Wythnos Ffoaduriaid: Mwy na dechrau newydd  | Addysg Oedolion Cymru

Wythnos Ffoaduriaid: Mwy na dechrau newydd 

18-Mehefin-2026
Rhannu

Yn ystod Wythnos Ffoaduriaid, cawn ein hannog i fyfyrio ar brofiadau pobl sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi ac ailadeiladu eu bywydau mewn mannau eraill. Mae’n gyfle i gydnabod yr heriau y mae llawer o ffoaduriaid wedi’u hwynebu a’r cyfraniadau y maent yn parhau i’w gwneud yn ein cymunedau. 

Yn fy rôl, mae gen i’r fraint o gwrdd â dysgwyr o ystod eang o gefndiroedd. Mae rhai wedi cyrraedd Cymru yn chwilio am ddiogelwch a’r cyfle i ddechrau o’r newydd. Er bod pob taith yn wahanol, yr hyn sy’n aml yn gwneud argraff arnaf i yw’r dyfalbarhad y bydd pobl yn ei amlygu wrth geisio gwella eu bywyd, yn hytrach na’r anawsterau y maent wedi’u profi. 

Gall dysgu wneud cyfraniad pwysig at y daith honno. Drwy ddosbarthiadau ESOL a chyfleoedd dysgu cymunedol ehangach, bydd pobl yn magu hyder, yn datblygu sgiliau newydd, yn creu cysylltiadau ag eraill ac yn cymryd camau ystyrlon tuag at integreiddio ym mywyd eu cymuned. Gall ystafell ddosbarth fod yn llawer amgenach lle dysgu; gall fod yn lle ble daw pobl i adnabod ffrindiau newydd, ble bydd hyder yn cynyddu, ble bydd cyd-ddealltwriaeth yn datblygu a ble bydd pobl yn dysgu sut i fyw, gweithio a chyfrannu ochr yn ochr â’i gilydd. 

Yr hyn sy’n hynod o ysbrydolgar yn fy marn i yw pa mor aml y bydd dysgwyr yn mynd ati’n gyflym i roi’r gorau i ofyn “Beth allaf i ei ddysgu?”,  ac yn hytrach na hynny, yn gofyn “Sut allaf i gyfrannu?”. Byddwn yn gweld pobl yn gwirfoddoli yn eu cymunedau, yn cynorthwyo grwpiau lleol, yn helpu mewn ysgolion, yn camu ymlaen i gyflogaeth ac yn annog eraill i ddilyn eu taith ddysgu eu hunain. Daw llawer yn gyfranwyr gweithredol yn y cymunedau sydd bellach yn gartref iddynt. Mae’r cymunedau hyn yn tyfu, gan feithrin integreiddio wrth gynnig cyfleoedd. Mae llwyddiant Ruta Kitchen yng Nghastell-nedd yn enghraifft wych o hynny: mae’r busnes, sy’n cyfuno bwydydd a diwylliannau Cymru a Wcráin, wedi agor caffi newydd yn ddiweddar ar Stryd Nelson yn Abertawe, gan gynnig cyflogaeth i deuluoedd lleol sy’n hanu o Wcráin. 

Mae dysgwyr sy’n ffoaduriaid hefyd yn cynnig cyfoeth o brofiadau, gwybodaeth a safbwyntiau. Ni fydd dysgu fyth yn broses unffordd. Mae ein hystafelloedd dosbarth yn gyfoethocach oherwydd yr amrywiaeth o brofiadau sydd gan ddysgwyr. Byddwn oll yn elwa pan fydd pobl yn gallu rhannu eu doniau, eu diwylliannau a’u syniadau. 

Yn Addysg Oedolion Cymru, rydym yn falch o gynorthwyo dysgwyr o bob cefndir. Mae Wythnos Ffoaduriaid yn gyfle i ddathlu eu cyfraniadau yn ogystal â’u gwydnwch. Mae’n ein hatgoffa bod addysg oedolion yn rhywbeth llawer amgenach nag ennill cymwysterau neu feithrin sgiliau. Ar ei orau, mae’n helpu pobl i fagu hyder, cyfranogi’n llawn ym mywyd y gymuned a gwireddu eu potensial. 

Yn ystod Wythnos Ffoaduriaid eleni, dymunaf annog bawb ohonom i gydnabod y gwahaniaeth cadarnhaol y mae dysgwyr sy’n ffoaduriaid yn ei wneud bob dydd. Mae eu straeon yn ein hatgoffa’n rymus y gall dysgu agor drysau, creu cysylltiadau a helpu pobl i gyfrannu mewn ffyrdd sy’n cryfhau cymunedau er budd pawb ohonom. 

Kathryn Robson, Prif Weithredwr

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth