Pan fydd pobl ifanc yn cael eu clywed, mae addysg yn ffynnu | Addysg Oedolion Cymru

Pan fydd pobl ifanc yn cael eu clywed, mae addysg yn ffynnu

21-Ionawr-2026
Rhannu

Mae ein pobl ifanc yn rhyfeddol. Maent yn feddylgar, yn graff ac yn ymwybodol iawn o’r byd o’u cwmpas, ac eto, yn rhy aml, maent yn dweud wrthym eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael eu clywed neu eu bod yn anweledig. Rwyf wedi clywed hyn yn uniongyrchol, ac mae’n alwad i ni ddeffro. Pan fydd pobl ifanc yn dweud nad ydynt yn teimlo fod neb yn gwrando, nid ymddieithrio yw hyn. Mae’n arwydd clir bod angen i ni wneud yn well. Ar 24 Ionawr, mae Diwrnod Addysg Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig yn ein herio i ofyn cwestiwn syml: a yw ein systemau dysgu wedi’u llunio’n wirioneddol gan leisiau pobl ifanc – ac a ydym yn barod i newid pan fyddant yn siarad?

Os ydym o ddifrif ynglŷn â hyn, mae grymuso yn bwysig. Nid yw’n dod o gamu i ffwrdd yn llwyr na throsglwyddo cyfrifoldeb heb gefnogaeth. Mae’n dod o greu amgylcheddau lle mae pobl ifanc yn teimlo’n ddigon diogel i siarad, yn ddigon hyderus i herio, ac yn ddigon dibynadwy i lunio’r hyn sy’n digwydd nesaf. Pan fydd pobl yn teimlo perchnogaeth ar ofod, maent yn buddsoddi ynddo ac yn dylanwadu ar ei gilydd yn gadarnhaol.

Mae’r term “rhianta tyner” bellach yn cael ei gydnabod yn eang ac mae wedi ysgogi llawer o drafodaeth, yn enwedig ymhlith y genhedlaeth hon o rieni. Beth bynnag yw’r safbwyntiau a geir amdano, mae’r sgyrsiau hynny wedi dod â sylw newydd i bwysigrwydd empathi, parch, cyfathrebu a chysondeb. Mae’r syniadau hyn yn bwysig ymhell y tu hwnt i’r cartref. Mae teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu ac eraill yn gwrando yn hanfodol mewn amgylcheddau addysg a dysgu, lle mae hyder, annibyniaeth ac ymgysylltiad cadarnhaol yn cael eu hadeiladu.

Mae gan bob cenhedlaeth rywbeth i’w ddysgu o’r un flaenorol, a rhywbeth hanfodol i’w gynnig i’r nesaf. Addysg yw un o’r llestr cryfaf sydd gennym i wneud y cyfnewid hwnnw’n ystyrlon. Mae’n ein galluogi i fyfyrio’n onest, adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio, a llunio dyfodol sy’n fwy goddefgar, gwybodus a gwydn.

Mae hyn yn bwysicach nag erioed, pan fo syniadau niweidiol yn lledaenu’n hawdd a llawer yn chwilio am yr ymdeimlad o berthyn. Nid dim ond rhan o’r her yw pobl ifanc, maent yn rhan o’r ateb. Mae dylanwad cyfoedion yn rymus a gall wyro’r naill ffordd neu’r llall, ond gyda’r gefnogaeth gywir gall herio naratif niweidiol ac adeiladu dealltwriaeth o’r tu mewn tuag allan. Mae hynny’n rhoi cyfrifoldeb ar bob un ohonom, fel addysgwyr, gweithwyr ieuenctid, rhieni a modelau rôl, i greu’r canllawiau a’r amodau sy’n helpu’r dylanwad hwnnw i gymryd cyfeiriad cadarnhaol.

Yn Addysg Oedolion Cymru, mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan ymarferwyr ar lawr gwlad. Trwy ddysgu teuluol a gwaith ieuenctid, maent yn meithrin perthnasoedd dibynadwy, yn gosod ffiniau clir a chyson, ac yn creu mannau lle mae pobl ifanc yn teimlo’n ddiogel i siarad, cwestiynu a meithrin hyder. Maent yn annog meddwl beirniadol, yn helpu pobl ifanc i lywio dylanwadau cymhleth, ac yn gweithio gyda theuluoedd i gryfhau cyfathrebu a chefnogaeth gartref. Trwy ein cymwysterau gwaith ieuenctid, cefnogwn ymarferwyr i ddatblygu’r sgiliau a’r farn sydd eu hangen i wneud hyn yn dda – yn bwyllog, yn gyson ac yn ofalus. Dyma sut mae pobl ifanc yn cael eu cefnogi i ddod o hyd i’r ymdeimlad o berthyn, meithrin gwydnwch ac ymgysylltu’n gadarnhaol gyda’r byd o’u cwmpas.

Nid siarad dros bobl ifanc yw ein tasg ni, ond creu’r amodau lle mae eu lleisiau’n cael eu cario – a lle mae addysg yn dod yn rhywbeth y maent yn teimlo’n wirioneddol eu bod yn berchen arno. Mae hyn yn bwysig iawn i mi. Fel mam, mam-gu/nain, ac fel rhywun sy’n cael y fraint o arwain sefydliad dysgu cenedlaethol, rwy’n benderfynol o wneud popeth yn fy ngallu i helpu gwireddu hyn.

Gan Kathryn Robson, Prif Weithredwr

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth