Yr athrawon na fyddwch yn eu gweld bob amser
5-Hydref-2026
Pan fyddwn ni’n meddwl am athro neu athrawes, bydd y rhan fwyaf ohonom ni’n = dychmygu ystafell ddosbarth mewn ysgol neu goleg, mae’n debyg, ond mae addysgu a dysgu’n digwydd mewn llawer iawn mwy o leoliadau na hynny. Ledled Cymru, mae tiwtoriaid addysg oedolion yn addysgu mewn lleoliadau cymunedol a gweithleoedd, yn ogystal ag ar-lein, gan weithio gyda dysgwyr y mae eu hoedrannau, eu profiadau a’u rhesymau dros ddysgu yn llawer mwy amrywiol.
Mae Diwrnod Athrawon y Byd, ddydd Llun 5 Hydref 2026, yn gyfle i gydnabod yr athrawon a’r tiwtoriaid hyn, oherwydd ni chaiff y sgil benodol sy’n gysylltiedig ag addysgu oedolion ei chydnabod bob amser.
Yn Addysg Oedolion Cymru, daw ein dysgwyr ag oes o brofiad i’w dosbarthiadau. Efallai eu bod wedi magu teuluoedd, gofalu am eraill, gweithio am ddegawdau, gwirfoddoli yn eu cymunedau, neu ddatblygu sgiliau sylweddol heb ennill unrhyw gymhwyster i’w cydnabod. Mae gan rai atgofion cadarnhaol o addysg, a bydd eraill yn dychwelyd i ddysgu yn coleddu cred a sefydlwyd flynyddoedd lawer yn ôl nad oedd addysg yn rhywbeth iddynt hwy .
Mae tiwtor addysg oedolion da yn deall nad tudalen wag yw’r man cychwyn. Yr unigolyn sydd o’u blaen yw’r man cychwyn hwnnw.
Mae hynny’n gofyn am wybodaeth am y pwnc ac arbenigedd proffesiynol, ond mae angen rhywbeth arall hefyd: y gallu i wrando, addasu a chreu amgylchedd ble bydd oedolion yn teimlo’n gyfforddus yn gofyn cwestiynau ac yn rhoi cynnig ar rywbeth a allai fod yn anodd iddynt i ddechrau. Mae ein tiwtoriaid bod hyder yn rhywbeth na ellir ei gymryd yn ganiataol, ac yn achos rhywun sy’n dychwelyd i ddysgu ar ôl 20 neu 30 mlynedd, gall cyfranogi yn y sesiwn gyntaf fod yn gam arwyddocaol.
Gwyddom beth all ddilyn. Bydd oedolion yn datblygu sgiliau ar gyfer gwaith, yn ennill cymwysterau, yn gallu trin iaith, rhifau neu dechnoleg yn fwy hyderus, yn darganfod pethau na wyddent yn flaenorol eu bod yn ymddiddori ynddynt ac yn mynd ati i ddysgu rhagor. Weithiau, bydd y newid pwysicaf yn anoddach ei fesur: rhywun a ddywedodd rywbryd, “Dydw i ddim yn dda am ddysgu”, yn dechrau ystyried eu hunain yn wahanol.
Mae Diwrnod Athrawon y Byd eleni yn nodi 60 mlynedd ers yr argymhelliad rhyngwladol ynghylch statws athrawon. Mae’n gyfle i gydnabod proffesiynoldeb addysgwyr ym mhobman, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio y tu hwnt i’r ystafelloedd dosbarth yr ydym yn eu cysylltu’n draddodiadol ag addysgu.
Ledled Cymru, mae tiwtoriaid addysg oedolion yn helpu pobl i gymryd camau newydd yn holl gamau eu bywyd. Maent yn creu mannau croesawgar i ddysgu, ond maent hefyd yn gwneud rhywbeth llawer pwysicach: maent yn helpu pobl i gydnabod beth allant ei gyflawni. Mae hynny’n haeddu cael ei weld, ei werthfawrogi a’i ddathlu.
Kathryn Robson, Prif Weithredwr
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth