Pwy sy’n cael cymryd y cam cyntaf? | Addysg Oedolion Cymru

Pwy sy’n cael cymryd y cam cyntaf?

30-Medi-2026
Rhannu

Cawsom ddathlu llawer iawn yr wythnos diwethaf, sef Wythnos Addysg Oedolion. Cawsom gyfle i wrando ar bobl y mae eu bywydau wedi newid trwy ddysgu, a gan y tiwtoriaid a’r staff cymorth a’u helpodd i gredu y gallent ddechrau arni hefyd. Mae’r straeon hynny’n bwysig. Maent yn ein hatgoffa y gall y cam cyntaf i fynd i mewn i ddosbarth fod yn un mawr iawn.

Ers hynny, rydw i hefyd wedi bod yn meddwl am y bobl na wnaethom ni gwrdd â hwy.

Byddai rhai yn hoffi dysgu ond ni allant ganfod sut i sicrhau cydbwysedd rhwng cwrs a chyfrifoldebau gwaith neu ofalu. I eraill, mae costau teithio yno yn golygu nad yw dysgu yn rhywbeth sydd o fewn eu cyrraedd. Ac mae rhai wedi cael gwybod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, bod addysg yn rhywbeth ar gyfer rhywun arall. Efallai eu bod wedi gadael yr ysgol flynyddoedd yn ôl gan gredu nad oeddent yn ddysgwyr da.

Mae Arolwg y Sefydliad Dysgu a Gwaith ynghylch oedolion yng Nghymru yn dangos bod cyfleoedd yn cael eu rhannu’n anghyfartal. Nododd bron i chwech o bob deg o weithwyr amser llawn eu bod wedi cyfranogi mewn cyfleoedd dysgu dros y tair blynedd flaenorol, o’i gymharu â llai na thri o bob deg o oedolion sy’n economaidd anweithredol. Mae’r arolwg yn cyfrif sawl math o ddysgu, gan gynnwys gweithgarwch anffurfiol a hunangyfeiriedig. Hyd yn oed gan ddefnyddio’r mesur eang hwnnw, mae’r bwlch yn drawiadol.

Mae’n demtasiwn ymateb drwy hysbysu pobl am y cyrsiau sydd ar gael. Mae gwybodaeth yn fuddiol, ond ni all wneud y cyfan. Efallai y bydd rhywun yn gwybod bod cwrs yn bodoli ond yn methu â chyrraedd yno serch hynny wedi sifft hwyr. Efallai y bydd angen i rywun sydd wedi colli hyder gael sgwrs â thiwtor cyn y byddant yn barod i gofrestru. Gall cyfleoedd dysgu a gynigir mewn lleoliad cymunedol cyfarwydd, trwy law partner y mae pobl eisoes yn ymddiried ynddo, wneud i’r cam cyntaf hwnnw deimlo’n bosibl.

Rwy’n gweld sut bydd ein tiwtoriaid, staff cymorth a phartneriaid yn ymdrin yn ofalgar â hyn yn feunyddiol. Byddant yn sylwi pan fydd rhywun yn nerfus. Byddant yn cynnig cyfleoedd i ofyn cwestiynau. Byddant yn helpu pobl i ymdopi â’r adegau pan fyddant yn teimlo’n ansicr ynghylch pa un ai a ydynt yn perthyn ai peidio, Mae’r gwaith hwnnw’n hollbwysig i allu cyrraedd oedolion sydd wedi cael y nifer leiaf o gyfleoedd i ddysgu.

Dylem hefyd fod yn onest ynglŷn â chapasiti. Gall darparwyr ledled Cymru sicrhau bod dysgu’n groesawgar ac yn hyblyg, ond mae angen yr adnoddau arnom i gynnig mannau ble a phryd y gall pobl eu defnyddio. Heb hynny, bydd ein gwahoddiad yn cyrraedd ymhellach na’r cyfle sy’n sail iddo.

Fe wnaeth Wythnos Addysg Oedolion ein hatgoffa am yr hyn y gall pobl ei gyflawni. Yr her nawr yw gwireddu’r cam cyntaf i fwy o bobl, drwy gydol y flwyddyn. Os dylai addysg drydyddol olygu addysg drydyddol i bawb, rhaid inni roi sylw i’r rhai sydd heb ddod i mewn i’r ystafell eto.

Kathryn Robson, Prif Weithredwr

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth