‘What a Wonderful World’ yn cael ei berfformio gan ein dysgwyr Celfyddydau Perfformio yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe.
25-Mai-2022Ar ddydd Llun 23ain Mai, cafodd Sam Al-khanchi, Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm yn Abertawe, a Cath Hicks, Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr ac Adnoddau, y pleser o fynychu cynhyrchiad yr haf o ‘What a Wonderful World’ yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe – cynhyrchiad a berfformiwyd gan ein dysgwyr yng Ngrŵp Drama Pontardawe.
Dyfeisiwyd a chyfarwyddwyd y sioe gan Keith Ivett a Stevie-Ann Fraser, dau diwtor y Grŵp Drama, sy’n cyfarfod yn wythnosol yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe. Mae’r Grŵp yn cynnwys 23 o ddysgwyr, rhwng 18 a 70 oed, ac maent yn rhan o’n hadran Anghenion Dysgu Ychwanegol bywiog sy’n parhau i dyfu yn Abertawe. Daw dysgwyr at ei gilydd i fwynhau sesiynau drama, canu, symud a dawns. Cefnogir y grŵp hefyd gan ferch Keith a Stevie-Ann sef Jamiee, sy’n gwirfoddoli.
Rhannodd Sam Al-khanchi ei phrofiad o’r cynhyrchiad gyda ni: “Roedd y cynhyrchiad yn cynnwys gwahanol elfennau yn ymwneud ag anifeiliaid a’r byd naturiol, gan gynnwys agoriad a ddylanwadwyd gan y ‘Lion King’, cân ddiddorol a ffeithiol am wenyn, ac eitem gyda dylanwad ‘Disney’ am ‘o dan y môr’ gyda diweddglo a oedd yn ymgorffori Iaith Arwyddion Prydain.”
Mae’r sesiynau wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau’r aelodau. Mae un ferch ifanc, Catrin Howe, wedi bod yn mynychu’r dosbarthiadau’n rheolaidd ers llawer o flynyddoedd ac wedi gweld ei hyder yn tyfu’n aruthrol yn ystod y cyfnod.
Meddai Catrin, “Roeddwn i yn arfer bod yn nerfus, ond nawr dwi wrth fy modd!”
Ychwanegodd rhieni Catrin, “Dyma’r peth pwysicaf yn ei bywyd ar hyn o bryd. Mae hi wedi gwirioni arno ac wedi datblygu cymaint. Rydym yn hynod ddiolchgar ein bod yn cael y cyfle i ddod i wylio sioe fel hon.”
Ychwanega Sam: “Roedd y sioe yn wych – yn emosiynol, yn procio’r meddwl ac yn wylaidd – i gyd wedi’u rholio’n un. Yn syml iawn, ni fyddai aelodau’r grŵp yma yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y celfyddydau perfformio a bod yn rhan o sioe fel hon, oni bai am waith caled ac anhygoel Keith a Stevie-Ann, a chefnogaeth Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Roedd gweld cymaint roedd y cast yn mwynhau perfformio, a faint roedd y gynulleidfa wedi mwynhau’r sioe, yn bleser pur – ni allaf aros i weld y sioe nesaf!”
Rydym mor ddiolchgar am y cyfle i ymuno gyda digwyddiad fel hyn ac rydym mor falch o glywed ei fod wedi helpu ein dysgwyr!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau a fideo o’r perfformiad ‘What a Wonderful World’!
Os ydych wedi cael eich ysbrydoli ac yn awyddus i roi cynnig ar ddysgu rhywbeth newydd heddiw, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth