O’r Ystafelloedd Dosbarth i Yrfaoedd: Pum Stori am sut mae partneriaeth Addysg Gymunedol i Oedolion wedi bod yn creu cyfleoedd ym Merthyr Tudful | Addysg Oedolion Cymru

O’r Ystafelloedd Dosbarth i Yrfaoedd: Pum Stori am sut mae partneriaeth Addysg Gymunedol i Oedolion wedi bod yn creu cyfleoedd ym Merthyr Tudful

29-Mehefin-2026
Rhannu

Mae dysgwyr ym Merthyr Tudful wedi meithrin hyder ac uchelgais gyda’u rhagolygon cyflogaeth a’u cyfleoedd gyrfa, diolch i bartneriaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Diolch i’r bartneriaeth hon, mae dysgwyr wedi bod yn camu’n ôl i’r ystafell ddosbarth trwy gyrsiau Addysgu a Dysgu arbenigol sy’n canolbwyntio ar Awtistiaeth, Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs).

Er bod y cyrsiau yn darparu’r sgiliau proffesiynol hanfodol, y ffordd orau o fesur eu heffaith wirioneddol yw yn sylfaenol trwy’r bywydau maent wedi’u trawsnewid. Dyma straeon pum dysgwr a ddaeth o hyd i’w lleisiau, eu hangerdd, a’u dyfodol trwy ddysgu yn y gymuned.

Dysgwr A

Mae Dysgwr A yn nyrs gymwys sydd wedi bod allan o waith ers 13 mlynedd wrth fagu ei theulu. Drwy fynychu gweithgareddau anffurfiol ymgysylltu Ysgolion sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned neu Ysgolion Bro (Community Focussed Schools – CFS), gan gynnwys boreau coffi a sesiynau chwarae, fe adeiladodd berthnasoedd cadarnhaol yn raddol gyda staff yr ysgol ac ymgysylltu’n gynyddol gyda bywyd yr ysgol.

Yn ystod sgyrsiau gyda staff CFS, mynegodd awydd i ddychwelyd i’r gwaith ond roedd angen rôl arni a fyddai’n cyd-fynd â’i hymrwymiadau teuluol. Cafodd ei hannog i gofrestru ar y cwrs Cynorthwyydd Addysgu ac wedi hynny cwblhaodd ystod o gyfleoedd dysgu oedolion ychwanegol.

Yn dilyn y cwrs, gwirfoddolodd Dysgwr A yn helaeth mewn lleoliadau ysgolion cynradd ac uwchradd, gan ragori ar yr oriau lleoliad gofynnol. Galluogodd y profiad hwn iddi ennill hyder, datblygu sgiliau gweithle cyfredol, ac adeiladu profiad perthnasol.

Wedi hynny, cofrestrodd gydag asiantaeth gyflenwi ac mae wedi sicrhau sawl lleoliad tymor hir, gan barhau i weithio’n rheolaidd drwy’r asiantaeth. Yn ystod gwyliau’r ysgol, cefnogodd hefyd gyflwyno rhaglen Bwyd a Hwyl yr ysgol uwchradd leol.

Mae Dysgwr A yn parhau i gymryd rhan mewn dysgu gydol oes, gan gwblhau cyrsiau ychwanegol fel Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Daeth ei thaith i benllanw gyda hi’n siarad mewn cynhadledd Ysgolion sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned, gan rannu gyda phenaethiaid, swyddogion awdurdodau lleol a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru’r effaith gadarnhaol sylweddol a gafodd ymgysylltiad Ysgolion sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned neu Ysgolion Bro ac addysg oedolion ar ei hamgylchiadau ariannol a’i lles meddyliol.

Dysgwr B

Gadawodd Dysgwr B yr ysgol yn 16 oed ac roedd wedi ymddieithrio o addysg. Ar ôl dod yn rhiant yn ifanc, ymgymerodd â sawl swydd dros dro ond cafodd drafferth i sefydlu llwybr gyrfa hirdymor.

Trwy ymgysylltu â gweithgareddau Ysgolion sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned neu Ysgolion Bro, datblygodd berthynas ymddiriedus gyda’r staff a chytuno i gofrestru ar y cwrs Cynorthwyydd Addysgu. Ochr yn ochr â’r cwrs, cymerodd ran mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ychwanegol a chwblhau lleoliad gwirfoddol mewn ysgol gynradd.

Er na wnaeth Dysgwr B ddilyn cyflogaeth fel cynorthwyydd addysgu, ail-daniodd y profiad ei hangerdd dros ddysgu a’i helpu i gydnabod ei photensial. Mae hi bellach yn cwblhau ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol, yn astudio’r Gyfraith, ac wedi dewis arbenigo mewn Cyfraith Teulu.

Mae ei hyder a’i hymrwymiad cynyddol i gefnogi eraill yn cael eu dangos ymhellach trwy ei chyfranogiad fel cyfaill gwirfoddol, y derbyniodd eirda cadarnhaol amdano yn ddiweddar. Mae ei thaith yn tynnu sylw at sut y gall dysgu oedolion weithredu fel catalydd ar gyfer dyheadau addysgol ehangach a datblygiad personol hirdymor.

Dysgwr C

I ddechrau, roedd Dysgwr C yn unigolyn swil a thawel iawn a oedd wedi cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau Ysgolion sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned neu Ysgolion Bro. Gan gydnabod ei photensial, anogodd staff yr ysgol iddi gofrestru ar y cwrs Cynorthwyydd Addysgu a gynhigiwyd yn ysgol ei phlentyn.

Cwblhaodd y cwrs yn llwyddiannus a chymerodd ran mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ychwanegol. Yn dilyn ei lleoliad, dechreuodd wirfoddoli yn yr ysgol ac, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae’n parhau i wirfoddoli sawl gwaith yr wythnos.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae Dysgwr C hefyd wedi dod yn awdur plant cyhoeddedig, gan ddod â chyfoeth o sgiliau a phrofiadau sy’n fuddiol i ddisgyblion a chymuned ehangach yr ysgol. Er nad yw’n chwilio am waith cyflogedig ar hyn o bryd, mae’n parhau i fod yn wirfoddolwr gwerthfawr iawn ac yn parhau i gymryd rhan mewn cyrsiau Addysg Oedolion Cymru.

Mae’r cyfle i gymryd rhan mewn dysgu, gwirfoddoli a bywyd ysgol wedi cynyddu ei hyder, ei hunan-barch, a’i hymdeimlad o berthyn yn ei chymuned yn sylweddol.

Dysgwr CH

Roedd Dysgwr CH wedi bod allan o waith am gyfnod sylweddol, ar ôl dibynnu ar incwm ei gŵr fel prif ffynhonnell ariannol i gefnogi’r teulu. Yn dilyn afiechyd ei gŵr ac ymddeoliad cynnar, canfu’r angen i ddychwelyd i’r gwaith ond roedd ganddi ddiffyg hyder a gwybodaeth am sut i wneud hynny.

Gan ei bod eisoes yn adnabyddus i’r tîm Ysgolion sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned neu Ysgolion Bro trwy weithgareddau teuluol, cofrestrodd ar y cwrs Cynorthwyydd Addysgu. Er nad oedd yn gallu gyrru, dangosodd ymrwymiad eithriadol trwy deithio ar y trên yn wythnosol i fynychu’r sesiynau.

Cwblhaodd ei lleoliad gwirfoddol yn ysgol leol ei phlant ac ers hynny mae wedi cofrestru gydag asiantaeth gyflenwi. Er bod cyfyngiadau trafnidiaeth yn parhau i gyfyngu ar yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael iddi, mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau ystyrlon yn llwyddiannus o fewn cymuned ei hysgol leol.

Mae Dysgwr CH bellach yn rhedeg clwb crefftau ar ôl ysgol yn wythnosol, yn cefnogi ymyriadau darllen ychwanegol, ac yn darparu cymorth gweinyddol yn swyddfa’r ysgol. Mae ei thaith yn dangos sut gall dysgu cymunedol ailadeiladu hyder a chreu llwybrau i wirfoddoli a chyflogaeth.

Dysgwr D

Nid oedd Dysgwr D erioed wedi bod mewn cyflogaeth. Roedd hi a’i gŵr yn ddi-waith ac yn magu dau o blant ifanc.

Cofrestrodd ar y cwrs Cynorthwyydd Addysgu yn ddiweddar a chymerodd ran weithredol mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ychwanegol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, dechreuodd wirfoddoli’n wythnosol yn yr ysgol uwchradd leol a pharhaodd i gymryd rhan mewn hyfforddiant pellach, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Mae Dysgwr D wedi cofrestru gydag asiantaeth gyflenwi ac ar hyn o bryd mae’n aros i gwblhau ei chliriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn dechrau gweithio. Ochr yn ochr â’i dyheadau cyflogaeth, mae’r cwrs wedi ailgynnau ei brwdfrydedd dros ddysgu a datblygiad personol.

O ganlyniad i’w phrofiad cadarnhaol, mae hi bellach wedi cofrestru ar gwrs coleg rhan-amser, gan ddangos mwy o hyder, uchelgais ac ymrwymiad i wella cyfleoedd iddi hi a’i theulu.

Mae’r straeon hyn yn dyst i’r bartneriaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wrth greu Ysgolion Cymunedol lleol sy’n darparu cyfleoedd hirdymor yn y sector addysgu ac addysg.

Mae’r llwybrau mae’r pum dysgwr hyn wedi’u cymryd yn ôl i addysg yn dangos bod addysg oedolion dan arweiniad yn y gymuned yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr unigol ac ar y rhai maent yn eu cefnogi yn eu cymuned leol, boed eu teuluoedd, cyflogwyr, neu gymdeithas ehangach. Nid dim ond yr hyn mae’r dysgwyr yn ei gymryd o’r ystafell ddosbarth o ran sgiliau; y twf personol mewn meithrin hyder, uchelgais a chred sy’n cael ei arddangos gan y dysgwyr hyn.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth