Roedd yn braf croesawu Kathryn Robson (Prif Swyddog Gweithredol) i Ranbarth y Gogledd ddydd Llun diwethaf!
7-Mawrth-2024

Roedd yn braf croesawu Kathryn Robson (Prif Swyddog Gweithredol) i Ranbarth y Gogledd ddydd Llun diwethaf!
Roedd yr ymweliad yn gyfle i Kathryn fynd i’r dosbarthiadau, cyfarfod â thiwtoriaid a threulio amser gyda rhai o Gydlynwyr Datblygu Cwricwlwm y Gogledd (CDC) sef Nicola Holmes, Laura Jones a Jane Watkins.
Cafodd Kathryn fore prysur gan ddechrau gydag ymweliad â chwrs maeth yn llyfrgell y Fflint gyda’n tiwtor partner Sarah Powell Jones.
Mae Sarah yn rhan o dîm dieteteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) sy’n darparu cyrsiau sy’n canolbwyntio ar faethiad ar draws Gogledd Cymru mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru.
Dywed ein CDC Nicola Holmes “Rydym wedi bod yn gweithio gyda thîm dieteteg BCUHB ers nifer o flynyddoedd bellach ac yn mwynhau gweithio mewn partneriaeth gyda nhw i gynnig cyrsiau maeth ar draws rhanbarth y Gogledd. Mae Sarah a’i chydweithwyr yn cynnig nifer o gyrsiau sy’n gweithio’n dda iawn ac yn adeiladu sgiliau a gwybodaeth am faeth, bwyd a bwyta’n iach o fewn y gymuned.”
Aeth Kathryn ymlaen i Ganolfan Adnoddau Llai, Wrecsam i ymuno gyda chwrs Trefnu Blodau gyda’n tiwtor Sian Valentine.
Mae Sian yn cynnal nifer o gyrsiau gosod blodau yn ardal Wrecsam. Mae’r dysgwyr yn dysgu am y gwahanol fathau o flodau a deiliant a sut i’w paratoi fel eu bod yn para mor hir â phosibl mewn trefniant. Maent hefyd yn dysgu am wahanol arddulliau o drefnu, theori lliw, cymarebau, cyfrannau a llawer mwy.
Dywed y CDC Laura Jones “Mae Sian yn diwtor gwych. Mae’r dysgwyr gwir yn mwynhau gallu dysgu am wahanol ddulliau ac arddulliau a’r cyfle i fynegi eu hunain yn unigol trwy drefnu blodau. Mae llawer o ddysgwyr yn gweld y gweithgaredd o fudd i’w hiechyd meddwl a lles – yn ogystal â bod yn llawer o hwyl!”

Yn olaf, ond yn bendant nid yn lleiaf – yn y prynhawn aeth kathryn i ymweld â Mary Parry a’i chwrs gwnïo ym Mhengwern, Llangollen.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cynnal 3 cwrs gwnïo ym Mhengwern, Llangollen – felly mae Mary yn diwtor prysur iawn!
Mae’r dysgwyr wedi gwneud ffrogiau plant, bagiau, clustogau a llawer mwy.
Maent yn cael cyfle i gynhyrchu eitemau drwy ddefnyddio peiriannau gwnïo ac ‘overlocker’ a ddarperir gan Addysg Oedolion Cymru.
Croesawyd dysgwyr o alluoedd amrywiol i’r cwrs, ac maent i gyd wedi gwneud cynnydd da iawn.
“Mae mor drawiadol gweld yr holl ddysgwyr yn gweithio” meddai’r CDC Jane Watkins “maent yn gweithio mor galed, yn cael cymaint o hwyl ac yn cefnogi ei gilydd yn dda iawn, ac mae’n hyfryd i’w weld. Defnyddir llawer o sgiliau gyda’r dysgwyr yn y cyrsiau gwnïo – llythrennedd, rhifedd a sgiliau cyllidebu yn ogystal â’r sgiliau gwnïo uniongyrchol a ddatblygwyd yn ystod y cyrsiau.”
Dywedodd ein Prif Swyddog Gweithredol Kathryn Robson, “Mae’n anhygoel gweld ehangder y ddarpariaeth sydd gennym ar draws rhanbarth Gogledd Cymru. Mae’r partneriaethau goludog sydd gennym yn hanfodol i gynnig y cyrsiau cywir i alluogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn cymunedau i gael y cyfleoedd i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth i gefnogi gwasanaethau a datblygiad cymunedol. Mae cael cyfarfod grwpiau o ddysgwyr sy’n disgrifio eu dosbarthiadau gwnïo a threfnu blodau fel achubiaeth i’w helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac arwahanrwydd, yn ogystal â meithrin cyfeillgarwch, hunan-barch a hyder yn ysbrydoledig. Mae’r profiadau yma wedi arwain rhai o’r dysgwyr i sefydlu eu busnesau eu hunain a chymryd arweiniad weithredol mewn prosiectau cymunedol sy’n dangos yr effaith gadarnhaol y mae dysgu oedolion yn y gymuned yn ei gael mewn cymaint o gymunedau ledled Cymru. Mae tîm Gogledd Cymru, ynghŷd â holl staff AOC, yn bobl eithriadol, sydd â’r sgiliau, yr angerdd a’r egni diwyro i wneud i bethau ddigwydd, gan roi’r profiad gorau posibl i gynifer o ddysgwyr”.
Ni allwn aros i weld beth arall byddant yn ei gyflawni!
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth