Noson i’w Chofio: Enillodd Grŵp Dysgu Rhieni yn Ysgol Uwchradd Cathays wobr glodfawr yn noson Gwobrau Dewi Sant | Addysg Oedolion Cymru

Noson i’w Chofio: Enillodd Grŵp Dysgu Rhieni yn Ysgol Uwchradd Cathays wobr glodfawr yn noson Gwobrau Dewi Sant

5-Mawrth-2026
Rhannu

Daeth blwyddyn ryfeddol i’r Grŵp Dysgu Rhieni yn Ysgol Uwchradd Cathays a’r tiwtor Christina Roy i ben wrth iddynt ennill Gwobr Arwr Cymunedol yng Ngwobrau Dewi Sant, a gynhaliwyd yn y Senedd nos Iau ddiwethaf. Cyflwynwyd y wobr i Diwtor Addysg Oedolion Cymru (AOC) Christina Roy gan y Prif Weinidog Eluned Morgan.

Mae’r gydnabyddiaeth genedlaethol hon yn dilyn deuddeg mis rhyfeddol i’r grŵp, a oedd yn cynnwys gwahoddiad Christina i Barti Gardd y Brenin ym Mhalas Buckingham (am ei gwaith gyda’r grŵp) a’r grŵp yn ennill Gwobr Addysg Oedolion Cymru a Gwobr Dysgwr Ysbrydoli!.

Gwobrau cenedlaethol Cymru yw Gwobrau Dewi Sant, a enwebir gan y cyhoedd i anrhydeddu’r rhai sy’n hyrwyddo mentrau sy’n gwella bywydau ledled Cymru. Rhannodd y Grŵp Dysgu Rhieni’r llwyfan gydag enillwyr nodedig eraill, gan gynnwys Max Boyce MBE (Gwobr Diwylliant), Jess Fishlock MBE (Gwobr Chwaraeon), Liz Hopkin, Darrel Campbell a Fiona Elias (Gwobr Dewrder).

Mae’r Grŵp Dysgu Rhieni yn Ysgol Uwchradd Cathays yn enghraifft ryfeddol o rymuso cymunedau ar lawr gwlad yng Nghaerdydd. Ers 2014, mae’r fenter fywiog hon wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi rhieni – menywod o gefndiroedd amrywiol yn bennaf – trwy ddarparu cyrsiau achrededig a heb eu hachredu, clwb brecwast, a rhaglen rhannu bwyd hollbwysig. Nod parhaol y Grŵp Dysgu Rhieni yw cynhwysiant, gwytnwch a thrawsnewid cadarnhaol i deuluoedd ledled Caerdydd.

Dywedodd Kathryn Robson, Prif Swyddog Gweithredol Addysg Oedolion Cymru, a oedd hefyd yn bresennol ar y noson:

“Roedd gweld Grŵp Dysgu Rhieni yn Ysgol Uwchradd Cathays yn cael ei gydnabod gyda Gwobr Dewi Sant yn gyffrous iawn. Creodd Christina Roy rhywbeth arbennig – lle croesawgar ac ymarferol ble mae rhieni’n meithrin hyder a sgiliau ac yna’n trosglwyddo’r wybodaeth honno i’w teuluoedd a’u cymuned. Rydym yn hynod falch o Christina a phawb sy’n gysylltiedig.”

Rhaid rhoi crybwylliad arbennig i Robert Scott hefyd, a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng Ngwobr Gwasanaethu’r Cyhoedd. Mae’n swyddog carchar ymroddedig yng Ngharchar y Berwyn, ac mae taith Robert yn crynhoi grym trawsnewidiol addysg oedolion. Ar ôl cwblhau ei gymhwyster Hyfforddi’r Hyfforddwr Lefel 2 gydag Addysg Oedolion Cymru, mae Robert bellach yn hwyluso sesiynau hyfforddi dan arweiniad cyfoedion ar gyfer ei gyd swyddogion. Mae ei ymrwymiad wedi cryfhau’r bartneriaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru, Cymdeithas y Swyddogion Carchar a Charchar y Berwyn, gan feithrin diwylliant o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Estynna Addysg Oedolion Cymru longyfarchiadau gwresog i’r holl enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, am eu cyflawniadau eithriadol dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolchwn hefyd i Lywodraeth Cymru am gynnal noson mor gofiadwy i ddathlu cyflawniadau eithriadol pobl o bob cefndir yng Nghymru a thramor.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth