Bu ein dysgwyr yn arddangos eu gwaith yn Ffair Nadolig yr Hwb Celf a Chrefft Greadigol yn Aberystwyth!
16-Ionawr-2024Ym mis Rhagfyr, bu rhai o’n dysgwyr o’r Hwb Creadigol yn arddangos eu gwaith yn Ffair Nadolig yr Hwb Celf a Chrefft Greadigol yn Aberystwyth! Mae Helen Ingham, ein tiwtor Celf a Chrefft yn rhannu ei hargraff am y digwyddiad, a chawn glywed gan rai o’n dysgwyr. . .
Mae’r “Hwb Creadigol” yn grŵp gweithgaredd celf hir sefydlog a grëwyd mewn partneriaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru a Mind Aberystwyth. Cynhaliwyd y cyrsiau ers 2017 ac rwyf i a rhai o’r dysgwyr wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd ers y dechrau, mewn tri lleoliad gwahanol. Ar hyn o bryd cartref y grŵp yw adeilad Cwmni Theatr Arad Goch, sef y trydydd partner yn nigwyddiad y Ffair Grefftau.
Roedd y Ffair Grefftau yn gyfle gwych i arddangos sgiliau creadigol ein dysgwyr, gan gynnwys gwaith celf a chrefft a grëwyd yn sesiynau’r Hwb Creadigol, a thu allan iddo. Arddangoswyd y gwaith i’r cyhoedd yng nghyntedd adeilad Arad Goch, a gan ei fod yn ddiwrnod olaf y tymor, roedd yn briodol i ddathlu hyn gyda lluniaeth wedi ei ddarparu gan deulu un o’r dysgwyr. Cafwyd cyfle i ddathlu pen-blwydd dysgwr a ymunodd gyda’r dosbarth ar-lein, ers symud o’r ardal.
Bu dysgwyr yn cydweithio gyda staff Arad Goch i osod stondinau yn y cyntedd, creu arddangosfa o waith celf y cwrs diweddar, ac ardal ymlacio a lluniaeth ar wahân i’r dysgwyr mewn gwagle yn y theatr gyfagos. Ar ben hyn roedd te, coffi a mins peis mewn ardal eistedd i aelodau’r cyhoedd, a gweithgaredd gweithdy i bawb, wedi’i drefnu a’i redeg gan un o’r dysgwyr!
Cafwyd cyd-weithio da iawn i wneud y digwyddiad yn llwyddiant mawr. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i staff Arad Goch am eu holl waith fel darparwyr y lleoliad, gan gynnwys yr holl baratoadau ar gyfer y diwrnod, am gyfrannu’r te a’r coffi ar gyfer y digwyddiad, ac am eu cefnogaeth gyfeillgar a chymorth ymarferol yn y cyfnod cyn y ffair ac ar y diwrnod ei hun.
Rhoddwyd rhodd i’r elusen leol, Cymorth i Fenywod Gorllewin Cymru.
Wedi hynny, mynegodd un cyfranogwr (dysgwr), “Rwy’n credu fod y digwyddiad yn werth chweil am lu o resymau –
- Cyfle da i gyfarfod! Does dim byd arall wedi’i gynllunio a bydd rhai pobl ar eu pen eu hunain dros y Nadolig.
- I’r aelod o’r grŵp sydd wedi symud i ffwrdd o’r ardal yn ddiweddar ac a ymunodd yn y digwyddiad ar-lein. Rwy’n siŵr ein bod wedi gwneud gwahaniaeth i’w pen-blwydd cyntaf i ffwrdd.
- I’r person ifanc (a alwodd i mewn ac ymholi ynglŷn ag ymuno gyda’r grŵp) – gobeithiaf y bydd yn ddigon dewr i ddychwelyd ….
- Codwyd tua £80 i elusen leol. Arian nad oedd yn eu coffrau cyn y ffair”.
Hoffem longyfarch ein dysgwyr ar eu gwaith caled! Os hoffech ddarganfod mwy am ein cyrsiau Celf a Chrefft, cliciwch yma.
I weld mwy o luniau Ffair Nadolig yr Hwb Celf a Chrefft Greadigol yn Aberystwyth, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth