Y Ffordd Mae Addysg yn Helpu Dysgwr AOC, Wisen, i Adeiladu Dyfodol Disgleiriach yn Abertawe
21-Mehefin-2026
Ffoadur o Eritrea yw Wisen Fetwi Baley a gyrhaeddodd Abertawe ym mis Mai 2026. Daeth i’r DU ar ei phen ei hun ar ôl profi caledi sylweddol drwy gydol ei hoes. Lladdwyd ei thad pan oedd yn ifanc iawn, a ffodd ei mam gyda hi i Ethiopia i ddianc rhag gwrthdaro ac ansicrwydd yn Eritrea. Yn anffodus, collodd Wisen ei mam yn ddiweddarach a thyfodd i fyny heb gefnogaeth y teulu, gan fyw gyda theuluoedd gwahanol yn Ethiopia.
Oherwydd ei hamgylchiadau, cafodd addysg cyfyng iawn oherwydd mynychodd yr ysgol tan ei bod yn chwech oed. Er gwaethaf yr heriau hyn, datblygodd Wisen awydd cryf i ddysgu a gwella ei chyfleoedd yn y dyfodol.
Cyn cyrraedd y DU, teithiodd Wisen trwy sawl gwlad, gan gynnwys Kenya, yr Eidal, a Ffrainc, cyn cyrraedd y DU ym mis Ionawr 2026. Cafodd ei lletya yn Luton i ddechrau cyn cael ei hadleoli i Abertawe ym mis Mai.
Bu Wisen yn llawn brwdfrydedd a chymhelliant i ddysgu Saesneg. Cyn cyrraedd y DU, dysgodd Saesneg sylfaenol ei hun gan ddefnyddio YouTube ac adnoddau ar-lein eraill. Ers ymgartrefu yn Abertawe, mae wedi cymryd rhan weithredol mewn dosbarthiadau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a chyfleoedd dysgu cymunedol.
Trwy sefydliadau lleol a gwasanaethau cymorth, mae Wisen wedi cael mynediad at:
- Ddosbarthiadau ESOL i wella ei sgiliau Saesneg
- Gweithgareddau integreiddio cymunedol i feithrin hyder a chysylltiadau cymdeithasol
- Cyfleoedd dysgu digidol i gefnogi astudiaeth annibynnol a mynediad at wasanaethau hanfodol
Dengys Wisen wydnwch, penderfyniad a brwdfrydedd rhyfeddol dros ddysgu. Mae ei chyfranogiad mewn dosbarthiadau ESOL wedi cryfhau ei sgiliau cyfathrebu a’i hyder, gan ei galluogi i ymgysylltu’n llawnach yn ei chymuned leol.
Mae ei phrofiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd:
- Addysg iaith fel sylfaen ar gyfer integreiddio
- Cynhwysiant digidol i gael mynediad at ddysgu a gwasanaethau
- Rhwydweithiau cefnogi cymunedol sy’n lleihau unigedd ac yn hyrwyddo’r ymdeimlad o berthyn
- Dysgu gydol oes fel llwybr at annibyniaeth a chyflogaeth yn y dyfodol
Mae taith Wisen yn dangos sut gall cymorth addysgol ac ymgysylltiad cymunedol helpu dysgwyr sy’n ffoaduriaid i oresgyn rhwystrau sylweddol ac adeiladu gwell dyfodol. Mae amgylchedd croesawgar Abertawe, ynghyd ar ddarpariaeth ESOL a chefnogaeth gymunedol, wedi chwarae rhan bwysig wrth ei helpu i ddatblygu hyder, sgiliau iaith, ac ymdeimlad o berthyn yn ei chymuned newydd.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth