PISA 2025: Rhaid i ymateb Cymru gynnwys oedolion a theuluoedd
17-Medi-2026
Yma yng Nghymru, mae’n ddiflas darllen adroddiad y BBC ynghylch canfyddiadau PISA 2025. Mae Lloegr bellach yn y deg uchaf yn rhyngwladol o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, ac mae Cymru yn dal ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y DU. Mae adroddiad cenedlaethol Cymru yn ychwanegu rhywfaint o gyd-destun angenrheidiol. Mae perfformiad ym maes mathemateg wedi gostwng yn sylweddol ers 2022, ond mae perfformiad ym meysydd darllen a gwyddoniaeth wedi parhau i fod yn gymharol sefydlog ar y cyfan.
Mae PISA yn un dull o asesu sut mae pobl 15 oed yn cymhwyso eu gwybodaeth i broblemau bywyd go iawn. Ni all egluro pob achos na dweud popeth wrthym am addysg yng Nghymru. Er hynny, mae angen ymateb o ddifrif i’r canfyddiadau.
Ni all athrawon ac ysgolion ysgwyddo cyfrifoldeb llwyr am yr ymateb hwnnw. Ni ddylid defnyddio’r canlyniadau i feio pobl ifanc na’u teuluoedd chwaith. Caiff perthynas person ifanc â darllen a dysgu ei meithrin dros nifer o flynyddoedd a chaiff ei llunio gan fywyd y cartref, profiadau yn y gymuned a hyder yr oedolion o’u cwmpas.
O safbwynt oedolyn, gall llythrennedd olygu deall llythyr gan wasanaethau iechyd, llenwi cais ar-lein, gwirio slip cyflog neu reoli biliau’r cartref. Mae rhifedd a sgiliau digidol yr un mor bwysig yn ein bywyd beunyddiol. Gall trafferth ag unrhyw un ohonynt gyfyngu ar ddewisiadau gan olygu y gwnaiff tasgau cyffredin achosi llawer o straen. Gall mwy o hyder newid sut bydd rhywun yn ymdrin â gwaith, bywyd teuluol a’u lle yn y gymuned.
Dyma gyfraniad addysg oedolion a dysgu fel teulu at y drafodaeth. Pan fydd rhieni a gofalwyr yn datblygu eu sgiliau eu hunain, bydd ganddynt ddirnadaeth well o’r pethau y bydd eu plant yn eu dysgu a byddant yn gallu eu cynorthwyo’n well gartref. Bydd plant hefyd yn canfod bod dysgu yn rhywbeth a wneir gan oedolion, yn hytrach na rhywbeth sydd wedi’i gyfyngu i ystod oedran penodol.
Mae darpariaeth gymunedol yn cyrraedd at bobl yn y mannau hynny y maent eisoes yn gyfarwydd â hwy ac yn ymddiried ynddynt. Gall dosbarth mewn canolfan gymunedol, llyfrgell neu weithle lleol deimlo’n fwy hygyrch na dychwelyd i leoliad addysg ffurfiol, yn enwedig yn achos pobl a gafodd brofiad anodd o addysg pan oeddent yn iau,
Yn Addysg Oedolion Cymru, gwyddom y bydd pobl yn dechrau dysgu ac yn dychwelyd i ddysgu oherwydd llawer o resymau gwahanol. Gall sgiliau hanfodol neu ddysgu fel teulu fod yn gam cyntaf. Wedi hynny, gall dysgwyr fynd ati i astudio am gymwysterau, ymgymryd ag astudiaethau pellach neu ganfod gwaith. Mae ein cynnig ehangach hefyd yn cynnwys dysgu galwedigaethol a phroffesiynol. Nid yw addysg oedolion yn gwrs penodol nac yn lefel penodol, ac anaml iawn y bydd cynnydd yn broses unionlin.
Mae Dull Ysgolion Bro Cymru eisoes yn cydnabod bod ysgolion, teuluoedd a chymunedau yn dylanwadu ar ei gilydd. Mae’n cynnwys ymgysylltu â theuluoedd a chyfleoedd i alluogi i oedolion ddysgu. Dylai darparwyr addysg oedolion ymgysylltu’n fwy cyson â’r gwaith hwnnw o hyn ymlaen, yn hytrach na dibynnu ar berthnasoedd unigol neu brosiectau tymor byr.
Dymunaf weld cyfeiriadau penodol at addysg oedolion a dysgu fel teulu yn ymateb Cymru i adroddiad PISA. Mae angen buddsoddiad parhaus fel sail i’r gydnabyddiaeth honno, er mwyn sicrhau bod darpariaeth ar gael yn lleol ac y bydd ar gael yn ddigon hir i feithrin ymddiriedaeth. Os dymunwn sicrhau canlyniadau cryfach i bobl ifanc, rhaid inni fynd i’r afael o ddifrif ag anghenion dysgu’r oedolion ochr yn ochr â’u hanghenion hwy.
Kathryn Robson, Prif Weithredwr
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth