Y Frenhines Elizabeth II
9-Medi-2022Cydymdeimlwn yn ddwys yn sgil marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II. Hi sydd wedi gwasanaethu hiraf o blith holl frenhinoedd a breninesau’r Deyrnas Unedig, ac ar ôl teyrnasu am 70 mlynedd, mae ei heffaith ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, ac ar deyrnasoedd a thiriogaethau eraill, yn arwyddocaol iawn a diolchwn iddi am ei gwasanaeth.
Bydd ein Sefydliad yn arsylwi’r cyfnod galaru wrth barhau i gefnogi ein dysgwyr, aelodau a staff. Byddwn yn aros am fanylion trefniadau’r gwyliau cenedlaethol ar gyfer angladd Ei Mawrhydi, ac yn cadarnhau manylion ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar ein gweithgareddau ar ôl cael cadarnhad ynghylch hyn.
Os bydd arnoch angen unrhyw gymorth ar yr adeg hon, cysylltwch yn syth â ni.
–
Ymhellach i’r cyhoeddiad y bydd dydd Llun 19eg Medi yn Ŵyl y Banc i nodi Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, byddwch yn ymwybodol y bydd AOC yn cau am y diwrnod, a bydd pob dosbarth sydd i’w gynnal ddydd Llun yn cael ei aildrefnu.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth