Tanio Creadigrwydd: Y Cwrs Celfyddyd Pren a Phyrograffeg yng Ngweithdy Dove, Banwen | Addysg Oedolion Cymru

Tanio Creadigrwydd: Y Cwrs Celfyddyd Pren a Phyrograffeg yng Ngweithdy Dove, Banwen

11-Chwefror-2025
Rhannu

Mae’r cwrs Celfyddyd Pren a Phyrograffeg yng Ngweithdy Dove, Banwen, dan arweiniad y tiwtor Rhys Clement, yn rhoi cyflwyniad difyr i gelfyddyd llosgi pren. Mae’r gweithdy anffurfiol hwn sy’n rhad ac am ddim yn croesawu oedolion o bob oed a lefelau profiad, gan greu amgylchedd hamddenol lle gall creadigrwydd ffynnu. Nid oes angen unrhyw sgiliau artistig blaenorol na galluoedd gwneud llun â llaw rydd, oherwydd gall cyfranogwyr ddargopïo neu gopïo dyluniadau gan ddefnyddio papur graffit. Mae’r cwrs yn annog archwilio artistig ac yn addysgu technegau amrywiol i greu dyluniadau cymhleth, llosgedig ar wahanol fathau o bren.

Hanes Pyrograffeg yng Nghymru

Mae pyrograffeg wedi bod yn draddodiad yng Nghymru ers amser maith, ac mae rôl coedwriaeth wedi bod yn bwysig mewn crefftwaith artistig ac ymarferol, fel ei gilydd. Mae celfyddyd llosgi dyluniadau i mewn i bren wedi cael ei defnyddio yn hanesyddol at ddibenion addurnol, yn enwedig mewn llwyau caru Cymreig traddodiadol ac eitemau’r cartref. Mae’r cwrs Celfyddyd Pren a Phyrograffeg yng Ngweithdy Dove yn adeiladu ar y dreftadaeth gyfoethog hon, gan alluogi dysgwyr i gysylltu â chrefft draddodiadol tra’n datblygu eu harddulliau creadigol eu hunain.

Amcanion a Chynllun y Cwrs

Mae’r gweithdy yn cyflwyno dysgwyr i hanfodion pyrograffeg, gan gynnwys mesurau diogelwch, technegau hanfodol, a dylunio creadigol. Mae’n helpu cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau echddygol manwl a hyder artistig tra’n darparu profiad uniongyrchol trwy brosiectau dan arweiniad ac archwilio unigol. Datblygwyd y cwricwlwm ar sail technegau pyrograffeg sylfaenol a meithrin sgiliau graddol. Fe’i ffurfiwyd trwy ddefnyddio llyfryn AGORED a chynllun cwricwlwm gan Rhys Clement, dan ddylanwadu adborth gan ddysgwyr blaenorol hefyd.

Mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol megis trosglwyddo a dargopïo dyluniadau ar bren, deall effeithiau gwahanol raenau pren, arbrofi ag arlliwio a manylu, a chreu eu prosiectau personoledig eu hunain. Mae strwythur y cwrs yn cynnwys prosiectau dan arweiniad cam wrth gam ochr yn ochr â gwaith creadigol penagored. Mae trafodaethau grŵp a sesiynau dadansoddi yn galluogi dysgwyr i fireinio’u technegau a magu hyder yn eu galluoedd artistig.

Ymgysylltu a Chydweithio

Caiff dysgwyr eu hannog i gynllunio’u prosiectau eu hunain ar sail diddordebau personol, gan feithrin creadigrwydd a hunanfynegiant. Mae’r cwrs yn hyrwyddo cydweithio trwy weithgareddau grŵp a phrosiectau ar y cyd, lle gall cyfranogwyr gyfnewid syniadau a thechnegau. Mae adborth rheolaidd a chymorth gan gymheiriaid yn helpu magu hyder ac yn annog twf artistig. Mae’r ymagwedd gynhwysol hon yn sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo’i fod yn cael cefnogaeth trwy gydol ei daith mewn pyrograffeg.

Heriau ac Atebion

Roedd heriau wrth gyflwyno’r cwrs. Roedd angen cymorth teilwredig ac opsiynau prosiect amgen i reoli gwahanol lefelau sgiliau er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn gallu gwneud cynnydd wrth ei bwysau. 

Adborth ac Effaith

Dywedodd llawer o ddysgwyr fod ganddynt fwy o hyder artistig ac ymdeimlad o ymlacio trwy’r grefft. Mynegodd rhai ohonynt ddiddordeb mewn parhau â phyrograffeg fel hobi neu hyd yn oed ddechrau busnesau bach. Prynodd nifer o gyfranogwyr eu peiriannau pyrograffeg eu hunain, ac ers hynny, maent wedi creu anrhegion wedi’u personoli, addurniadau i’r cartref, a gwaith celf. Roedd dysgwyr yn gwerthfawrogi’r amgylchedd hamddenol a chefnogol, a oedd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau newydd heb deimlo dan bwysau. Mwynhaodd llawer ohonynt y cwrs cymaint fel eu bod wedi dychwelyd ar gyfer dysgu pellach.

Yr Agweddau Mwyaf Gwerthfawr

Yn ôl Rhys: “Un o’r agweddau mwyaf gwerthfawr ar y cwrs yw gweld dysgwyr yn magu hyder ac yn ymfalchïo yn eu creadigaethau.”

Mae’r cwrs hefyd yn meithrin cyfeillgarwch ac ymdeimlad o gymuned, wrth i gyfranogwyr rannu syniadau, technegau, ac anogaeth â’i gilydd. Mae gwylio dysgwyr yn cael ysbrydoliaeth oddi wrth ei gilydd ac yn datblygu eu harddulliau artistig eu hunain yn ychwanegu at lwyddiant cyffredinol y gweithdy.

Symud Ymlaen

I wella’r cwrs, nod Rhys Clement yw cyflwyno technegau mwy datblygedig ar gyfer dysgwyr sy’n dychwelyd. Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys cynnig arddangosfa ar ddiwedd y cwrs i ddathlu gwaith dysgwyr. Mae ehangu cyfleoedd creadigol trwy weithdy thema a phrosiectau cymunedol hefyd yn flaenoriaeth. Bydd y datblygiadau hyn yn parhau i ysbrydoli unigolion i archwilio’u potensial artistig tra’n gwarchod ac yn hyrwyddo crefftau traddodiadol.

Casgliad

Mae’r cwrs Pyrograffeg yng Ngweithdy Dove yn darparu profiad croesawgar a chyfoethog ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn celfyddyd llosgi pren. Trwy ymarfer uniongyrchol, arweiniad arbenigol a’r cyfle i gael tystysgrif, gall dysgwyr ddatblygu sgil newydd gwerthfawr. P’un a yw hyn er mwynhad personol neu fel cyflwyniad i grefftwaith artistig, mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle gwych i archwilio creadigrwydd mewn amgylchedd cefnogol.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth