Wythnos Addysg Oedolion 17-23ain Mehefin 2019 – blas o’n addysg drwy’r flwyddyn gron! | Addysg Oedolion Cymru

Wythnos Addysg Oedolion 17-23ain Mehefin 2019 – blas o’n addysg drwy’r flwyddyn gron!

12-Mehefin-2019
Rhannu

Daeth yr amser o’r flwyddyn eto, pan mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion drwy gynnal amrediad o ddigwyddiadau addysgol, cyrsiau blasu, gweithdai a hyrwyddiadau drwy Gymru ben baladr. Gwahoddir pob oedolyn i roi cynnig arni!

Adult learners week

O ‘DIY i Ferched’ yn Llyfyrgell Pontardawe i ‘Reoli Stress’ yn Wrecsam, i ‘Atgofion Digidol’ yn y Drenewydd a gwaith coed traddodiadol yng Nghastell Nedd – a llawer mwy – mae croeso i bawb ymuno! Bydd gwybodaeth ar gael hefyd am ein cyrsiau gydol y flwyddyn, a bydd staff, partneriaid a dysgwyr ar gael i sgyrsio a rhannu gwybodaeth, gan sicrhau fod pawb mwynhau diddordebau hen a newydd!

ict classes

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn dathlu a hyrwyddo profiadau addysgol drwy gydol y flwyddyn yng Nghymru. Gallwch weld manylion eu cyrsiau yn ystod Wythnos Addysg Oedolion ar yma neu drwy ffonio 03300 580845.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth