Perfformiad Nadoligaidd Calonnog:Cynnig Llwyfan i Ddysgwyr
18-Rhagfyr-2025Yn ddiweddar, fe wnaeth Keith Ivett a Stevie-Ann Fraser, dau o diwtoriaid Addysg Oedolion Cymru, , lywio perfformiad gwych o sioe A Christmas Carol gan ddysgwyr yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe. Daeth cymheiriaid, perthnasau, ffrindiau a staff Addysg Oedolion Cymru i weld y sioe ac i gefnogi’r dysgwyr. Fe wnaeth gwirfoddolwyr hefyd helpu drwy gydol y digwyddiad, gan gynnig ychydig yn rhagor o gymorth ac anogaeth.
Rhoddodd y dysgwyr berfformiad cofiadwy, gan ganu’n hyderus ac yn egnïol, ac roedd yn amlwg i bawb a oedd yn bresennol eu bod yn mwynhau’r profiad yn arw. Roedd gan y tiwtoriaid a’r gwirfoddolwyr eu rhannau eu hunain yn sioe hefyd ac fe wnaethant berfformio’n argyhoeddiadol, gan helpu i ddod â’r stori’n fyw a chynorthwyo’r dysgwyr drwy gydol y digwyddiad.
Dywedodd Stevie-Ann Fraser:
“Roedd un dysgwr yn teimlo’n nerfus cyn i ni ddechrau ac nid oedd hi’n credu y gallai gamu ar y llwyfan. Fodd bynnag, ar ôl cael rhywfaint o anogaeth a chymorth, fe wnaeth hi fentro ar y llwyfan a chafwyd perfformiad calonogol ganddi. Rydym yn falch iawn o’r holl ddysgwyr.”
Mae Canolfan Gelf Pontardawe yn cefnogi’r gwaith hwn ers nifer o flynyddoedd, gan gynnig offer sain a goleuo, cerddoriaeth gefndirol a lle gwych i ddysgu a pherfformio. Mae Addysg Oedolion Cymru, y tiwtoriaid, y dysgwyr a’r gwirfoddolwyr yn ddiolchgar iawn am y cymorth y mae’r Ganolfan yn parhau i’w gynnig.
Mae Keith, Stevie, y gwirfoddolwyr a’r dysgwyr oll yn edrych ymlaen at seibiant haeddiannol dros gyfnod yr ŵyl ac at ddychwelyd yn y flwyddyn newydd ar gyfer Tymor 2. Bryd hynny, byddant yn dechrau gweithio i ddatblygu cynhyrchiad yr haf, gan adeiladu ar yr hyder, y sgiliau a’r cydweithio a ddatblygwyd yn ystod y perfformiad Nadoligaidd llwyddiannus hwn.









Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth