Addysg Oedolion Cymru yn croesawu Zaina Aljumma yn Is-lywydd newydd | Addysg Oedolion Cymru

Addysg Oedolion Cymru yn croesawu Zaina Aljumma yn Is-lywydd newydd

5-Mai-2026
Rhannu

Mae Addysg Oedolion Cymru (AOC) yn falch iawn i gyhoeddi penodiad Zaina Aljumma yn Is-lywydd newydd, yn dilyn ei hethol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y sefydliad ym mis Mawrth 2026. Mae’n olynu Bernie Davies yn y rôl.

Daw Zaina â phrofiad helaeth ym maes addysg oedolion, gan wasanaethu fel Swyddog Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn y Brifysgol Agored, ac yn ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe, wedi’i ariannu drwygydweithrediad y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru. Mae ei hymchwil yn archwilio polisïau iaith Gymraeg yng nghyd-destun mudo, gyda ffocws ar amlieithrwydd, perthyn, a dulliau gwrth-hiliol.

Yn wreiddiol o Syria, daeth Zaina i’r DU yn chwilio am loches ac ers hynny mae wedi adeiladu gyrfa mewn addysg oedolion, cynhwysiant, ac eiriolaeth gymunedol. Mae ganddi radd Meistr mewn AAA/ADY (Dyslecsia) o Brifysgol De Cymru a daw â phrofiad helaeth ar draws meysydd megis ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill), addysg bellach, a lleoliadau cymunedol. Mae hefyd wedi bod yn gyd-gadeirydd NATECLA Cymru yn y gorffennol, gan gyfrannu at ddatblygu darpariaethau ESOL ledled Cymru.

Mae ei gwaith yn pontio ymchwil, polisi, ac ymarfer, gan gynnwys sicrhau cyllid Adnodd i ddatblygu adnoddau addysgol dwyieithog arloesol ar gyfer Cwricwlwm Cymru. Mae’n cyfrannu at flaenoriaethau cenedlaethol megis Cymraeg 2050 a Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru, ac mae wedi ymrwymo i ehangu mynediad at ddysgu gydol oes gynhwysol.

Yn ychwanegol i hyn oll, Zaina yw crëwr The Kind Place, podlediad sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n rhannu straeon pobl sy’n ailadeiladu eu bywydau yn y DU. Mae’r prosiect yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i greu man ar gyfer profiadau byw a chefnogi gwaith AOC tuag at ddod yn Goleg Noddfa, gan helpu i feithrin amgylcheddau dysgu cynhwysol sy’n seiliedig ar groeso a pherthyn.

Dywedodd Stephen Nicholls, Cadeirydd Addysg Oedolion Cymru: “Mae penodiad Zaina yn ychwanegiad gwych i’r tîm ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi, ochr yn ochr gyda’n Llywydd, Nia Parry, er mwyn hyrwyddo Dysgu Oedolion yn y Gymuned ledled Cymru.”
 

Dywedodd Zaina, ar ei rôl newydd fel Is-lywydd Addysg Oedolion Cymru, “Mae’n anrhydedd gwirioneddol i mi ymgymryd gyda’r rôl hon ar adeg mor allweddol i addysg oedolion yng Nghymru. Mae fy nhaith ar draws addysg, ymchwil a gwaith cymunedol wedi dangos i mi pa mor bwerus gall dysgu fod i feithrin hyder, cyfle ac ymdeimlad o berthyn.

Nid sgiliau yn unig yw dysgu oedolion; mae’n ymwneud â grymuso, rhoi llais, a chreu llwybrau i bobl ffynnu. Rwyf wedi ymrwymo’n arbennig i sicrhau bod y ddarpariaeth yn adlewyrchu realiti Cymru heddiw: amrywiol, amlieithog, a chyfoethog o ran profiadau byw.

Edrychaf ymlaen at gydweithio drwy Addysg Oedolion Cymru gyda dysgwyr a phartneriaid ledled Cymru i gryfhau cyfranogiad a helpu i lunio dyfodol mwy cynhwysol a thrawsnewidiol ar gyfer dysgu oedolion.”

Ychwanegodd Kathryn Robson, Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru:

“Rwy’n falch iawn o groesawu Zaina fel ein His-lywydd newydd. Mae ‘n dangos ymrwymiad gwirioneddol i ddysgwyr a chymunedau, sydd wedi’i lunio gan ei phrofiad personol, ac mae hynny’n wirioneddol bwysig yn y gwaith a wnawn. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi wrth i ni barhau i agor fyny cyfleoedd ledled Cymru.”



Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth