Rhannu Arfer Da ar yr Agenda wrth i dîm Addysg Oedolion Cymru Abertawe helpu i “Scaling the ALPS”.
12-Ionawr-2024
Ar ddydd Gwener 15 Rhagfyr 2023, aeth aelodau o Dîm ESOL Addysg Oedolion Cymru a thiwtoriaid o Abertawe ar ymweliad i Goleg Gŵyr Abertawe, Campws Llwyn y Bryn ar gyfer Digwyddiad Rhannu Arfer DA “Scaling the ALPS” (Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe). Ymunodd aelodau o’r bartneriaeth a chydweithwyr o Gyngor Dinas Abertawe a Choleg Gŵyr gyda nhw.
Agorwyd y digwyddiad gan Nikki Neale, Cyfarwyddwr Ansawdd a Chwricwlwm yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, drwy rannu nodau strategol a gweledigaeth y bartneriaeth ALPS. Yn dilyn ymlaen, rhanwyd y mynychwyr i grwpiau encilio i ganolbwyntio ar Ymgorffori Offer Digidol a Thechnoleg, Ymgorffori’r iaith Gymraeg ac ethos Cymreig yn y cwricwlwm, ac Asesu ac Adborth. Cynhaliwyd y grwpiau encilio gan aelodau o Goleg Gŵyr a Chyngor Dinas Abertawe, a chafwyd mewnwelediad gwerthfawr ar draws y meysydd pwnc, gan gynnwys sut mae Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ymgorffori fel offeryn i helpu gydag addysgu ac astudiaethau dysgwyr, sut y gellir ymgorffori’r Gymraeg mewn addysgu dyddiol. Awydrddangos gwahanol apiau digidol sy’n medru bod yn gymorth i gyflwyno gwaith dysgwyr a chymhwyso adborth.
Yn y prynhawn, cyflwynodd Rhys Clement, Tiwtor Gwaith Saer Addysg Oedolion Cymru, sut mae’n defnyddio’r Gymraeg yn ei addysgu dyddiol mewn cyflwyniad: Addysgu a Dysgu Cydweithredol a Dwyieithog. Trafodwyd sut mae Addysg Oedolion Cymru yn ymgorffori’r Gymraeg a sut mae’n cael ei ddefnyddio ar draws y sefydliad. Yna aeth Rhys i fanylder ynghylch sut mae’n defnyddio’r Gymraeg gyda’i ddysgwyr yn y dosbarth, ar lefelau achlysurol a mwy datblygedig, yn dibynnu ar wybodaeth ieithyddol grŵp o ddysgwyr. Dilynwyd Rhys gan Llewelyn Williams, Swyddog Datblygu Digidol Addysg Oedolion Cymru, a ddyluniodd ac adeiladodd wefan ALPS chafodd ei lansio’n ddiweddar. Cyflwynodd Llewelyn y wefan ALPS ac esboniodd swyddogaethau’r wefan a sut mae’n gweithio o safbwynt y defnyddiwr.
Dywedodd Beth John, Rheolwr Rhanbarth y De-orllewin a’r Canolbarth Addysg Oedolion Cymru, “Fel aelod allweddol o ALPS, mae Addysg Oedolion Cymru (AOC) yn falch iawn o fod wedi mynychu digwyddiad Rhannu Arfer Da ‘Scaling the ALPS’, sydd wedi casglu tiwtoriaid Dysgu Oedolion yn y Gymuned pob un o’r tri phrif ddarparwyr cyflenwi o fewn y Bartneriaeth at ei gilydd, am ddiwrnod o rwydweithio, dysgu a thrafodaeth broffesiynol, i’w cefnogi fel ymarferwyr yn eu haddysgu. Mae wedi bod yn anrhydedd i Rhys Clement, ein Tiwtor Gwaith Saer, i roi cyflwyniad ar Ddwyieithrwydd ac Ymgorffori’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn ei addysgu, a rhannu ei brofiad o sut mae’n ymdrin gyda hyn yn ei wersi dyddiol. Mae’r diwrnod wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mor ddefnyddiol i diwtoriaid o bob rhan o’r Bartneriaeth i ddysgu’n ehangach am weledigaeth strategol a strategaeth y Bartneriaeth, ac i wylio arddangosiad o wefan newydd ALPS, a lansiwyd yn gynharach y mis hwn. Cafodd ei gynllunio a’i greu gan Llewelyn Williams, Swyddog Datblygu Digidol AOC, a gyflwynodd hyn ar y diwrnod. Mae AOC yn edrych ymlaen at lawer mwy o ddigwyddiadau ALPS ar y cyd ar gyfer tiwtoriaid, ac mae’n ddiolchgar iawn i Goleg Gŵyr am gynnal yr un agoriadol.”
Mae ALPS, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn casglu sefydliadau amlwg sy’n ymroddedig i ddysgu oedolion ynghyd, gan gynnwys Addysg Oedolion Cymru, Dysgu Gydol Oes Cyngor Abertawe, Coleg Gŵyr Abertawe, Dysgu Cymraeg – Rhanbarth Bae Abertawe, Prifysgol Abertawe, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe a Phrifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant. Mae’r bartneriaeth hon yn ymdrechu i ddarparu addysg hygyrch o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd ag anghenion a dyheadau’r gymuned, gan gynnwys ffocws ar gyrsiau gellir eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os hoffech ddarganfod mwy am ALPS ac aelodau’r partneriaethau, ewch i’r wefan: https://dysguswansea.cymru/