Siarter Cynefin
25-Mawrth-2026
Rydym yn falch o gyhoeddi wythnos diwethaf yng Ngweithdy Dove ym Manwen, bod ein Prif Swyddog Gweithredol, Kathryn Robson, wedi llofnodi Siarter Cynefin ColegauCymru’n swyddogol.
Drwy ymuno gyda colegau AB eraill yng Nghymru a llofnodi’r ymrwymiad hwn, mae Addysg Oedolion Cymru wedi cadarnhau ein hymroddiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn.
Yn deillio o’r cysyniad Cymreig o ymdeimlad dwfn o berthyn i le a chymuned, mae’r Siarter Cynefin yn sicrhau bod ein colegau yn lleoedd lle:
Mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u cysylltu.
Mae dysgwyr a staff yn teimlo’n ddiogel i gael bod fel eu hunain.
Dethlir ein hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol unigryw Gymreig.
Diolch i Weithdy Dove am ein croesawu. Mae Gweithdy Dove DOVE Workshop ei hun yn enghraifft ddisglair o Cynefin ar waith, gan ddarparu amgylchedd diogel, croesawgar a gofalgar i bawb.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth