Seminar Lles Ariannol gyda Talia Loderick, Hyfforddwr Arian
9-Tachwedd-2023
Seminar Lles Ariannol gyda Talia Loderick, Hyfforddwr Arian – Sgwrs Lles Ariannol y Nadolig… O banig i baratoi: Sut i leddfu straen gwario’r Nadolig a dechrau’r flwyddyn newydd heb boendod ariannol ar ôl yr ŵyl
Gall cael sgyrsiau am arian ymddangos yn lletchwith. Gall deimlo fel pwnc tabŵ, ond nid oes angen i hyn fod. I gyd-fynd gyda’n “Wythnos Siarad am Arian” hoffem eich gwahodd i sesiwn unigryw gyda Talia Loderick – Hyfforddwr Arian/guru ariannol ddydd Mercher 15fed Tachwedd o 5.00pm tan 6.00pm.
Ynghyd ag ymrwymiadau ariannol o ddydd i ddydd, rydym yn gwybod gall y Nadolig fod yn ergyd ariannol fawr i lawer, gyda sbri gwariant munud olaf ar anrhegion, bwyd, addurniadau a digwyddiadau Nadolig ac ati. Gall cynllunio fod yn allweddol, ac nid yw’n rhy hwyr i wneud cynllun, er bod y Nadolig ond ychydig wythnosau i ffwrdd.
Gyda chefnogaeth Talia bydd yn rhoi golwg ymarferol ar yr hyn gallwch ei wneud i leddfu rhywfaint o bwysedd y Nadolig. Bydd Talia yn edrych ar:
- Beth yw lles ariannol a pham ei fod yn bwysig
- Meddwl yn fawr: Llunio cynllun gwario ystyriol
- Bod yn ymarferol: Sut i gyllidebu ar gyfer y diwrnod mawr a ble i chwilio am fargeinion
- Pryd a ble i geisio cymorth ariannol
- Y flwyddyn i ddod: Adeiladu eich pot cynilo
Gwybodaeth: Mae Talia Loderick yn Hyfforddwr Arian, wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.
Mae Talia yn cynnig hyfforddiant un-i-un sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl i ddeall a rheoli eu hymddygiad gydag arian, fel y gallent roi’r gorau i boeni am arian a dechrau sicrhau bod ganddynt ddigon i fyw’n dda – nawr ac yn y dyfodol. Mae Talia hefyd yn cyflwyno sesiynau lles ariannol ar gyfer timau, sefydliadau a grwpiau o bobl hyfryd fel cymuned Addysg Oedolion Cymru oblegid, nid ydym byth wedi gorffen dysgu, nac ydym? Ewch i: talialoderick.co.uk.
I gofrestru ar gyfer y ddolen Zoom ewch i:
https://adultlearning-wales.zoom.us/webinar/register/WN_QdV6ZVh5QyO1HuvsaPZwnw#/registration
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth