Eir i’r afael yn ddwyieithog â hanes a thraddodiadau cyfoethog Cymru trwy gyfrwng Cyrsiau Diwylliant Cymru AOC | Addysg Oedolion Cymru

Eir i’r afael yn ddwyieithog â hanes a thraddodiadau cyfoethog Cymru trwy gyfrwng Cyrsiau Diwylliant Cymru AOC

24-Ionawr-2025
Rhannu

Fe darparwr addysg oedolion ledled Cymru, mae defnyddio’r Gymraeg yn ein haddysgu yn hanfodol er mwyn cynnal gwerth yr iaith ac amlygu ymrwymiad AOC i strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Anogir y defnydd o’r Gymraeg yn yr ystafell dosbarth ar bob lefel, o gyfarchion syml i ddefnydd achlysurol o’r Gymraeg yn ystod sgyrsiau am y pwnc a drafodir.  Fel y dywed James Berry, Hyrwyddwr Addysg Gymraeg a Dwyieithog Addysg Oedolion Cymru, “Hyd yn oed os ydych yn siarad un gair o Gymraeg, rydych yn siarad ac yn dysgu’r iaith; gall unrhyw un siarad Cymraeg.”

Yn ogystal â bod yn Hyrwyddwr Addysg Gymraeg a Dwyieithog, bydd James yn addysgu amrywiaeth o gyrsiau, ar-lein ac yn yr ystafell ddosbarth, sy’n ymdrin â hanes a diwylliant Cymru. Yn y cyrsiau hyn, archwilir geiriau’r Gymraeg, gan ystyried eu tarddiad a’u hystyron. Mae’r dosbarthiadau yn hamddenol ac yn hwyliog, ond maent yn addysgiadol hefyd. Defnyddir y Gymraeg i ategu’r dysgu gan alluogi dysgwyr i ddysgu rhagor am y Gymraeg ac ymarfer eu sgiliau yn yr iaith os dymunant wneud hynny.

Mae Radha Chandy, un o ddysgwyr James, wedi bod yn dysgu Cymraeg yn ystod ei hamser hamdden. Mae Radha, sy’n hanu o’r India, yn astudio yn Barcelona erbyn hyn, ac fe wnaeth hi ymuno ag un o Gyrsiau Diwylliant Cymru ar-lein AOC. Dywedodd Radha:

“Gan na fyddaf yn cael unrhyw gyswllt â diwylliant Cymru a’i phobl, mae’r cwrs wedi bod yn ffordd wych o ychwanegu at fy mhrofiadau dysgu iaith ac mae’r cwrs wedi cynnig ymdeimlad o’r lle i mi, er nad wyf i erioed wedi bod yno.  Rwyf hefyd yn cyfranogi mewn fersiwn dwys o gwrs dysgu Cymraeg. Bydd pethau’n symud yn gyflym yn ystod y cwrs, felly ni fydd gennym lawer o amser yn y dosbarth i ymdrin ag unrhyw beth sydd ddim yn rhan o’r brif wers, ond yn aml iawn, byddaf yn dymuno gofyn llawer o gwestiynau ynghylch y diwylliant neu’r cyd-destun. Bu eich cwrs Diwylliant Cymru yn ddefnyddiol iawn i ganfod atebion i lawer ohonynt! Hefyd, roedd y ffaith fod Rhiannon (y tiwtor) ar gael i ysgrifennu’r geiriau a’r esboniadau ynghylch geiriau, ymadroddion a dywediadau gan y ddau ohonoch chi yn brofiad buddiol a chyfoethog. Roeddwn i wrth fy modd â’r cwrs. Bu’n gyflwyniad gwych ynghylch holl gerrig milltir pwysig Hanes Cymru.”

Yn yr ystafell ddosbarth, mae James wedi bod yn addysgu nifer o ddysgwyr sy’n defnyddio’r wybodaeth y maent wedi’u meithrin yn eu gwersi i’w helpu â’u gwaith. Un o’r dysgwyr hyn yw Dave Jepson, tywysydd teithiau sy’n cyfarch ymwelwyr â Gogledd Cymru sy’n ymweld â’r rhanbarth yn ystod mordeithiau mewn llongau pleser.

Ychwanega Dave:

“Heb os, mae’r cwrs hwn wedi bod yn hynod o ddefnyddio i gryfhau fy ngwybodaeth am hanes Cymru, a bydd hynny’n fy ngalluogi i siarad yn fwy eglur a hyderus â chleientiaid pan fyddaf yn eu cyfarch yn ystod eu hymweliadau â Gogledd Cymru. Trwy ddadansoddi cymhellion y cymeriadau hanesyddol yng nghyd-destun strwythur cymdeithasol y cyfnodau sydd dan sylw, credaf y gall ddeall ac esbonio mwy o agweddau ar y straeon sy’n ymwneud â chyrchfannau ein teithiau.”

“Yn ogystal â hynny, rydym hefyd wedi dod i wybod am lawer o straeon ategol gwych yn ystod y cwrs, ac wrth gwrs, mae’n ddifyr mynd ar ôl yr ysgyfarnogod bach hynny.   Roedd yn gwrs amhrisiadwy; mae James Berry yn storïwr heb ei ail. Rwy’n credu fod y cyfle i gyfranogi wedi bod yn fraint.”

Gan drafod gallu’r dysgwyr i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg wrth astudio ag AOC, ychwanega James hefyd:

“Mae llawer o bobl wedi canfod fod dysgu Cymraeg yng nghyd-destun pwnc arall yn brofiad buddiol. Mae’r cyfle i ymarfer a defnyddio’r geiriau a’r ymadroddion Cymraeg y maent wedi’u dysgu wrth drafod pwnc y maent yn ymddiddori ynddo a datblygu geirfa i drafod pwnc yn brofiad buddiol. Mae hynny oll yn cyfoethogi taith dysgu iaith unigolyn ac yn sicrhau y bydd y daith honno’n fwy llwyddiannus maes o law”.

Wrth i ni gychwyn y tymor newydd yn 2025, mae cyrsiau Diwylliant a Hanes Cymru AOC yn dod yn fwyfwy poblogaidd, ac mae rhai dosbarthiadau bron iawn yn llawn yn barod. Mae’r enw da cynyddol yn adlewyrchu gwaith James a thiwtoriaid eraill AOC yn gwreiddio’r Gymraeg yn eu haddysgu, ac mae hynny wedi agor drysau i ddysgwyr o bedwar ban byd i’w galluogi i brofi’r Gymraeg a’i chyd-destun fel iaith fel rhan o’u profiad dysgu. Mae AOC yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Hanes a Diwylliant Cymru trwy gydol y flwyddyn academaidd; gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn yma.

Os dymunwch gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog AOC, anfonwch e-bost at James Berry: james.berry@adultlearning.wales

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth