Ymgyrch ‘Dathlu Meddyliau Gwahanol’ USDAW yn Dwyn Sylw at Gymorth i Bobl Niwroamrywiol yng Nghaerdydd
25-Gorffennaf-2025Ddydd Mercher 25 Mehefin 2025, yn archfarchnad Tesco yng Nghroes Cwrlwys yng Nghaerdydd, cynhaliwyd sesiwn ddwy awr hollbwysig fel rhan o ymgyrch ‘Dathlu Meddyliau Gwahanol’ USDAW (Undeb y Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol) â chymorth gan Addysg Oedolion Cymru (ALW). Fe wnaeth y digwyddiad ymdrin ag Anableddau a Chydraddoldeb, gan gynnig sianeli cymorth amrywiol a gwybodaeth i rieni a gofalwyr pobl niwroamrywiol.
Fe wnaeth Jack Sargeant AS, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yng Nghymru, fynychu’r sesiwn addysgiadol. Ysgrifennwyd a chyflwynwyd y sesiwn yn arbenigol gan diwtor Undebau Llafur AOC, Dr Angela Morelli, a wnaeth gynnig arweiniad i’r cyfranogwyr ynghylch cymhlethdodau niwroamrywiaeth a’u hawliau o dan y ddeddfwriaeth gyfredol.
Fe wnaeth y cyfranogwyr feithrin dirnadaeth fanylach o hanfodion niwroamrywiaeth, gan gynnwys y cysyniad o niwroamrywiaeth sy’n gorgyffwrdd ac yn cyd-ddigwydd, er enghraifft, unigolion sydd yn Ddyslecsig ac Awtistig. Dysgodd y cyfranogwyr am wahanol fathau o wahaniaethu – uniongyrchol, anuniongyrchol, a gwahaniaethu oherwydd cysylltiadau – ac roedd y profiad wedi’i deilwra’n benodol i amlygu’r heriau y bydd rhieni a gofalwyr yn eu hwynebu. Fe wnaeth y sesiwn hefyd ymdrin â Deddf Cydraddoldeb 2010 (EA10), a phan oedd hynny’n berthnasol, amlygwyd cysylltiadau â dylanwad EA10 ac effaith hynny ar yr hyn a gaiff ei ystyried yn anabledd a’r hyn na chaiff ei ystyried felly, a’r ddeddfwriaeth ychwanegol sydd ar waith i helpu’r sawl sy’n byw gydag anabledd.
Dywedodd Angela:
“Roedd yn bleser cael gweithio gyda rhai o gynrychiolwyr USDAW, a gyda’n gilydd fe wnaethon ni drafod, datblygu gwybodaeth flaenorol, a dysgu o brofiadau bywyd y naill a’r llall o niwroamrywiaeth. Fe wnaethom groesawu ymweliad Jack Sargent â’r dosbarth, ei ddirnadaeth o bwysigrwydd addysg Undebau Llafur ac yn benodol y rôl y gall cynrychiolwyr ei chyflawni o ran cynorthwyo aelodau niwroamrywiol. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio ag USDAW yn y dyfodol.”
Fe wnaeth y sesiwn hefyd ystyried rôl a phwerau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a chafodd y cyfranogwyr esboniadau ynghylch sut y gallant gael cymorth ac eiriolaeth. Er mwyn sicrhau y byddai’r cymorth yn parhau, cyfeiriwyd cyfranogwyr at sefydliadau cenedlaethol allweddol, gan gynnwys y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a Chymdeithas Ddyslecsia Prydain, sy’n cynnig adnoddau gwerthfawr i barhau i gynorthwyo pobl.
Hefyd yn bresennol roedd Nicholas Paul, Gweinyddwr Cymorth Cwricwlwm ar gyfer Dysgu Oedolion a Gweithle gydag Addysg Oedolion Cymru. Ychwanegodd Nicholas:
“Roedd yn gyfle diddorol i mi fel gweinyddwr fentro allan a chwrdd â rhai o’n dysgwyr yn hytrach na phrosesu rhestr o enwau yn unig. Yn fy marn i, roedd y staff yn groesawgar a’r amgylchedd yn gyfeillgar. Roedd yn braf cael cwrdd â phobl newydd ac rwy’n falch o’r adborth cadarnhaol a gawsom am y cwrs a gynigiwyd. Diolch yn fawr iawn i staff Tesco.”
Dyma ddywedodd Crian Williams o USDAW am lwyddiant y digwyddiad:
“Diolch yn fawr iawn i chi am y sesiwn ddydd Mercher; rydym ni wedi cael adborth gwych. Mae’r cyfranogwyr wedi dweud wrthym ni fod y sesiwn yn hynod o addysgiadol a diddorol. Rwy’n edrych ymlaen at gael cydweithio â chi yn y dyfodol.” Diolch yn fawr unwaith eto.”
Fe wnaeth y digwyddiad yn archfarchnad Tesco yng Nghroes Cwrlwys bwysleisio ymrwymiad USDAW ac AOC i hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin amgylchedd mwy cydymdeimladwy a chefnogol i unigolion niwroamrywiol a’u teuluoedd. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ‘Dathlu Meddyliau Gwahanol’, trowch at www.usdaw.org.uk/latest-news/celebrating-different-minds/






Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth