Taith Anhygoel o Ddysgu ar y Cyd a Pharch | Addysg Oedolion Cymru

Taith Anhygoel o Ddysgu ar y Cyd a Pharch

20-Tachwedd-2024
Rhannu

Ar y 7fed Hydref 2024, cyrhaeddodd 10 o ddysgwyr, eu gofalwyr a 6 aelod o staff Addysg Oedolion Cymru, ValePlus yn y Barri ar gyfer eu taith foreol i ddinas Patras, Gwlad Groeg fel rhan o brosiect ‘Balch o fod yn Awtistig’ (Proud to be Autistic) a ariannwyd gan y cynllun Taith. Mae’r prosiect, a gyflwynir gan Addysg Oedolion Cymru mewn partneriaeth gyda Dafni-Kek, yn defnyddio’r ymchwil diweddaraf ac arfer gorau gan sefydliadau partner rhyngwladol i ddarganfod ffyrdd newydd o gyfoethogi rhaglenni dysgu ar gyfer oedolion awtistig. Mae Dafni-Kek yn sefydliad sydd wedi’i leoli yn Patras, Groeg ac maent yn arbenigo mewn ymchwil gymdeithasol ac arloesol ar gyfer addysg oedolion.

Mae rhan o’r prosiect wedi’i neilltuo i hwyluso rhaglen gyfnewid ddiwylliannol rhwng dysgwyr Addysg Oedolion Cymru, eu gofalwyr a’u staff gyda dysgwyr a staff o Roeg i feithrin hyder ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol, wrth fynd i’r afael gyda’r stigma sy’n gysylltiedig gydag awtistiaeth. Cafodd cyfranogwyr y prosiect gyfle unigryw i ymweld gyda lleoedd o arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol yng Ngroeg, gan gynnwys Safle Treftadaeth y Byd Olympia a Kalavryta. Cawsant brofiad o deithio drwy’r mynyddoedd ar reilffordd rhesel enwog Diakopto-Kalavryta, mwynhau bwyd Groegaidd traddodiadol, nofio yn y môr, ac ymweld gyda chanolfan ddydd sy’n cefnogi oedolion gydag anghenion dysgu ychwanegol yn Patras.

Er cynlluniwyd yn fanwl yn ystod y paratoadau ar gyfer yr ymweliad, ychydig a feddyliwyd cyn yr ymweliad am yr effaith byddai’r profiad yn ei gael ar y dysgwyr, y gofalwyr a’r staff a gymerodd ran.

Dywedodd Jayne Ireland, Rheolwr Dysgu Rhanbarthol Addysg Oedolion Cymru: “Fe dderbyniais gymaint o’r ymweliad, llawer mwy na’r disgwyl. Dysgais lawer amdanaf fy hun, pobl eraill, a fy nisgwyliadau o bobl. Roeddwn yn teimlo’n freintiedig i fod yn rhan o’r grŵp.”

Teimlai Clair Charalambous, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Addysg Oedolion Cymru fod yr ymweliad yn dangos cyflawniad 100% o ganlyniad arfaethedig y prosiect o chwalu rhwystrau i gymryd rhan:

“Rydym yn falch o fod pwy ydym ac yn cofleidio pwy ydym. Maent (y dysgwyr) yn eiriolwyr ardderchog dros bobl gydag anableddau … ymhell o fod wedi eu harwahanu … cawsant eu cofleidio a’u dathlu’n llawn. Gofynnodd pobl eraill oedd ar wyliau os caent ymuno gyda ni.”

Dywedodd Catherine David, Tiwtor Addysg Oedolion Cymru: “Doedd e ddim yn teimlo fel ein bod yn staff a’u dysgwyr … roeddem yn teimlo fel un grŵp – gyda’n gilydd.”

Gwelodd Michelle Kerswell, Rheolwr Cwricwlwm Addysg Oedolion Cymru, dwf yn hyder y dysgwyr wrth i’r wythnos fynd rhagddi:

“Roedd yr effaith ar unigolion wedi mynd tu hwnt i fy nisgwyliadau. O fewn diwrnod neu ddau gallem weld newid yn y ffordd roedd y dysgwyr yn ymgysylltu â ni. Roedd yn hynod o gadarnhaol.”

Dywedodd Mark Baines, Pennaeth Cwricwlwm a Pherfformiad Addysg Oedolion Cymru fod ei hyder a’i allu personol i gefnogi dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol hefyd wedi cynyddu, oherwydd ei fod wedi cymryd rhan yn yr ymweliad.

Mae adborth y dysgwyr a’r gofalwyr wedi bod yn gadarnhaol wedi iddynt ddychwelyd i Gymru, ac maent yn parhau i siarad am eu taith i Roeg, yr hyn a welsant, a brofwyd, a ddysgwyd, a’r ffrindiau newydd a wnaethant. Er bod gan bawb eu hoff atgofion o’r daith, o ymweld gyda’r ganolfan ddydd yn Patras (oedd yn hynod o boblogaidd gyda’r dysgwyr), i’r teithiau awyren a thrên a’r caraoceyn y gwesty, cytuna pawb fod y daith wedi bod yn un ‘gwych’.

Dywed Ela Denley o ValePlus fod annibyniaeth a hyder y dysgwyr yn tyfu bob dydd, o archebu eu diodydd eu hunain mewn caffis i wneud ffrindiau newydd yn y ganolfan ddydd yng Ngroeg. Dywedodd un dysgwr fod y dysgwyr Groegaidd yn y ganolfan ddydd ‘yn union fel ni, ond eu bod yn Roegaidd’, eiliad arbennig o deimladwy i’r staff a fu’n dyst i hyn. Tra yn y ganolfan dydd, ymunodd y dysgwyr gyda’r dysgwyr Groegaidd, i ddawnsio, peintio a pharatoi eu bwyd eu hunain. Ychwanegodd Catherine David (tiwtor): “Nid oeddem yn rhannu iaith lafar, ond doedd dim ots.”

Mynegodd y prif Weithredwr Kathryn Robson, falchder aruthrol am yr effaith mae’r prosiect ‘Balch o fod yn Awtistig’ wedi’i gael ar bawb a gymerodd ran.

“Mae’r daith i Roeg wedi dangos pŵer cyfnewid diwylliannol wrth feithrin dealltwriaeth, chwalu rhwystrau a dathlu amrywiaeth. Mae gwylio ein dysgwyr yn cysylltu, yn tyfu ac yn cofleidio profiadau newydd mewn ffordd mor ystyrlon yn amlygu pwysigrwydd cyfleoedd cynhwysol mewn dysgu gydol oes. Edrychwn ymlaen at y bennod nesaf pan fyddwn yn croesawu ein partneriaid Groegaidd i Gymru, gan barhau gyda’r siwrnai anhygoel hon o ddysgu ar y cyd a pharchu ein gilydd”.

Bydd criw o ddysgwyr a staff o ddinas Patras, yng Ngroeg yn ymweld â Chymru yn y flwyddyn newydd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eu croesawu i Gymru.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth