Sophie y Ddysgwraig yn Jyglo Bywyd Teuluol a Gwaith i Wireddu ei Breuddwyd: Astudio mewn Prifysgol | Addysg Oedolion Cymru

Sophie y Ddysgwraig yn Jyglo Bywyd Teuluol a Gwaith i Wireddu ei Breuddwyd: Astudio mewn Prifysgol

17-Hydref-2025
Rhannu

Mae Sophie Morgan, dysgwraig o Lynebwy, wedi canmol Addysg Oedolion Cymru am ei helpu i wireddu ei breuddwyd i astudio mewn prifysgol ar ôl iddi lwyddo i gyflawni ei chymhwyster Cymhwyso Rhif Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru. Fe wnaeth Sophie, sy’n fam i ddau o blant sydd â gwaith amser llawn, ailsefyll ei harholiad terfynol a llwyddo, gan ennill y cymhwyster sydd ei angen arni i ddechrau ei hyfforddiant nyrsio mewn prifysgol.

Diolchodd Sophie am y cymorth a gafodd, yn enwedig gan ei thiwtoriaid, Jim Short, Amanda Salter a Siân Williams, hwylusydd y Rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg,

“Hoffwn ddiolch i’r tiwtoriaid ac i Siân am eu holl gymorth o’r dechrau i’r diwedd,” meddai. “Ar ôl ailsefyll fy asesiad sgiliau hanfodol rhifedd gydag Addysg Oedolion Cymru, byddwn yn sicr yn argymell y dylai unrhyw un sy’n dymuno ennill y sefydliad wneud hynny yn y sefydliad hwn!!”

Er ei bod hi’n wreiddiol wedi mynd ati braidd yn betrusgar i ddechrau dysgu trwy gyfrwng cwrs ar-lein a gyflwynwyd trwy Microsoft Teams, fe wnaeth profiadau dysgu Sophie ei rhyfeddu:

“Roeddwn i’n pryderu braidd am y cwrs ar-lein oherwydd roeddwn i’n credu y byddai’n anodd i mi wneud hynny trwy gyfrwng Teams yn hytrach na thrwy  ddysgu wyneb yn wyneb, ond cefais fy rhyfeddu. “Fe wnaeth y cwrs ar-lein a hyblygrwydd y tiwtoriaid, y cymorth a’r dosbarthiadau a gynigiwyd argraff fawr arnaf i,” ychwanegodd Sophie.

Roedd Siân, Hwylusydd y Rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg, yn falch iawn o weld Sophie yn cyflawni ei nod ac yn llwyddo yn ei harholiadau.

“Pan ddechreuodd Sophie ei chwrs gyntaf, roedd yn amlwg iawn ei bod hi’n ofni mathemateg; fodd bynnag, wrth i’r wythnosau fynd rhagddynt, fe wnaeth hi fagu mwy o hyder,  Fe wnaeth Sophie lwyddo i gyflawni rhan o’i chymhwyster yn syth, ond cafodd drafferth â rhannau eraill. Ond ni wnaeth Sophie roi’r ffidl yn y to, a dyna oedd y peth pwysicaf. Llwyddodd Sophie i ennill ei chymhwyster ar ôl ailsefyll yr arholiadau, ac roedd y llwyddiant hwnnw’n haeddiannol oherwydd ei holl waith caled. 

“Sophie, roedd yn bleser cael eich helpu chi a bod yn rhan o’ch taith ddysgu. Rwy’n dymuno pob lwc i chi yn eich gyrfa Nyrsio a beth bynnag y gwnewch chi brofi yn ystod eich bywyd.”

Mae’r Rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg yn cynnig cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 ar-lein ym meysydd Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.Caiff y cymhwyster ei dderbyn gan lawer o golegau a phrifysgolion yng Nghymru fel cymhwyster sy’n cyfateb i raddau A*-C TGAU Mathemateg a Saesneg, yn y drefn honno. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau rhifedd a/neu gyfathrebu hanfodol sy’n ofynnol ar gyfer y cymhwyster.

I gael rhagor o wybodaeth, gall darpar ddysgwyr gysylltu â Siân Williams trwy e-bostio sian.williams@adultlearning.wales neu droi at y dudalen hon ar wefan Addysg Oedolion Cymru yma

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth