Ysbrydoli! Enwebiadau Gwobr 2018 – Ian Swan
11-Mai-2018Ar ôl gyrfa yn y Fyddin, cafodd Ian Swan Anhwylder Straen Ôl Drawmatig a bu’n ddigartref am gyfnod. Ar ôl cyfnod o gwnsela a llwyddo i gael llety, penderfynodd geisio cael rhywfaint o waith a chafodd swydd fel casglwr sbwriel gyda Chyngor Caerdydd.
Ar ôl i Ian setlo yn ei rôl, sylwodd bod llawer o broblemau yn y gweithle a gyda’i benderfyniad newydd, penderfynodd chwarae ei ran a daeth yn stiward siop. Wedyn dilynodd gyrsiau niferus a daeth yn gynrychiolydd Gweithle, cynrychiolydd Iechyd a Diogelwch, cynrychiolydd Dysgu’r Undeb a Swyddog Cydraddoldeb.
Er gwaetha’r drasiedi o golli ei ddau riant mewn cyfnod cymharol fyr o amser, parhaodd i weithio, datblygu ei hun a gwthio ymlaen. Ac fe dalodd y gwaith caled ar ei ganfed. Sylwodd Undeb Unite ar Ian fel cyflogai potig.
Dywedodd Glyn Connelly o Unite am Ian mewn grŵp dysgu, ‘agwedd Ian oedd y glud oedd yn dal y grŵp gyda’i gilydd’. Pan gododd cyfle i Drefnydd Dysgu Rhanbarthol gyda phrosiect Cronfa Ddysgu Undeb Unite Cymru, cafodd ei annog i wneud cais a llwyddodd i gael y rôl.
Meddai Ian am ei ddysgu, ‘Fe arhosais i i wneud 15 cwrs i gyd yn cael eu cynnal gan Addysg Oedolion Cymru ac rydw i’n credu bod hyn wedi fy mharatoi i a fy ngwneud i’n berson hyderus a chryf fel rydw i heddiw.
Dywedodd tiwtor Ian, ‘Rydw i ac eraill wedi gweld ymrwymiad ac egni Ian drwy annog yr aelodau ac eraill i brofi manteision a phleser y siwrnai ddysgu. Rydw i’n cyfarfod cydweithwyr Ian o Gyngor Caerdydd yn aml pan maent yn dod i gyrsiau’r Undebau Llafur ac mae eu parch a’u hoffter o’u ffrind yn nodedig iawn.’
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth