Sut Wnaeth Dysgu Hyblyg dan ofal Addysg Oedolion Cymru Helpu Kelly i Gymryd y Cam Nesaf Tuag at Wireddu ei Breuddwydion  | Addysg Oedolion Cymru

Sut Wnaeth Dysgu Hyblyg dan ofal Addysg Oedolion Cymru Helpu Kelly i Gymryd y Cam Nesaf Tuag at Wireddu ei Breuddwydion 

25-Awst-2026
Rhannu

Ar hyn o bryd, mae Kelly Davies yn un o ddysgwyr cofrestredig rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg Addysg Oedolion Cymru, ac mae’n astudio at ei chymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru ar Lefel 2 mewn Cyfathrebu dan arweiniad y tiwtor, Deb Biggs. Cwblhaodd Kelly ei chymhwyster Lefel 2 mewn Rhifedd yn llwyddiannus ym mis Ebrill 2026, ar ôl methu ei harholiad ym mis Rhagfyr 2025 yn wreiddiol. Gan fod Kelly yn gweithio yn ystod y dydd, mae dosbarthiadau gyda’r nos wedi bod yn hanfodol. Roedd y ffaith ei bod hi wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin yn creu heriau ymarferol ychwanegol i Kelly, oherwydd roedd ei chanolfan arholiadau agosaf yn Abertawe, ac roedd yn anodd iddi gyrraedd y lleoliad hwnnw, oherwydd nid yw hi’n gyrru a gall gwasanaethau trenau fod yn annibynadwy ar adegau.

Mae dyfalbarhad a pheidio â rhoi’r ffidl yn y to yn nodweddion pwysig yn nhaith dysgu Kelly. Yn ei geiriau ei hun, dywed Kelly wrthym am ei phrofiadau yn dysgu dan ofal Addysg Oedolion Cymru:

“Kelly Davies ydw i, rwy’n 48 mlwydd oed, ac rwy’n gweithio fel cynorthwyydd addysgu a gweinyddes feithrin ers 25 mlynedd. Penderfynais weithio tuag at fy nghymhwyster CALU (Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch), ac roedd hynny’n golygu bod angen i mi ennill fy nghymwysterau Mathemateg a Saesneg.

Ganwyd fy mhlant pan oeddwn i’n ifanc ac nid oeddwn i’n mwynhau’r ysgol, felly ni wnes i lwyddo’n dda iawn iawn yn fy arholiadau TGAU. Ym mis Gorffennaf 2025, argymhellwyd Dysgu Oedolion Cymru i mi, ac rwy’n hynod o falch fy mod i wedi cymryd y cam hwnnw.

Roedd y broses ymgeisio yn syml, ac mae’r cyfathrebu drwyddi draw wedi bod yn ardderchog. Cwblheais fy asesiad cychwynnol a’m gweithgareddau dysgu a thasgau hunanarweiniol drwy WEST, ac fe wnaeth hynny fy helpu i sicrhau fy mod yn gweithio ar lefel 2 cyn i mi ddechrau cwrs cymhwyster Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru. Gan fod gen i swydd amser llawn, mae’r dosbarthiadau gyda’r nos wedi bod yn ddelfrydol.

Dechreuais fy nghwrs Mathemateg ym mis Medi 2025, dan ofal Jim. Mae’n diwtor rhagorol; mae’n amyneddgar, yn ddoniol, ac yn gefnogol, ac fe wnaeth sicrhau bod dysgu’n brofiad pleserus. Diolch i’w addysgu, llwyddais i basio fy arholiadau Mathemateg.

Ym mis Ebrill 2026, dechreuais fy nghwrs Saesneg dan ofal Debbie, eto gyda’r nos. Mae Debbie yn hyfryd ac yn agos-atoch, a bydd hin egluro popeth yn drylwyr, ac yn cyfathrebu’n dda iawn. Hoffwn hefyd sôn am Siân, arweinydd y rhaglen, sydd wedi troedio’r ail filltir i’m helpu i drefnu fy arholiadau mor agos at fy nghartref â phosibl. Mae hi wedi bod yn hynod o barod ei chymorth trwy gydol y daith.

Byddwn i’n argymell Addysg Oedolion Cymru yn fawr iawn i unrhyw un sy’n ystyried ailafael yn eu haddysg. Mae wedi rhoi’r hyder i mi gyflawni rhywbeth na feddyliais erioed y gallwn ei gyflawni. Rydw i hyd yn oed wrthi’n perswadio fy ffrind i gofrestru er mwyn iddi hithau allu cwblhau’r cyrsiau yn barod am ei chwrs CALU y flwyddyn nesaf!”

Fel y dengys stori Kelly, gall ennill eich cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif a Sgiliau Cyfathrebu ddatgloi cerrig milltir gyrfa newydd cyffrous, ac mae cyflogwyr, colegau a phrifysgolion ledled Cymru yn cydnabod eu bod yn gymwysterau sy’n cyfateb i raddau A-C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg. Caiff y cyrsiau hyn eu cyflwyno’n hyblyg ar-lein dan arweiniad tiwtoriaid ymroddedig a chefnogol, ac maent wedi’u cynllunio i alluogi dysgwyr i gydbwyso gofynion y cyrsiau hyn a gofynion gwaith a bywyd eu teulu. Os yw taith Kelly wedi eich ysbrydoli i gymryd y cam nesaf, dysgwch ragor am ein rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg yma.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth