Perthyn, Cynnydd a Phosibilrwydd | Addysg Oedolion Cymru

Perthyn, Cynnydd a Phosibilrwydd

25-Mawrth-2026
Rhannu

Cynhelir ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol heddiw, ac mae’n gyfle i fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf ac edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.

Mae wedi bod yn flwyddyn o alw mawr, effeithiau eglur, a chynnydd gweladwy. Ar draws Cymru, mae mwy o bobl yn ymgysylltu gyda dysgu, yn cwblhau eu cyrsiau, ac yn symud ymlaen i astudiaeth bellach, cyflogaeth, a bywydau mwy hyderus ac annibynnol.

Yr hyn sy’n sefyll allan fwyaf yw’r newid gallwch ei weld mewn pobl.

Er enghraifft, ar ein cyrsiau Cynorthwywyr Addysgu, mae dysgwyr yn symud yn gyflym o ansicrwydd i allu. Datblygant sgiliau ymarferol, parod ar gyfer gwaith gyda’r hyder i gymryd y cam nesaf. Mae hyn yn trosi’n ganlyniadau go iawn, gyda dysgwyr yn symud ymlaen yn uniongyrchol i rolau mewn ysgolion.

Yn ein darpariaeth ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill), mae dysgwyr yn defnyddio eu Saesneg yn hyderus mewn sefyllfaoedd bob dydd, megis siarad gyda meddygon, cefnogi eu plant yn yr ysgol, teithio’n annibynnol a symud i mewn i waith. Mewn darpariaethau digidol a chreadigol, mae pobl yn ennill sgiliau, yn canfod eu llais, ac yn agor cyfleoedd newydd.

Mae yna edau gyffredin ar draws hyn i gyd; sef yr ymdeimlad cryf o berthyn.

Mae amgylcheddau dysgu lle mae pobl yn teimlo’n gyfforddus, yn cael eu cefnogi ac yn gallu cymryd rhan lawn yn ganolog i lwyddiant. Nid yw’r ymdeimlad yma o Gynefin – neu berthyn yn ychwanegiad; mae’n rhan annatod o sut mae dysgu’n digwydd. Pan fydd pobl yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu a’u cynnwys, maent yn gallu tyfu, datblygu a gwneud cynnydd.

Eleni, mae Addysg Oedolion Cymru wedi ymuno gyda’r Siarter Cynefin, gan gryfhau ein hymrwymiad i ddysgu cynhwysol. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn edrych tuag ymlaen. Yr wythnos hon byddwn yn cyflwyno ymateb cryf i waith Llywodraeth Cymru ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru, gan dynnu sylw at heriau allweddol gan gynnwys ehangu cyfranogiad, costau cynyddol, newid demograffig a’r angen i alinio sgiliau’n well gyda’r economi.

Mae ein hymateb yn adlewyrchu’r camau gweithredu rydym eisoes yn eu cymryd, gan gryfhau’r ymgysylltiad gyda Llywodraeth Cymru a Medr, cyflwyno achos clir dros rôl dysgu oedolion, datblygu partneriaethau i ymestyn ein cyrhaeddiad a chreu mwy o lwybrau, a pharhau i fuddsoddi mewn ansawdd drwy ein tiwtoriaid, ein cwricwlwm a phrofiad cyffredinol y dysgwr.

Mae’r heriau hyn yn adlewyrchu beth a welwn yn ddyddiol: galw cynyddol, cymhlethdodau cynyddol, a phwysigrwydd cynnal darpariaeth o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar y gymuned.

Ar yr un pryd, rydym yn parhau gyda bwriad ynglŷn â thwf ac ymwreiddio mewn cymunedau wrth adeiladu model cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae’r hyn sy’n digwydd mewn dysgu oedolion yn bwysig.

Mae’n galluogi pobl i symud mewn i waith.

Mae’n meithrin hyder ac yn cefnogi lles.

Mae’n helpu pobl i ddod yn fwy cysylltiedig, yn fwy annibynnol, ac yn gallu llunio eu dyfodol eu hunain.

Dyna’r gwahaniaeth sy’n cael ei wneud bob dydd ledled Cymru.

Os hoffech wybod mwy am AOC, gellir:

Dysgu mwy am ein gwerthoedd

Cofrestru i wirfoddoli

Dod yn aelod

Kathryn Robson, Prif Weithredwr

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth