Uno – Cyfarfod Cyffredinol Arbennig | Addysg Oedolion Cymru

Uno – Cyfarfod Cyffredinol Arbennig

15-Gorffennaf-2015
Rhannu

Mae’r cam nesaf yn y broses o’n uno gyda Choleg Cymunedol YMCA Cymru yn digwydd Dydd Mercher 22 Gorffennaf, gyda Chyfarfod Cyffredinol Arbennig i’w gynnal yng Nghampws Canol y Ddinas o Goleg Caerdydd a’r Fro am 2 y.p. y diwrnod hwnnw.

Bydd cyfansoddiad diwygiedig arfaethedig ar gyfer y mudiad estynedig ger bron y Cyfarfod, a bydd cynnig i gymeradwyo trosglwyddiad asedion un corff i’r llall i greu’r hyn a elwir WEA YMCA Coleg Cymunedol Cymru. Bydd y Cyfarfod Arbennig hefyd yn gyfle i dderbyn cyfrifon blynyddol WEA Cymru (a gellir eu gweld yn llawn fan hyn) ac i ddweud ffarwel wrth ein Prif Swyddog Gweithredol, Maggi Dawson, sydd yn ymddeol.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth