Ysbrydoli! Enwebiadau Gwobr 2018 – Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
11-Mai-2018Mae adran gwybodeg Betsi Cadwaladr wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, Unison, Unite yr Undeb a GMB i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu addysg i staff.
Darparodd menter ddysgu ‘HWB’ gyfres o weithdai dysgu i gefnogi unigolion i weithio ar amcan sefydliadau penodol gan ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd ar yr un pryd. Mae’r dysgu wedi bod yn wahanol iawn i’r dulliau traddodiadol oedd yn cael eu defnyddio’n flaenorol. Roedd hyn yn golygu bod yr hyfforddiant yn cael ei deilwra’n benodol i wella sgiliau staff, gan sicrhau eu bod yn cael y cyfle gorau i ddatblygu, dysgu a llwyddo.
Mae’r prosiect wedi rhoi i amrywiaeth o staff ar draws nifer o ddisgyblaethau hyder i gredu y gallant lwyddo a dysgu sgil newydd yn ystod unrhyw gyfnod yn eu bywyd. Dywedodd un o ddysgwyr y prosiect, ‘Fe wnes i ddysgu llawer am strwythur prosiect. Yn wreiddiol, doedd gen i ddim syniad am y prosiectau penodol, a llai fyth o wybodaeth am y ffordd roedd y gwaith yn cael ei drefnu. Roedd gwylio a bod yn rhan o weithredu prosiect mawr gydag aelodau mor brofiadol o staff nid yn unig o ddefnydd ond hefyd yn gryn ysbrydoliaeth’. Ac meddai cyfranogwr arall, ‘Mae prosiect HWB wedi cyflwyno grŵp o bobl o ddisgyblaethau amrywiol i gydweithio a gweithio’n annibynnol ar ddetholiad o brosiectau ledled yr Ymddiriedolaeth’.
Mae’r cwrs hwn yn enghraifft wych ohonom yn gweithio mewn partneriaeth. I weithio gyda ni, siaradwch â ni heddiw!
Info@adultlearning.wales / 03300 580845
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn gweithio mewn partneriaeth ledled Cymru.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth