Diwrnod Rhyngwladol yr Ymfudwyr 2024: Cydnabod rôl mudo mewn Dysgu Oedolion | Addysg Oedolion Cymru

Diwrnod Rhyngwladol yr Ymfudwyr 2024: Cydnabod rôl mudo mewn Dysgu Oedolion

18-Rhagfyr-2024
Rhannu

Mae Diwrnod Rhyngwladol Ymfudwyr, a gynhelir yn flynyddol ar 18fed Rhagfyr, yn gyfle i fyfyrio ar rôl mudo mewn cymdeithasau ledled y byd. Yn 2024, mae’r diwrnod hwn yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng mudo a dysgu oedolion, gan ganolbwyntio ar brofiadau a chyfraniadau dysgwyr mudol.

Ffactor cyson yn hanes dyn gydol yr amser yw mudo, gan ddylanwadu ar gymdeithasau, diwylliannau ac economïau. Mae thema 2024 yn annog myfyrio ar deithiau ymfudwyr a’r sgiliau, y wybodaeth, a’r persbectifau maent yn eu cyflwyno i’w cymunedau newydd. Boed yn mudo ar gyfer gwaith, dysgu, diogelwch, neu deulu, mae unigolion yn cyfrannu mewn amrywiol ffyrdd i’r lleoedd maent yn ymgartrefu ynddynt.

Gall dysgu oedolion elwa ar safbwyntiau a phrofiadau dysgwyr mudol. Mae mudo yn aml yn cyflwyno syniadau, sgiliau a ffyrdd newydd o feddwl gall wella amgylcheddau dysgu. Nod dysgu oedolion yw helpu unigolion i gyflawni eu nodau, ac i fewnfudwyr, gall chwarae rhan arwyddocaol wrth hwyluso eu cyfranogiad mewn cymdeithas a’r gweithlu.  

Ar yr un pryd, gall dysgwyr mudol ddod ar draws heriau megis rhwystrau iaith, anawsterau o ran cydnabod cymwysterau, neu gyfyngiadau ariannol. Gall darparwyr dysgu gan gynnwys Addysg Oedolion Cymru helpu i fynd i’r afael gyda’r heriau hyn drwy raglenni sy’n cynnwys cymorth iaith, hyfforddiant sgiliau, a chyfleoedd hygyrch. Er enghraifft, mae cyrsiau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yn galluogi unigolion i ddatblygu sgiliau iaith sy’n cefnogi integreiddio i weithleoedd a chymunedau. 

Mae mudo hefyd yn dod â chyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol a sgiliau. Gall ymfudwyr gyfrannu at amgylcheddau dysgu fel addysgwyr, mentoriaid neu arloeswyr. Gall eu profiadau proffesiynol, sgiliau technegol, a gwybodaeth ddiwylliannol fod o fudd i eraill mewn meysydd fel busnes, y celfyddydau neu crefftau. Mae rhannu straeon, safbwyntiau neu wybodaeth ymarferol, yn creu cyfle ar gyfer dysgu a chyd-ddealltwriaeth.

Mae Diwrnod Rhyngwladol yr Ymfudwyr yn gyfle i fyfyrio ar sut gall systemau dysgu addasu i gefnogi unigolion o gefndiroedd amrywiol. Drwy fynd i’r afael gyda heriau a chydnabod cyfleoedd, gall darparwyr dysgu a chymunedau helpu unigolion i gyrraedd eu potensial a chryfhau’r mannau dysgu maent yn ei rannu.

Mae’r diwrnod yma yn ein hatgoffa bod mudo wedi bod yn rhan o ddatblygiad dynol ers tro, gan lywio cyfnewid sgiliau, gwybodaeth a diwylliant. Wrth i ni nodi Diwrnod Rhyngwladol yr Ymfudwyr 2024, gallwn fyfyrio ar bwysigrwydd creu cyfleoedd dysgu sy’n caniatáu i bawb – waeth beth fo’u cefndir – i gymryd rhan a chyfrannu at gymdeithas.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth