Sicrhau Cynhwysiant Digidol a Grymuso: Y Bartneriaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru a MAD Abertawe | Addysg Oedolion Cymru

Sicrhau Cynhwysiant Digidol a Grymuso: Y Bartneriaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru a MAD Abertawe

19-Mawrth-2026
Rhannu

Mae’r bartneriaeth hon rhwng Addysg Oedolion Cymru a MAD Abertawe yn cynnig caffaeliad hanfodol o ran sgiliau digidol i drigolion Abertawe, gan gyfuno cymorth hanfodol â lles a hyfforddiant sgiliau digidol. Drwy chwalu rhwystrau megis tlodi digidol ac ynysu ieithyddol, mae’r bartneriaeth yn galluogi unigolion i gaffael y sgiliau digidol hanfodol a’r cymorth allweddol ynghylch hynny i helpu i ddatblygu eu bywyd beunyddiol, ac i greu cyfleoedd newydd trwy gyflogaeth.

Mae’r bartneriaeth yn dair oed erbyn hyn, a chafodd ei sefydlu i ddarparu offer gan Addysg Oedolion Cymru i MAD Abertawe i gynorthwyo i ehangu eu darpariaeth ddigidol arloesol ac i archwilio cyfleoedd datblygu cydweithredol i hyrwyddo realiti rhithiol a realiti estynedig ym meysydd addysgu a dysgu. Darllenwch ragor isod i ddarganfod sut mae pump o drigolion Abertawe wedi elwa o’r bartneriaeth hon yn ystod misoedd diweddar.

Roedd Dysgwr R yn dymuno archwilio dylunio 3D ond nid oedd ganddynt y profiad technegol. Drwy ymweld â MAD Abertawe, cafodd y dysgwr y cymorth angenrheidiol a chyfranogodd mewn sesiynau Blender. Cafodd y dysgwr gyflwyniad ynghylch sut i lywio gweithfan Learned 3D, modelu polygonaidd (allwthio/trawsnewid), a sut i gymhwyso mapiau data NASA i wrthrychau 3D. Drwy wneud hyn, llwyddodd R i greu llong ofod a gwrthrychau’r bydysawd mewn 3D. Mae R bellach yn mynd ati i gynhyrchu animeiddiad byr sy’n ymdrin â themâu amgylcheddol.

Roedd angen cymorth ar QZ â Saesneg (ESOL) a llythrennedd digidol sylfaenol, oherwydd roedd angen adnoddau dysgu dibynadwy yn yr iaith Gwrdeg arnynt. Darparodd MAD Abertawe le diogel, bwyd ac offer digidol i helpu QZ, a nodwyd tiwtorialau ynghylch sgiliau digidol trwy gyfrwng yr iaith Gwrdeg ar YouTube. Fe wnaethant hefyd roi cerdyn SIM/data i QZ at ddibenion dysgu symudol annibynnol. Yn sgil cymorth gan MAD Abertawe, bellach, gall QZ lywio cyfrifiadur personol, anfon negeseuon e-bost a defnyddio gwasanaethau bancio ar-lein, ac maent yn gallu defnyddio technoleg ddigidol yn fwy hyderus.

Cyrhaeddodd dysgwr Abertawe yn ddiweddar heb gyfeiriad sefydlog, heb fynediad at adnoddau digidol ac roedd wedi’i ynysu oddi wrth wasanaethau hanfodol (CThEF/Canolfan Byd Gwaith). Fe wnaeth MAD Abertawe gynnig hyfforddiant sgiliau digidol un ac un, offer, a cherdyn SIM yn rhad ac am ddim. Fe wnaeth y tîm gynnig cymorth i lenwi ffurflenni gwasanaethau tai ar-lein a llunio ceisiadau am daliadau brys. Fe wnaethant hefyd ganfod gliniadur oedd wedi’i roddi ac eitemau hanfodol i’r cartref trwy law partneriaid lleol. Mae’r dysgwr bellach wedi canfod llety parhaol mewn cartref a rennir a lle ar gwrs addysg. Mae’r unigolyn bellach yn annibynnol yn ddigidol ac yn paratoi i ddechrau gweithio eto.

Roedd Unigolyn B yn wynebu diswyddo posibl; dymunai lansio busnes crosio llawrydd ond nid oedd ganddynt y sgiliau technegol i greu gwefan. Roedd MAD Abertawe yn gallu cynnig hyfforddiant un ac un ynghylch WordPress, cofrestru parth, a chynnal gwefannau. Fe wnaethant gynnig arweiniad ynghylch creu cynnwys ac integreiddio e-fasnach. Mae Unigolyn B bellach wedi lansio gwefan broffesiynol at ddibenion neilltuo lleoedd mewn gweithdai a gwerthu cynhyrchion. Drwy fudo o wefannau trydydd parti (Etsy) i’w siop eu hunain, mae B wedi cynyddu eu hincwm i’r eithaf ac wedi sicrhau eu bod yn ddiddyled.

Daeth mudwr a chogydd dan hyfforddiant, sef Unigolyn S, yn ddigartref ar ôl pandemig COVID-19. Roedd S yn wynebu rhwystrau, gan gynnwys dyslecsia a salwch corfforol, ac roedd hynny’n eu hatal rhag ailafael mewn gwaith llaw mewn cegin. Fe wnaeth MAD Abertawe gyflwyno hyfforddiant sgiliau digidol “Dysgu Fy Ffordd” i S a’u helpu i lunio Cynlluniau Gweithredu. Fe wnaethant gynorthwyo S i lunio cais am le mewn prifysgol i astudio Rheoli Gwestai, gan gynnwys cydlynu cymorth yn sgil anabledd. Mae S bellach yn byw mewn llety myfyrwyr ac yn astudio am radd. Fe wnaeth MAD Abertawe hefyd hwyluso gwaith i baru S â swydd mewn tafarn leol, ac mae S bellach yn gweithio 20 awr yr wythnos fel cogydd wrth reoli ei astudiaethau’n llwyddiannus.

Mae’r straeon hyn yn cynnig nifer fechan o enghreifftiau o sut mae trigolion yn Abertawe wedi elwa o’r bartneriaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru a MAD Abertawe. Mae’r straeon uchod yn dwyn sylw at effaith ddofn cymorth hygyrch i ddatblygu sgiliau digidol ar fywydau unigol. Mae’r straeon hun yn cwmpasu lansio busnesau, dianc rhag digartrefedd a dilyn cyrsiau addysg uwch, ac amlygir y llwyddiannau hyn pan gaiff rhwystrau digidol eu dileu a chaiff cyfleoedd eu creu. Drwy’r bartneriaeth bresennol hon, mae Addysg Oedolion Cymru a MAD Abertawe yn parhau i ymrwymo i sicrhau bod cynhwysiant digidol yn hygyrch yn Ninas Abertawe.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth