Ymgynghoriadau Strategaeth [2025-2028] Addysg Oedolion Cymru
14-Chwefror-2025Cynllun Strategol Drafft – Ymgynghoriad ar Gau
Roeddem yn falch o’ch gwahodd i gyfrannu at yr ymgynghoriad ynghylch y drafft o’n Cynllun Strategol ar gyfer 2025 – 2028. Mae’r cynllun yn amlinellu ein gweledigaeth, ein blaenoriaethau a’n hamcanion allweddol ar gyfer y blynyddoedd sy’n dod, a bydd eich sylwadau yn hynod o werthfawr o ran sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion ein rhanddeiliaid.
Bydd yr adborth a dderbynnir yn helpu i lunio fersiwn derfynol y cynllun ac yn arwain ein camau nesaf. Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad hwn.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft – Ymgynghoriad ar Gau
Roeddem yn falch o gyflwyno ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2025-2028 yn ystod mis Mawrth 2025, dogfen sy’n dwyn sylw at ein hymroddiad i feithrin amgylchedd cynhwysol, teg a chefnogol yn Addysg Oedolion Cymru. Mae’r cynllun yn gydnaws â’n gwerthoedd craidd a nodau ein Cynllun Strategol ar gyfer 2025-2028, gan sicrhau y gall unrhyw ddysgwyr (beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau) gael profiadau dysgu rhagorol. Mae ein hymdrechion i greu lle diogel a chroesawgar i’r holl ddysgwyr, staff a’r aelodau yn pwysleisio ein hymroddiad i sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant.
Rydym ni yn Addysg Oedolion Cymru yn credu bod tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol er mwyn sicrhau twf personol a thwf cymunedau. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn ymrwymiad gweithredol i’r egwyddorion hyn, ac mae’n cynnig arweiniad i ni i’n galluogi i chwalu rhwystrau sy’n atal pobl rhag dysgu a chreu diwylliant o berthyn i bawb ohonom ni.\ Rydym yn ddiolchgar iawn i’n partneriaid, dysgwyr, staff, aelodau a rhanddeiliaid mewn cymunedau am barhau i’n cynorthwyo ni i gyflawni’r amcanion hyn. Gyda’n gilydd, rydym yn sicrhau dyfodol mwy disglair a thecach ar gyfer addysg oedolion ledled Cymru.
Bydd yr adborth a dderbynnir yn helpu i lunio fersiwn derfynol y cynllun ac yn arwain ein camau nesaf. Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad hwn.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth