysg Oedolion Cymru

Ymweliad Brenhinol

7-Gorffennaf-2025
Rhannu

Gwahoddwyd y tiwtor o Dde-ddwyrain Cymru sef Christina Roy, i Arddwest ar y 14eg o Fai ym Mhalas Buckingham, Llundain, i ddathlu a chydnabod cyfraniad ei gwaith yn y sector addysg a sgiliau.

Gweithia Christina fel Cydlynydd Dysgu Teulu yn Ysgol Uwchradd Cathays gan arwain y Grŵp Dysgu Rhieni, sydd hefyd wedi’i leoli yn yr ysgol. Trwy ei gwaith caled a’i hangerdd, mae llawer o ddysgwyr wedi elwa o’r cymwysterau maent wedi’u cyflawni, gan eu galluogi i ddatblygu eu hunain ac i ailymuno gyda’r gweithlu. Mae dau o’r prosiectau mae Christina wedi gweithio arnynt, y prosiect imiwneiddio a’r prosiect rhannu bwyd, yn systemau cymorth hanfodol sy’n cyrraedd rhwydwaith llawer ehangach y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae hwn yn gyflawniad gwych i Christina gael ei chydnabod gan ei Fawrhydi, y Brenin Charles, am ei hymroddiad a’i hangerdd i’w dysgwyr a’r system addysg gymunedol i oedolion yng Nghymru.

Mewn arwydd twym galon i gynrychioli’r dysgwyr mae’n eu hyrwyddo, aeth Christina â theyrnged unigryw a phersonol iawn fel rhodd i’r Brenin yn y Palas: llun wedi’i fframio o’u holion bysedd, wedi’i drefnu’n gelf i ffurfio coeden. Roedd yr arddangosfa ystyrlon hon yn symbol pwerus o siwrnai ar y cyd a chyflawniadau ei myfyrwyr, gan nad oeddent yn gallu bod gyda hi ar y diwrnod. Ar ôl dychwelyd adref, roedd Christina a’r dysgwyr yn falch iawn o dderbyn llythyr gan y palas yn cydnabod natur garedig yr anrheg.

Yn ogystal ar daith i’r Palas, mae effaith y grŵp dysgu rhieni a gwaith Christina cydnabuwyd hyn yn ddiweddar gan Addysg Oedolion Cymru, gyda’r grŵp yn ennill Gwobr Cyfraniad Cymunedol y Dysgwr, Addysg Oedolion Cymru 2025. 

Dyma fwy o wybodaeth am waith ac effaith y Grŵp Dysgu Rhieni yn Ysgol Uwchradd Cathays yn y fideo byr yma: www.facebook.com/share/v/1elvrpnazq/

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth