Gwobr Newid Bywyd a Chynnydd – Teilyngwr: Louisa Johnson! | Addysg Oedolion Cymru

Gwobr Newid Bywyd a Chynnydd – Teilyngwr: Louisa Johnson!

9-Medi-2024
Rhannu

Wythnos Addysg Oedolion 2024

Gwobr Newid Bywyd a Chynnydd – Teilyngwr

Louisa Johnson

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn ddigwyddiad sy’n hyrwyddo cyfleoedd ac yn annog pobl i roi cynnig ar rywbeth newydd. Gall fod yn brofiad sy’n trawsnewid bywyd y sawl sydd efallai heb fanteisio ar addysg yn gynharach yn ystod eu bywyd.

Fe wnaeth Louisa Johnson, un o ddysgwyr Addysg Oedolion Cymru, ganfod ail gyfle i ddysgu eto, ac mae hynny wedi newid ei bywyd.

Gadawodd Louisa yr ysgol pan oedd yn 15 mlwydd oed heb unrhyw gymwysterau, a chychwynnodd weithio mewn ffatri yn syth. Symudodd o amgylch y wlad a threuliodd amser mewn carchar am ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Penderfynodd nad oedd y ffordd honno o fyw yn addas iddi hi, ond ar y cychwyn, nid oedd Louisa yn dymuno ymwneud â byd addysg a dysgu.

Dywedodd Louisa:

“Nid oeddwn i’n credu ar y cychwyn fod y byd academaidd yn addas i mi.  Symudais i Gaerdydd oddeutu 30 mlynedd yn ôl, ac rwyf wedi gweithio’n galed iawn i geisio fy ngwella fy hun, a dod yn bwy oeddwn i’n dymuno’i fod. Bum mlynedd yn ôl, profais chwalfa ac rwy’n dioddef gan iselder a gorbryder difrifol. Oherwydd fy ngorbryder, ni allwn adael y tŷ, ond yna, cefais wybod am Maximus. Yn sgil gweithio gyda Maximus, ymunais â chwrs dysgu digidol Addysg Oedolion Cymru. Roeddwn i’n ochelgar i ddechrau, ac yn codi amheuon ynghylch fy ngallu, ond ymhen hanner awr, penderfynais y byddwn i’n mynd ati i ddysgu oherwydd dyna pam roeddwn i yno.”

Ymunodd Louisa ag un o’r cyrsiau Llythrennedd Digidol Addysg Oedolion Cymru yng Nghaerdydd, dan ofal Nicole Kinnard, y tiwtor. Dymunai Louisa weddnewid ei bywyd ac aeth ati i gofrestru i gyfranogi yn y cwrs, ac mae hynny wedi rhoi hwb i’w hyder. Mae’r cwrs hwn wedi gwella’i sgiliau digidol ac mae hi bellach yn credu y gall hi ymdopi â’r byd ac mae ei sefyllfa hi’n well.

Ychwanegodd Nicole:

“Mae Louisa yn mwynhau agwedd cymdeithasol y cwrs. Mae cyfranogi yn y cwrs wedi ei gorfodi i fentro allan o’r tŷ, ac mae hi’n mwynhau’r cymorth i gymheiriaid y mae hi’n ei gynnig i eraill yn yr ystafell ddosbarth. Mae Louisa yn hanu o gefndir gweddol dlawd ac fe wnaeth hi dreulio cyfnod mewn carchar. Credai nad oedd cyfrifiaduron a gwaith swyddfa yn addas iddi hi ac na fyddai hi fyth yn gallu gwneud y math hwnnw o waith. Fodd bynnag, mae hi wedi cwblhau dau gwrs llythrennedd digidol erbyn hyn, ac mae hi’n credu ei bod hi’n ddigon hyderus i wneud beth bynnag y mae’n ei ddymuno erbyn hyn, ac mae’r profiad wedi gwneud iddi hi sylweddol fod bywyd yn dapestri amryliw, a beth bynnag fo’ch cefndir, gallwch gyflawni eich uchelgeisiau â chymorth gan eraill.”

 “Mae Louisa wedi goresgyn nifer o rwystrau sydd wedi cynnig cyfle iddi hi ddysgu eto a gwella ei haddysg. Mae’n hyfryd cael ei haddysgu hi ac mae hi’n hynod o frwdfrydig, ac mae hi wedi ymgolli yn y rôl cynorthwyo cymheiriaid. Mae Louisa yn gobeithio parhau i ddysgu am faes TGCh a chofrestru i gyfranogi mewn rhagor o gyrsiau achrededig. Mae hi’n ysbrydoliaeth i ddysgwyr eraill, yn garedig ac yn feddylgar, ac mae’n fodlon bob amser cynnig cymorth i eraill a rhannu ei stori ynghylch sut cyrhaeddodd hi ei sefyllfa bresennol â hwy.”

Nid yr agwedd gymdeithasol a’r cyfleoedd i ddysgu yn y cwrs Llythrennedd Digidol yw’r unig bethau sydd wedi helpu Louisa. Mae hi’n fwy hyderus erbyn hyn, ac yn bwysicach na dim iddi hi, mae ei llesiant wedi gwella’n sylweddol.

“Rwy’n hoff iawn o fy nhiwtor (Nicole) – llwyddodd hi i wneud i mi deimlo’n gartrefol a chynorthwyodd i ddileu’r gorbryder. Yn wreiddiol roeddwn yn dymuno gwybod sut mae cyfrifiaduron yn gweithio a beth sy’n digwydd ynddynt, ond rwyf wedi dysgu llawer iawn mwy na hynny ac wedi mwynhau’r cyfan yn arw. Rwyf wedi dod i adnabod criw gwych o bobl ar y cwrs. Nid oeddwn i’n adnabod llawer o bobl cyn hynny, ac erbyn hyn, rwy’n cyd-dynnu’n dda â’r grwpiau rwyf wedi gweithio gyda hwy. Rwyf wedi mwynhau helpu pobl eraill hefyd – byddwn yn sgwrsio ac yn helpu ein gilydd. Rwy’n llawer iawn mwy hyderus yn sgil y cwrs, mae’n gwneud i mi deimlo’n dda ac yn ddefnyddiol, ac mae wedi bod yn fuddiol iawn o ran fy iechyd meddwl.”

Penderfynodd Louisa gyfranogi yn un o gyrsiau Addysg Oedolion Cymru er gwaethaf ei hunanamheuon ynghylch dysgu ar y pryd. Mae wedi bod yn werth chweil cael ei gweld hi’n datblygu, o ran ei haddysg a’i llesiant. Mae addysg a dysgu i bawb, ac fe mae stori Louisa yn profi, dydy hi fyth yn rhy hwyr i ddysgu. Rydym yn hynod o falch fod Louisa wedi’i dewis yn un o deilyngwyr Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! eleni, yng nghategori’r Wobr Newid Bywyd a Chynnydd, ac mae cyflawni hynny yn rhywbeth hynod o haeddiannol. Llongyfarchiadau Louisa!

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth