Uwchsgilio ar gyfer Cyfnod Newydd: Mae Cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn Cefnogi Gweithwyr Dur TATA ym Mhort Talbot
24-Mai-2025Ym mis Mai 2024, wrth i ansicrwydd ymddangos ynghylch cau ffwrnais chwyth TATA Steel ym Mhort Talbot, ymwelodd Tîm Dysgu a’r Gweithle Addysg Oedolion Cymru gyda’r safle i gyfarfod rhai o’r gweithwyr a oedd yn wynebu dyfodol ansicr. Roeddent yno i dynnu sylw at y cyrsiau hyfforddi rhad ac am ddim drwy’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA). Amcanion y cyrsiau hyn yw helpu gweithwyr i ailhyfforddi ar gyfer adleoli neu barhau mewn cyflogaeth, gan bwysleisio’r cyfleoedd gyrfa newydd yn ystod cyfnodau heriol.
Un stori lwyddiant gwych a ddaeth o’r ymweliad hwnnw yw stori Paul Hiscox, gweithiwr TATA Steel. Gan fanteisio ar y cyfle a gyflwynwyd gan y PLA, cychwynnodd Paul ar daith hyfforddi ddwys, trwy gwblhau ac yn llwyddo ar nifer o gyrsiau a gynhelid gan Wilson Training ac Addysg Oedolion Cymru. Roedd y cyrsiau MEWP bu i Paul lwyddo ynddynt yn cynnwys y Llwyfan Gwaith Codi Symudol Bŵm, Dadlwythwr (dumper) Tipio Cefn a Chloddiwr 360 (fel y dangosir). Mae’r cyflawniad rhyfeddol yma nid yn unig yn arddangos ysgogiad personol Paul, ond mae hefyd yn tynnu sylw at fanteision pendant rhaglen Cyfrif Dysgu Personol wrth ddiogelu bywoliaethau yn ystod cyfnod o newidiadau diwydiannol sylweddol.
Dyma be ddywedodd Paul, “Llwyddais i gadw fy swydd yn TATA yn dilyn y cyrsiau a ariannwyd gan y PLA. Cefais fy adleoli ac rwyf nawr yn gwneud swydd newydd gyda’r sgiliau a ddysgais yn ddiweddar.”
Mae’r cyrsiau PLA a gynigir gan Wilson Training mewn cydweithrediad gydag Addysg Oedolion Cymru wedi’u cynllunio gyda hyblygrwydd a pherthnasedd i’r diwydiant penodol. Maent yn canolbwyntio ar ddarparu sgiliau a chymwysterau newydd sy’n cyd-fynd gyda blaenoriaethau sector yng Nghymru, yn yr achos hwn, adeiladwaith. Mae’r cyrsiau’n cynnwys Prawf Dadlwythwr Tipio Ymlaen, Llwythwr Telesgopig i Nofis, Prawf Symudwr Offer a Chloddiwr fel Craen (Gweithrediadau Codi) i Nofis.
Ariannir y Cyfrif Dysgu Personol gan Lywodraeth Cymru. Mae’n caniatáu i unigolion cymwys yng Nghymru gael mynediad at gyrsiau rhan-amser wedi’u hariannu’n llawn (ar-lein neu wyneb yn wyneb) i uwchsgilio, ennill cymwysterau, a datblygu eu gyrfaoedd.

Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth