Beth mae’r Maes yn ei addysgu i ni am ddysgu
30-Gorffennaf-2026
Rhwng 1 ac 8 Awst, bydd Eisteddfod y Garreg Las yn dod â phobl ynghyd yn Llantwd yng ngogledd Sir Benfro. Gan nodi 850 mlynedd ers cynnal yr eisteddfod gyntaf a gofnodwyd yn Aberteifi ym 1176, bydd yn ddathliad pwysig o’r Gymraeg a diwylliant a chreadigrwydd Cymru.
Wrth i ni fwynhau’r cystadlaethau, y perfformiadau, yr arddangosfeydd a’r gweithgareddau, buaswn yn annog pawb ohonom i edrych y tu hwnt i’r hyn a gyflwynir a gofyn: pa ddysgu gwnaeth sicrhau bod hyn oll yn bosibl?
Yr hyn a welwn ar y Maes yw uchafbwynt misoedd, ac weithiau blynyddoedd, o ymarfer, paratoi, anogaeth ac ymdrech ar y cyd. Bydd perfformwyr, cystadleuwyr, artistiaid a gwneuthurwyr yn cyflwyno’r hyn y maent wedi’i ddysgu a’i greu. Bydd gwirfoddolwyr, teuluoedd, tiwtoriaid, grwpiau cymunedol a sefydliadau yn dod â chanlyniadau’r sgiliau a ddatblygwyd, y wybodaeth a rannwyd a’r perthnasoedd a gafodd eu meithrin.
Yn rhy aml, ni fyddwn yn cydnabod dysgu oni bydd hynny’n digwydd ar gwrs neu’n arwain at gymhwyster. Mae’r eisteddfod yn herio’r safbwynt cul hwnnw. Mae’n sicrhau bod y chwilfrydedd, yr hyder, y creadigrwydd a’r cydweithio yn weladwy; trwy’r elfennau hynny, bydd pobl yn datblygu eu galluoedd ac yn cynnal ein hiaith, ein diwylliant a’n treftadaeth.
Nid yw’r dysgu hwn yn perthyn i un grŵp oedran nac yn symud i un cyfeiriad yn unig. Bydd pawb yn cyrraedd â gwybodaeth, profiadau a safbwyntiau gwahanol. Bydd pobl yn dysgu gan y sawl sydd wedi ymarfer sgil benodol dros nifer o flynyddoedd, ond hefyd gan y rhai sy’n canfod gweithgaredd, traddodiad neu syniad am y tro cyntaf.
Gall perfformiad gyflwyno safbwynt gwahanol i gynulleidfa. Gall sgwrs gynnig hyder i bobl ddefnyddio eu Cymraeg. Gall gwirfoddoli ddatgelu galluoedd na wyddai pobl eu bod yn meddu arnynt. Gall paratoi at gystadleuaeth ddatblygu disgyblaeth, gwydnwch a gwaith tîm ymhlith pobl o bob oedran.
Drwy’r profiadau hyn, gwneir llawer mwy na chynnal diwylliant a threftadaeth a’u trosglwyddo heb eu newid. Cânt eu harchwilio, eu cwestiynu, eu hymarfer a’u hadnewyddu gan bawb sy’n cyfranogi.
Bydd pobl yn cyrraedd Eisteddfod y Garreg Las o wahanol fannau cychwyn. Bydd rhai wedi bod yn cyfranogi drwy gydol eu hoes, a bydd eraill yn ymweld am y tro cyntaf. Bydd rhai yn siarad Cymraeg yn rhugl; bydd eraill yn dysgu, yn dychwelyd i’r iaith neu’n cymryd eu camau cyntaf.
Nid yw dod â phobl at ei gilydd yn creu cynhwysiant o reidrwydd. Rhaid i gymuned ddysgu gref groesawu gwahanol brofiadau, gwerthfawrogi pob cyfraniad a chynnig mwy nag un dull cyfranogi. Mae’r cyfrifoldeb hwnnw’n perthyn i bawb ohonom sy’n gweithio ym meysydd addysg, diwylliant, gwasanaethau cyhoeddus a bywyd cymunedau.
Yn Addysg Oedolion Cymru, byddwn yn gweld beth ddaw’n bosibl pan fydd dysgu’n hygyrch, yn berthnasol ac wedi’i wreiddio ym mywydau pobl. Bydd oedolion yn cyfrannu gwybodaeth a phrofiadau gwerthfawr gan barhau i ddatblygu diddordebau, sgiliau a pherthnasoedd newydd. Caiff y profiadau y byddant yn eu hennill eu trosglwyddo i deuluoedd, gweithleoedd a chymunedau, gan gynnig cyfleoedd i eraill a chreu newid ehangach.
Mae’r Maes hefyd yn ein hatgoffa nad yw oedran, lle na chyd-destun yn cyfyngu ar ein gallu i ddysgu. Mae’n digwydd drwy sgwrsio a chyfranogi, mewn sesiynau ffurfiol thrwy gyfarfyddiadau annisgwyl. Gall ddechrau â chwilfrydedd, tyfu trwy anogaeth a’n harwain i rywle nad oedd neb ohonom wedi’i ragweld.
Ynghyd â chydweithwyr, byddaf yn bresennol yn yr eisteddfod drwy gydol yr wythnos. Edrychwn ymlaen at fynd i ddigwyddiadau, ymweld â stondinau partneriaid a rhanddeiliaid, meithrin cysylltiadau newydd a chryfhau perthnasoedd presennol. Bydd yn gyfle pwysig i hyrwyddo addysg oedolion, clywed gwahanol safbwyntiau ac archwilio’r potensial ar gyfer mwy o gydweithio.
Yn anad dim, rwy’n edrych ymlaen at glywed am y dysgu sy’n digwydd mewn sefydliadau a chymunedau ledled Cymru, y partneriaethau sy’n cael eu datblygu a’r gwahaniaeth maen er gwell y maent yn ei wneud.
Yr her yw sicrhau nad na chaiff y syniadau, y perthnasoedd a’r awydd i ddysgu a gynhyrchir ar y Maes eu cyfyngu i un wythnos. Dylai’r hyn y byddwn yn ei ddysgu yno deithio’n ôl adref gyda ni, gan greu sgyrsiau newydd, cysylltiadau cryfach a mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu drwy gydol eu hoes.
Kathryn Robson, Prif Weithredwr
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth