O Gynorthwyydd Addysgu i Gynorthwyydd Dysgu Uwch
21-Chwefror-2025
Sut Llwyddodd y Dysgwr Victoria Collins i Gyflawni ei Chymhwyster Lefel 2 Cymhwyso Rhif, Sgiliau Hanfodol Cymru gydag Addysg Oedolion Cymru
Llwyddodd Victoria Collins i basio ei chymhwyster Cymhwyso Rhif (AoN) lefel 2 gydag Addysg Oedolion Cymru (AOC) ym mis Rhagfyr 2024. Astudiodd Victoria, sy’n byw yng Nghaerdydd, ar-lein ar nosweithiau Llun a Mercher gyda James Short, ei thiwtor AOC. Eisteddodd ei harholiadau yn swyddfa AOC yn Iard y Cowper.
Dyma brofiad Victoria o astudio gydag AOC:
“Fy enw yw Victoria ac rwyf wedi bod yn gynorthwyydd addysgu ers 20 mlynedd. Gan fod fy mhlentyn ieuengaf bellach yn oedran ysgol uwchradd, penderfynais ei fod yn amser i mi symud ymlaen yn fy rôl yn yr ysgol ac astudio i fod yn Gynorthwyydd Dysgu Uwch. Er mwyn cwblhau’r cwrs roedd angen Gradd C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg. Roedd gennyf gymhwyster Saesneg ond nid Mathemateg. Edrychais ar-lein a dod ar draws Addysg Oedolion Cymru ac ymgeisio. Roedd yr ymateb mor gyflym, ac roedd yr holl wybodaeth yn wych. Cefais ddewis o ddiwrnodau a oedd yn cyd-fynd gyda fy mywyd gwaith a theuluol.”
“Y noson cyn y cwrs, roeddwn i mor nerfus a dywedais wrth fy hun, pe bawn i’n dal i deimlo felly ar ôl y sesiwn gyntaf, byddwn yn rhoi’r gorau iddi. Rwyf mor falch fy mod wedi mynychu’r sesiwn gyntaf, gan na allaf gredu faint wnes ei fwynhau unwaith iddo ddechrau. Roedd y tiwtor (James) yn wych ac yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus yn syth bin. Roedd y cyflymder yn berffaith, ac os oedd unrhyw beth nad oeddwn yn sicr ohono, gallwn e-bostio James am gefnogaeth. Cafodd pob sesiwn ei recordio, felly os oedd angen mynd yn ôl dros unrhyw beth neu os nad oedd yn bosibl ei wneud yn y sesiwn, gellir dal i fyny. Argymhellaf y cwrs yn fawr i unrhyw un sy’n ystyried, i fynd amdani! Rwyf nawr yn edrych ar ba gyrsiau eraill sydd ar gael, gan fy mod wedi mwynhau cymaint!”
Mae stori Victoria yn dyst i rym dysgu hyblyg. Mae rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg AOC yn cynnig cymhwyster Lefel 2 Cymhwyso Rhif (Mathemateg) a Chyfathrebu (Saesneg) Sgiliau Hanfodol Cymru. Wedi eich ysbrydoli gan daith ddysgu Victoria? Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg drwy gysylltu gyda Sian Williams – hwylusydd y Rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg Sian.Williams@adultlearning.wales neu gellir ymweld ar wefan yma
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth