Ymweliad Cangen â Hampton Court | Addysg Oedolion Cymru

Ymweliad Cangen â Hampton Court

18-Ionawr-2020
Rhannu

 

Cafwyd “diwrnod hollol wych” gan aelodau o’n Cangen Caerffili yn ddiweddar pan ymwelon nhw â Phalas Hampton Court. Roedd yr arddangosfa dros dro gyda’i chysylltiad Cymreig – Gwisg Goll Elizabeth 1af – yn uchafbwynt arbennig.

Bu cryn dipyn o rwydweithio ar y diwrnod gydag aelodau yn bresennol o 3 cangen o Ferched y Wawr gyda’r nod o fynychu gweithdai cangen, ysgolion dydd a darlithoedd yn y dyfodol.

Gyda 38 o wynebau hapus o’r dechrau i’r diwedd, mae cais ymweliad dilynol ag Eglwys Bacton bellach wrthi’n cael ei gynllunio. Dyddiau hapus!

I gael gwybodaeth am eich cangen agosaf, siaradwch â ni: 03300 580845 / info@adultlearning.wales / facebook.com/alwcymru.

 

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth