O fod yn Ddysgwr i fod yn Diwtor: Taith Grymuso Cathy Cavender
13-Rhagfyr-2024Ym mis Tachwedd 2023, gwnaethom gynnwys astudiaeth achos ar ein dysgwr Cathy Cavender, oedd wedi cwblhau ei hastudiaethau Cwnsela ac wedi symud ymlaen i astudio ar y cwrs Dyfarniad L3 Addysg a Hyfforddiant gydag Addysg Oedolion Cymru (AOC). Flwyddyn yn ddiweddarach, gwnaethom ddal i fyny gyda Cathy i ddarganfod sut aeth ei hastudiaethau yn ystod y flwyddyn, a’r camau nesaf yn natblygiad ei gyrfa. Mae Cathy bellach erbyn hyn yn gweithio fel tiwtor i Addysg Oedolion Cymru.
Dywed Cathy:
“Rwyf bellach yn diwtor gydag Addysg Oedolion Cymru, ac rwy’n gobeithio sefydlu hyfforddiant cwnsela ar hyd ardaloedd arfordirol Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Chonwy. Ar hyn o bryd rwy’n cyflwyno cwrs sgiliau cwnsela sylfaenol heb ei achredu i sefydliad partner o’r enw KIM-Inspire, ac mae’n debygol byddaf yn cyflwyno’r cwrs Sgiliau Cwnsela Lefel 2 iddynt yn gynnar y flwyddyn nesaf.”
Mae Cathy, sydd wedi byw gydag ME ers 25 mlynedd ac sydd hefyd wedi cael trafferthion yn ddiweddar gyda COVID hir, wedi profi’r gefnogaeth gafodd gan AOC wrth symud ymlaen i’w rôl fel tiwtor yn brofiad anhygoel a thrawsnewidiol. Mae wedi rhoi llwybr iddi ddychwelyd i’r gwaith ar gyflymder sy’n gyfleus iddi wrth gynnig digon o hyblygrwydd i ofalu am ei hiechyd. Mae gwerthoedd AOC wedi bod yn hynod o bwysig i Cathy ac yn rhywbeth mae’n ei ystyried yn amhrisiadwy.
“Derbyniais lawer o gefnogaeth a chefais fy nghynnwys gymaint gan holl dîm AOC. Mae’r drysau wedi bod ar agor i mi gydol yr amser, ac mae’r hyblygrwydd a gynigir ar gyfer fy astudiaethau a’m hamgylchedd gwaith, wir wedi bod o gymorth i mi ddatblygu i fod yn diwtor. Yn benodol, mae fy nhiwtor cwnsela, Louise Tyson a’r tiwtor Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant, Sam Emmett, ynghyd ar ddwy CDC sef Jane Watkins a Nicola Holmes, wedi rhoi’r hyder i mi gyflawni pethau a chanfod fy ffordd fel tiwtor. Ystyriwyd fy lles a’m hiechyd drwy bob cam o’r daith; gwneir AOC i chi deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi.”
Wrth astudio dan arweiniad tiwtor AOC Louise Tyson, cysylltodd Cathy gyda’r arddull addysgu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac mae Cathy yn defnyddio’r arddull yn ei haddysgu. Louise awgrymodd dylai Cathy gymryd y cam nesaf i ddod yn diwtor. Cyn y pandemig COVID, gweithiodd Cathy fel Athrawes Nofio, gyda’r profiad o helpu’r rhai oedd yn ofni mynd i’r dŵr hyd at hyfforddi athletwyr lefel uchaf. Roedd yn amgylchedd oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio a chyfarwyddo llawer o bobl sydd gyda heriau a phrofiadau gwahanol gyda’r dŵr wedi rhoi Cathy mewn sefyllfa dda i fod yn diwtor, gan ddefnyddio’r arddull addysgu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn sail i’w gwaith.
Dywedodd Louise :
“Mae brwdfrydedd Cathy dros ei maes pwnc yn disgleirio wrth iddi gyflwyno ei gwybodaeth sylfaenol a chreadigedd i ennill sylw dysgwyr. Mae ei phersonoliaeth gynnes yn cryfhau ei pherthynas gyda’r gynulleidfa ymhellach, sy’n hanfodol ar gyfer medru hyfforddi.”
Mae ei phrofiadau wedi helpu i baratoi Cathy ar gyfer ei rôl fel tiwtor, gan ei bod yn gallu uniaethu gyda’r sefyllfaoedd mae ei dysgwyr yn mynd drwyddynt, a gall gynnig cefnogaeth debyg i’r hyn gafodd yn ystod ei chyfnod fel dysgwr gydag AOC. Ychwanega Cathy:
“Mae’n wych cael bod yn diwtor ar gyrsiau cwnsela AOC, wedi i mi fod yn ddysgwr ar eu cyrsiau hyfforddiant cwnsela (diploma lefel 3 a lefel 4) a’r Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant! Mae’n wych gallu cynnig yr un hyfforddiant a newidiodd fy mywyd gymaint er gwell!”
Ychwanegodd Sam Emmett at hyn:
“Mae wedi bod yn bleser mawr cyfarfod a chynorthwyo Cathy ar ei llwybr i fod yn diwtor gydag Addysg Oedolion Cymru. Yn ystod ei hyfforddiant yn AOC daeth yn amlwg o gyfnod cynnar iawn ei bod hi’n hyddysg yng ngweithiau Carl Rogers, a bod arddull addysgu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth wraidd athroniaeth addysgu bersonol Cathy. Mae’n angerddol am ei maes pwnc (cwnsela) ac mae ganddi awydd gwirioneddol i wella rhagolygon pobl eraill sydd am symud ymlaen i gwnsela. Rwy’n falch iawn o weld Cathy wedi dechrau dysgu i AOC a dymunaf y gorau iddi i’r dyfodol.”
Gosododd Cathy rhai cynlluniau uchelgeisiol iddi ei hun dros yr 20 mlynedd nesaf i sefydlu rhwydwaith hyfforddi cwnsela grymus ar draws arfordir Gogledd Cymru, rhywbeth bydd yn ei wneud ar ei chyflymder ei hun wrth iddi anelu at ddychwelyd i weithio’n llawn amser wrth i’w hiechyd gwella:
“Rwy’n bwriadu creu cyfleoedd ar gyfer Cyrsiau Cwnsela Lefel 2 achrededig, gan roi mwy o gyfleoedd i’r rhai sydd eisiau bod yn gwnselwyr yng Ngogledd Cymru. Dyma’r ardaloedd y bwriadaf eu cynnwys – Treffynnon, Prestatyn, Abergele, Y Rhyl, Bae Colwyn a Llandudno. Ochr yn ochr â hyn, darparaf gwnsela ar-lein hefyd i elusen yn y canolbarth o’r enw Rekindle, sy’n cael ei redeg gan un o fy nghydweithwyr o’r cwrs Diploma Lefel 4 Cwnsela gan AOC.”
Dangosodd Cathy ymrwymiad mawr i’w hastudiaethau, sydd wedi arwain at symud ymlaen i yrfa gydag AOC fel tiwtor cwnsela. Newidiodd Cathy ei gyrfa; mae wedi ail-darganfod ei hyder ar ôl cyfnod heriol ac wedi dod o hyd i gred bod cysylltiad dynol cefnogol yn gwneud byd o wahaniaeth. Cathy, rydym yn eich croesawu i dîm tiwtoriaid AOC ac yn edrych ymlaen at barhau i’ch cefnogi yn ystod y cam nesaf ar eich taith.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth